Cyngor Er Diogelwch Gyrwyr

Cyfyngiadau cyflymder

Mae cyfyngiadau cyflymder yn y DU’n amrywio yn ôl y math o gerbyd a’r math o yrwyr ar y ffordd.

Mae gyrru dim ond ychydig o filltiroedd dros y cyfyngiad ar yr arwydd wir yn gwneud gwahaniaeth, a gallai olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Wrth yrru ar 35mya rydych chi ddwywaith yn fwy tebygol o ladd cerddwr nac os ydych yn gyrru ar 30mya (RoSPA – Y Gymdeithas Frenhinol dros Atal Damweiniau).

Drwy Sefyll lan dros arafu lawr byddwch yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb.

Cofiwch os oes goleuadau stryd yna mae'n debygol y byddwch mewn cyfyngiad o 30mya. 

Pan nad yw'r cyfyngiad cyflymder diofyn lle mae goleuadau stryd yn 30mya, bydd arwyddion i'ch cynghori ynghylch y cyfyngiad perthnasol.

Dylech nodi nad yw’r cyfyngiadau cyflymder hyn yn disodli unrhyw gyfyngiadau sy’n cael eu gosod gan ddyfeisiau cyfyngu cyflymder.

Am ragor o wybodaeth am ddyfeisiau cyfyngu cyflymder gweler “Road Vehicles (Construction and Use) Amendment No.5 Regulations 2005 (Road Traffic Act 1988)”

I wneud cais am y sticer Gwybod eich Cyfyngiad, cliciwch fan hyn.

Rheoliadau Arwyddion Traffig

Rhaid i'r holl arwyddion sy'n cael eu gosod ar y briffordd gyhoeddus gadw at gyfarwyddyd statudol y llywodraeth o'r enw 'Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2016' (TSRGD), neu eu hawdurdodi'n benodol gan yr Adran Drafnidiaeth (AD). 

Mae TSRGD yn dynodi maint, siâp, geiriad a lleoliad arwyddion. Gellir gweld copi yn:

http://www.legislation.gov.uk/uksi/2016/362/contents/made

Blinder

Os byddwch yn syrthio i gysgu wrth yrru rydych mewn perygl o ladd eich hun, eich teithwyr a phobl diniwed eraill.

Y ffeithiau:-

  • Mae damweiniau sy’n ymwneud â chwsg yn fwy tebygol na damweiniau eraill i arwain at farwolaeth neu anaf difrifol.
  • Yr amseroedd mwyaf cyffredin ar gyfer damweiniau yw yn ystod oriau mân y bore ac ar ôl cinio.

Cyngor:-

  • Cynlluniwch eich taith i gynnwys egwyl o 15 munud bob dwy awr
  • Peidiwch â chychwyn taith hir os ydych chi eisoes wedi blino.
  • Ceisiwch osgoi teithiau hir rhwng hanner nos a 6 y bore pan rydych chi’n debygol o fod yn teimlo’n gysglyd beth bynnag.
  • Os byddwch yn dechrau teimlo’n gysglyd – dewch o hyd i le diogel i stopio – nid ar y llain galed.
  • Yr unig beth sydd wir yn gwella teimlo’n gysglyd yw cael cwsg go iawn.

Os oes gennych chi gyflwr meddygol sy’n gysylltiedig â theimlo’n gysglyd all effeithio ar eich gyrru rhaid i chi roi gwybod i’r DVLA. Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os na ddwedwch wrth y DVLA. Gallwch hefyd gael eich erlyn os ydych chi mewn gwrthdrawiad.

Defnyddwyr Eraill Y Ffordd

Byddwch yn ymwybodol:

Wrth gario teithwyr

  • Gwnewch yn siŵr fod pawb wedi cau eu gwregys cyn cychwyn y cerbyd.
  • Dywedwch wrthynt am dawelu os ydynt yn swnllyd ac yn tynnu eich sylw.
  • Ffocyswch ar gyrraedd mewn un darn, yn hytrach na cheisio gwneud argraff drwy gornelu ar gyflymder uchel, goddiweddyd ac ati.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ffocysu ac yn effro ar gyfer y daith.
  • Cadwch o fewn y cyfyngiadau cyflymder.
  • Peidiwch â gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
  • Gwiriwch fod pob teithiwr yn gwisgo gwregys.

Beicwyr

  • Gwyliwch am feicwyr, yn enwedig wrth droi – gwnewch gyswllt llygaid os yn bosibl i ddangos eich bod wedi eu gweld.
  • Defnyddiwch eich cyfeirwyr – rhowch signal er mwyn i feicwyr allu arafu.
  • Rhowch le i feicwyr – os nad oes digon o le i basio, arhoswch yn ôl.
  • Cofiwch wirio am feicwyr wrth i chi agor drws y car.
  • Peidiwch â gyrru dros linellau stopio blaen – mae’r rhain yn caniatáu i feicwyr fynd ar y blaen a chynyddu pa mor weladwy ydynt.

Cerbydau araf

  • Byddwch yn ymwybodol o gerbydau araf ar y ffyrdd wrth i chi yrru.