Gorfodi

O fewn 14 diwrnod llawn o'r camera'n recordio tramgwydd honedig, rhoddir hysbysiad o fwriad i erlyn i geidwad cofrestredig y cerbyd. Bydd yr hysbysiad hwn yn cynnwys dyddiad, amser a lleoliad y tramgwydd honedig.

Os nad ydych yn geidwad cofrestredig y cerbyd, yna rhoddir hysbysiad o fwriad i erlyn newydd i chi dan eich enw. Mae gan y ceidwad cofrestredig gyfrifoldeb cyfreithiol dan adran 172 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 i ddarparu enw'r gyrrwr a bydd angen cwblhau'r ffurflen gwybodaeth i yrwyr sy'n amgaeedig ynghyd â'r hysbysiad o fwriad i erlyn (NIP).

Ceir ffurflen gwybodaeth i yrwyr ynghyd â'r hysbysiad hwn. Mae'n gyfrifoldeb cyfreithiol ar geidwad cofrestredig y cerbyd i ddychwelyd y ffurflen hon gan nodi enw'r gyrrwr ar adeg y tramgwydd honedig. Golyga hyn y gall y derbynwyr ddewis i dderbyn y gosb neu fynd â'u hachos gerbron y llys. Rhaid ymdrin ag achosion cyflymder o fwy na 26mya gerbron y llys - ni ellir rhoi cynnig amodol o hysbysiad o gosb benodol.

Rhaid anfon unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â NIP, Cynnig Amodol o Gosb Benodol neu Gwrs Ymwybyddiaeth o Gyflymder i gyfeiriad yr heddlu ar eich gohebiaeth.

Canllawiau Troseddau Traffig y Ffyrdd ar Hysbysiadau Cosb Benodedig