Cwestiynau Cyffredin

Wedi Eich Dal Yn Goryrru

Rydych wedi derbyn Hysbysiad am eich bod naill ai'n geidwad cofrestredig ar gerbyd neu wedi cael eich enwebu fel gyrrwr cerbyd yr honnir ei fod wedi cyflawni trosedd.  Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ddweud wrthym os mai chi neu rywun arall oedd yn gyrru, ac os yr ail, darparu eu manylion.  Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth hon i ni, rydych yn debygol o gael eich galw i'r Llys, ac os cewch eich euogfarnu, byddwch yn derbyn dirwy o hyd at £1,000 a 6 phwynt cosb.

Pan fyddwch wedi rhoi'r manylion hyn gall y gyrrwr gael cyfle i fynychu cwrs ymwybyddiaeth cyflymder.  Os byddwch yn cwblhau cwrs yn llwyddiannus ni fyddwch yn cael dirwy na phwyntiau cosb. 

Dewis arall, os na fyddwch yn cael cynnig cwrs neu os byddwch yn dewis peidio â derbyn, yw talu dirwy cosb benodedig a derbyn 3 phwynt ar eich trwydded.  Os oeddech yn gyrru ar gyflymder a oedd yn sylweddol dros y cyfyngiad, rydych yn debygol o gael eich galw i'r llys heb gael cynnig cosb benodedig gwrs.  Cyn bod unrhyw un o'r opsiynau hyn ar gael, rhaid i chi ddweud wrthym pwy oedd y gyrrwr ar y pryd. 

Os byddwch yn mynd i'r llys, bydd yr ynadon yn penderfynu a gyflawnoch chi'r drosedd ac yn penderfynu ar unrhyw ddirwy neu bwyntiau cosb a ddyfernir.  Fe'ch atgoffir bod gan y llysoedd yr hawl i gynyddu'r ddirwy a'r pwyntiau cosb a ddyfernir os byddant yn ystyried hynny'n briodol, ac os cewch eich euogfarnu rydych hefyd yn debygol o orfod talu costau erlyn.

Rhaid i chi GWBLHAU yr adrannau perthnasol a LLOFNODI yr hysbysiad amgaeedig.  Dychwelwch yr hysbysiad i'r Swyddfa Docynnau Ganolog a nodir o fewn 28 niwrnod.

Anfonir gohebiaeth bellach atoch os ydych yn cwblhau'r hysbysiad fel y gyrrwr.  Os nad ydych yn derbyn gohebiaeth o fewn 28 niwrnod o ddychwelyd yr hysbysiad wedi'i gwblhau, cysylltwch â'r CTO ar eich ffurflen -

Gogledd Cymru 01745 539393 [llinellau ffon ar agor rhwng 09:00 a 12:30]

Canolbarth a De Cymru 01443 660402 [llinellau ffon ar agor rhwng 09:00 a 12:00]

Os nad ydych yn ymateb o fewn 28 niwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwn efallai y cewch eich erlyn am fethu â darparu gwybodaeth.

Mae cwrs yn ddewis arall i ddirwy a phwyntiau cosb ar y drwydded yrru. Nod y camerâu yw lleihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd.  Mae'n well gennym addysgu gyrwyr yn hytrach na'u cosbi gyda dirwyon a phwyntiau cosb.  Mae cwrs achrededig ar gael mewn rhai amgylchiadau, ac yn llawer mwy tebygol o wella ymddygiad gyrwyr ac o ganlyniad yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel.  Mae cyrsiau ar gael i yrwyr sy'n ymateb yn gyflym i'r hysbysiadau ac a oedd yn gyrru dim mwy na 10% +9 milltir yr awr yn uwch na'r cyfyngiad cyflymder a bostiwyd.  Os oes oedi cyn adnabod y gyrrwr, mae'n annhebygol y caiff cwrs ei gynnig.

Na. Mae canllawiau cenedlaethol yn nodi mai dim ond un cwrs y gall person fynd arno o fewn unrhyw gyfnod o dair blynedd. 

Na, mae presenoldeb ar gwrs yn ddewis amgen i ddirwy neu unrhyw achos llys.  Unwaith y bydd gyrrwr yn cwblhau'r cwrs, mae'r mater ar ben.  Fodd bynnag, bydd rhaid i chi dalu am gost y cwrs. Darperir y cwrs gan TCC yn ardal Heddlu Gwent, De Cymru a Gogledd Cymru gyda chost o £88. Os cymerwch y cwrs gyda Dyfed-Powys bydd cost o £92. Ni fyddwch yn gallu mynychu cwrs pellach o fewn 3 blynedd.

