Ein Camerau

 

Y Camau Gorfodi a Ddarparwn

Ni sy'n gyfrifol am gamerâu cyflymder sefydlog, camerâu golau coch, camerâu cyflymder cyfartalog a chamerâu gorfodi symudol.

Mae'r camerâu yma yn ein helpu i annog pobl i yrru o fewn y terfynau cyflymder a chadw pawb sy'n defnyddio ein ffyrdd yn ddiogel. Ein camerâu mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n gweld y nifer lleiaf o droseddau, nid y nifer mwyaf.

Gall ein camerâu gorfodi symudol ganfod troseddau cyflymder, troseddau ffôn symudol a throseddau gwregys diogelwch. Gallant chwilio am yr holl droseddau hyn ar yr un pryd, er ein bod yn cynnal gweithrediadau i ganolbwyntio ar droseddau penodol trwy gydol y flwyddyn.

 

Ble Mae'r Camerâu

Rydym yn defnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru i'n helpu i leoli'r camerâu ar draws y wlad. Mae sut a phryd y byddwn yn defnyddio'r camerâu yn dibynnu ar hanes a phroblem diogelwch ffyrdd ym mhob lleoliad. Gellir eu gosod mewn ardaloedd lle mae goryrru yn bryder, lle mae hanes o anafiadau ar y ffyrdd, neu mewn ardaloedd o amgylch ysgolion neu waith ffordd.

Rydym hefyd yn ymateb i bryderon eich gymuned. Rydym yn cwblhau arolygon lle mae cymunedau wedi dweud wrthym fod gyrwyr sy'n goryrru yn gwneud eu ffyrdd yn fwy peryglus i bawb.

Gallwch weld ble mae ein camerâu ar ein Hafan.

Am fanylion llawn y meini prawf gwrthdrawiadau ar gyfer gosod camerâu gweler Canllawiau Llywodraeth Cymru a Meini Prawf Safle GanBwyll 2014.

 

PWY SYDD Y TU ÔL I'R CAMERÂU

Mae cerbydau GanBwyll yn cael eu staffio gan Staff yr Heddlu neu Swyddogion yr Heddlu sydd wedi cael hyfforddiant llawn, sy'n gwylio cyflymder cerbydau ar ein ffyrdd. Os byddant yn credu bod cerbyd yn mynd dros y terfyn cyflymder, byddant yn defnyddio'r offer camera i gadarnhau a oes trosedd wedi digwydd, gan ei chofnodi er mwyn erlyn os bydd angen.

Caiff pob trosedd ei chofnodi ar gerdyn storio digidol a'i anfon i'n Swyddfa Docynnau Ganolog i brosesu'r drosedd.

Gall y Speedscope ganfod troseddau hyd at 1,000 metr i ffwrdd, er y caiff y rhan fwyaf o'r gwaith ei wneud yn llawer agosach at y cerbyd gorfodi. Caiff yr amser, y dyddiad, y cyflymder, y pellter, cod y safle, a chyfeiriad y cerbyd, eu cofnodi ar y ddelwedd a gynhyrchir i'r gyrrwr a droseddodd.

 

PA GAMERÂU RYDYM YN EU DEFNYDDIO

  • System Camera Cyflymder Cyfartalog SPECS3
  • VECTOR SR Cyflymder Sefydlog (canfod awtomatig digidol)
  • LTI 20.20 UltraLyte 1000 Cyflymder Symudol (Cerdyn CF canfod â llaw)
  • Cyflymder RedSpeed ​​ar Wyrdd Sefydlog (canfod awtomatig digidol)
  • Cyflymder RedSpeed ​​​ar Goch Sefydlog (canfod awtomatig digidol)
  • Cyflymder Sefydlog Ciwbig (Gatso yn gynt) canfod awtomatig digidol
  • System Camera Cyflymder Cyfartalog Neoleg ASE/TASCAR (3M yn flaenorol)
  • Cyflymder laserau ProLaser lll a System Gorfodi Cyflymder LaserWitness Lite
  • Trucam Teletraffig
  • Cyflymder Ciwbig ar Wyrdd
  • Cyflymder Digidol Ciwbig - GATSOMETER TYPE-24 IDC
  • Cyflymder Digidol Ciwbig - GATSOMETER RS-GS11-UK
  • Cyflymder Digidol Ciwbig (Amrywiol) GATSOMETER GS11-P-UK Math 1
  • LTI 20:20 TruCam
  • LTI 20:2 TruCam
  • LTI 20:20 UltraLyte 1000
  • Truvelo LASERwitness Lite ProLaser III
  • Truvelo Pro laser III/LaserWitness Lite

 

Cymeradwyaeth Teip y Swyddfa Gartref: Mae'r holl ddyfeisiau hyn wedi'u Cymeradwyo o ran Teipio gan y Swyddfa Gartref fel rhai cywir, dibynadwy, a gallant ddarparu tystiolaeth dderbyniol mewn achos o erlyn. Caiff Cymeradwyaeth Teip y Swyddfa Gartref ond ei roi ar gyfer dyfeisiau gorfodi sydd wedi’u gweithgynhyrchu neu eu cyflenwi i’r meini prawf llym a osodwyd gan Gangen Datblygu Gwyddonol yr Heddlu y Swyddfa Gartref (PSDB) a bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan yr heddlu.