Mae GanBwyll yn gorfodi o fewn Canllawiau Cenedlaethol NPCC.

O fewn 14 diwrnod clir o gamera'n cofnodi trosedd honedig, cyflwynir hysbysiad o fwriad i erlyn i geidwad cofrestredig y cerbyd. Bydd y rhybudd hwn yn cynnwys dyddiad, amser a lleoliad y drosedd honedig.

Bydd ffurflen gwybodaeth i yrwyr wedi'i chynnwys gyda'r hysbysiad. Mae gan geidwad cofrestredig y cerbyd gyfrifoldeb cyfreithiol i ddychwelyd y ffurflen hon yn nodi pwy oedd y gyrrwr ar adeg y drosedd honedig. Oni bai bod y cyflymder honedig yn fwy na 26mya dros y terfyn, bydd y Bartneriaeth Lleihau Anafiadau fel arfer yn gwneud cynnig amodol o gosb benodedig. Mae hyn yn golygu y gall derbynwyr ddewis derbyn y gosb neu gael gwrandawiad gerbron llys. Rhaid delio ag achosion sy'n cynnwys cyflymder o fwy na 26mya dros y terfyn gerbron llys - ni ellir gwneud cynnig amodol o gosb benodedig.

Os nad chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd, yna bydd angen cyhoeddi hysbysiad o fwriad i erlyn newydd yn eich enw. Mae gan y ceidwad cofrestredig gyfrifoldeb cyfreithiol o dan adran 172 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 i enwi'r gyrrwr a bydd rhaid i chi gwblhau ffurflen wybodaeth gyrrwr, a amgaeir gyda'r hysbysiad o fwriad i erlyn.

Gellir talu dros y ffôn neu ar-lein bellach - mae'r manylion ar y Cynnig Amodol.  Rhaid anfon y drwydded yrru ymlaen i’r Llys o fewn 7 niwrnod o wneud taliad.  Rhoddir cod awdurdodi pan gaiff taliad ei wneud sy'n cynorthwyo GLlTEM i adnabod y drwydded yrru gyda'r taliad.  

Llinell dalu awtomataidd 24 awr 0300 1231 481

Ar-lein : https://penaltynotice.homeoffice.gov.uk

HYSBYSIAD PWYSIG – GWEFANNAU TALU ANSWYDDOGOL

Daeth gwybodaeth i’n sylw bod gwefannau’n cynnig gostyngiadau sylweddol ar ddirwyon neu hysbysiadau o dâl cosb – peidiwch â’u defnyddio hwy. Er y bydd y wefan yn cymryd eich arian, ni fydd eich dirwy neu eich cosb benodol yn cael ei thalu ac mae’n bosib y byddwch yn wynebu camau gorfodi ychwanegol. Nid oes unrhyw ostyngiadau na mentrau gan y llywodraeth yn bodoli ar gyfer unrhyw fath o docyn.

Mae’n RHAID i chi ddefnyddio’r dulliau talu swyddogol a nodir ar eich hysbysiad. Os daw cwsmeriaid o hyd i wefannau o’r fath, fe’u cynghorir i roi gwybod amdanynt i www.actionfraud.police.uk sy’n eu monitro a’u cadw.

Na. Mae Cynnig Amodol Hysbysiad Cosb Benodedig yn ddewis rhagnodedig amgen i erlyn. Mae lefel y gosb ariannol a'r pwyntiau wedi'u gosod gan ddeddfwriaeth. Y dewis yw derbyn neu wrthod y Cynnig Amodol o Gosb Benodedig yn ei chyfanrwydd neu beidio.

Na. Rydym yn gallu dweud pa gerbyd a ysgogodd y camera. Mae'r camerâu diogelwch yn cymryd dau lun, hanner eiliad ar wahân, ac mae llinellau gwyn ar y ffordd fel y gallwn ddweud pa gerbyd sydd wedi teithio ymhellach ac felly sy'n teithio'n gyflymach.

Rhaid i chi gwblhau pob rhan o'r ffurflen Gwybodaeth Gyrwyr gan gynnwys enw a chyfeiriad y gyrrwr ar adeg y drosedd honedig.  Bydd rhaid ei dychwelyd i'r Bartneriaeth Camerâu Diogelwch. Mae gennych rwymedigaeth gyfreithiol o dan adran 172 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 i ddarparu'r wybodaeth hon. Bydd y gyrrwr wedyn yn derbyn hysbysiad o fwriad i erlyn yn ei enw ei hun.

Mae gan geidwad cofrestredig y cerbyd rwymedigaeth gyfreithiol o dan adran 172 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 i enwi'r gyrrwr ar adeg trosedd honedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gwmni, sef ceidwad cofrestredig cerbyd. Bydd rhaid i chi gwblhau pob rhan o'r ffurflen gwybodaeth gyrwyr gan gynnwys enw a chyfeiriad y gyrrwr ar adeg y drosedd honedig. Fe'ch cynghorir yn gryf i gadw cofnodion o ddefnyddio cerbydau cwmni.

Rhaid i chi gwblhau pob rhan o'r ffurflen gwybodaeth gyrwyr gydag enw a chyfeiriad y prynwr er mwyn i hysbysiad o fwriad i erlyn allu cael ei gyhoeddi yn ei enw.

Efallai y byddwch yn dal i allu cydymffurfio â Chynnig Amodol. Os byddwch yn bodloni'r gofynion, caiff eich trwydded/record ei harnodi gyda nifer y pwyntiau cosb a roddir ar gyfer y drosedd. Cyfeiriwch at eich Cynnig Amodol am fanylion a chyfarwyddiadau pellach.

Mae Adran 172 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 yn gosod cyfrifoldeb cyfreithiol ar geidwad cofrestredig cerbyd i roi enw a chyfeiriad gyrrwr y cerbyd ar adeg y drosedd honedig. Gall methu â chwblhau a dychwelyd y ffurflen gwybodaeth gyrrwr arwain at erlyn y ceidwad cofrestredig am fethu â rhoi'r wybodaeth. Fe'ch cynghorir yn gryf i gadw cofnod o bwy sy'n gyrru eich cerbyd bob amser.

Bydd rhaid i chi ysgrifennu at y Bartneriaeth Lleihau Anafiadau gan roi'r rhif cyfeirnod trosedd a roddwyd i chi gan yr heddlu pan roddoch wybod bod y cerbyd wedi'i ddwyn. 

Mae cynnig 'Cosb Benodedig' yn ffordd syml i'r gyrrwr gael ei ryddhau o atebolrwydd am y drosedd drwy dalu dirwy sefydlog a derbyn pwyntiau ar ei drwydded/thrwydded. Fodd bynnag, mae gan yrrwr y cerbyd yr hawl i ofyn am wrandawiad llys a dylai ystyried yr opsiwn hwn os yw'n dymuno herio'r drosedd a/neu gyflwyno mesurau lliniaru. 

Mae'r llinellau a baentiwyd ar y ffordd ar safleoedd sefydlog yno fel 'marciau gwirio eilaidd' ac yn cael eu defnyddio i wirio pa gerbyd oedd yn goryrru. Unwaith eto, gallwch edrych i weld ein bod wedi nodi'r cerbyd perthnasol yn gywir mewn unrhyw ffotograff. Mae rhai camerâu'n cymryd dau lun, hanner eiliad ar wahân. Mae'r llinellau'n caniatáu i ni fesur y pellter a deithiwyd yn yr hanner eiliad hwnnw i fod yn sicr ei fod yn cyfateb i'r cyflymder a gofnodwyd gan y camera.

Nid yw camgymeriad ar hysbysiad o fwriad i erlyn yn ei annilysu yn awtomatig. Os ydych yn credu y gallai fod camgymeriad ar yr hysbysiad a gawsoch, dylech gysylltu â'r Swyddfa Docynnau Ganolog berthnasol a nodwyd ar yr hysbysiad o fwriad i erlyn.

Nid oes cyfleuster ar gyfer talu'r gosb benodedig mewn rhandaliadau. Os ydych yn dymuno talu mewn rhandaliadau caiff y mater ei gyfeirio at lys.

Os byddwch yn cael 12 neu fwy o bwyntiau cosb o fewn cyfnod o dair blynedd, gallech wynebu gwaharddiad o dan y system pentyrru pwyntiau. Mae pwyntiau cosb am oryrru a throseddau golau coch yn ddilys am dair blynedd o ddyddiad y drosedd, ond rhaid iddynt aros ar eich trwydded am bedair blynedd. I gael mwy o wybodaeth am arnodiadau trwydded yrru, cysylltwch â'r DVLA ar 03007906801 neu ewch i'r wefan.

Na. Os byddwch yn derbyn cosb benodedig, mae'r ddirwy a'r pwyntiau wedi'u gosod gan y Llywodraeth ac felly nid ydynt yn agored i drafodaeth.

Os credwch y gallwch gyflwyno achos, dylech ysgrifennu a gofyn i'r mater fynd i'r Llys.  Noder na dderbynnir 'nid wyf yn gwybod y cyfyngiad cyflymder', 'nid wyf yn adnabod yr ardal' na 'roedd y ffordd yn glir' fel rhesymau dilys am fynd dros y cyfyngiad cyflymder. Os ydych yn bwriadu apelio, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch o hyd i ddychwelyd y ffurflen gwybodaeth gyrrwr atom o fewn 28 niwrnod. Ni ddylech oedi cyn anfon y ffurflen hon wrth i chi baratoi eich apêl neu aros am benderfyniad.

Mae hawl gennych i herio'r drosedd honedig yn y llys. Os cewch eich euogfarnu, bydd yr ynadon yn penderfynu'r gosb, a all fod yn fwy na'r hyn a osodir gan gosb benodedig ac efallai y bydd rhaid i chi hefyd dalu costau llys.

Ar draffyrdd a chefnffyrdd, caiff cyfyngiadau cyflymder eu gosod gan yr Asiantaeth Priffyrdd. Ar bob ffordd arall, yr Awdurdod Lleol perthnasol sy'n gwneud. Cyn gosod cyfyngiad cyflymder, ymgynghorir â'r heddlu a chyhoeddir gorchymyn rheoleiddio traffig lle bo angen.  Ar ffordd gyfyngedig lle mae system goleuadau stryd, mae cyfyngiad cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr oni bai bod cyfyngiad arall wedi'i nodi. Nid oes angen Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer y rhan fwyaf o derfynau 20mya. 

Na. Nid yw meddu ar drwydded yrru lân yn gwneud goryrru neu fynd trwy olau coch yn llai peryglus na chanlyniadau gwrthdrawiad yn llai trist. Felly, nid yw bod â thrwydded lân yn rhoi'r hawl i chi gael eich eithrio rhag erlyniad.

Nid yw hwn yn esgus dilys. Er eich diogelwch eich hun yn ogystal ag i gydymffurfio â'r gyfraith, rhaid i chi allu gyrru eich cerbyd yn ddiogel, ymateb i beryglon posib ac ufuddhau i arwyddion traffig gorfodol bob amser. Nid yw mynd dros y cyfyngiad yn anfwriadol yn gwneud goryrru'n dderbyniol neu ganlyniadau gwrthdrawiad ar gyflymder uchel yn llai trist. Am fwy o wybodaeth am gyfyngiadau cyflymder a phellteroedd stopio, ewch i'n tudalen gwybod y gyfraith.

Bydd gan ardal 20mya NAILL AI system o oleuadau stryd neu arwyddion cyfyngiad cyflymder 20mya. Mae rheoliadau'n gwahardd darparu arwyddion ailadrodd 20 mya ar ffyrdd sy'n cyfyngu i 20mya lle mae system o oleuadau stryd yn ei le. Am fwy o wybodaeth mae Rheolau'r Ffordd Fawr ar gael i'w gweld ar https://www.gov.uk/browse/driving/highway-code

Ni dderbynnir yr esgus hwn. Fel y nodir yn Rheolau'r Ffordd Fawr, mae ffyrdd â goleuadau stryd yn Cymru yn destun cyfyngiad 20mya oni bai bod arwyddion yn dangos cyfyngiad uwch neu is.

Gellir arddangos arwyddion camerâu diogelwch ar ffyrdd sy'n arwain at safleoedd lle mae camerâu'n gweithredu.  Nid yw'n ofyniad cyfreithiol i arwyddo ein safleoedd gyda graffeg camera. Noder nad yw absenoldeb arwydd camera yn annilysu'r drosedd.

Bydd y dystiolaeth ffotograffig a gymerwyd gan y camera ar adeg y drosedd honedig yn penderfynu a fyddwn yn bwrw ymlaen â'r weithdrefn gosb benodedig yn y sefyllfa hon. Bernir pob achos yn ôl ei rinweddau ei hun. Os ydych yn teimlo bod gennych reswm dros apelio, yna rhaid i chi ysgrifennu at y Swyddfa Docynnau Ganolog berthnasol ar unwaith.

Cofiwch y gall canlyniadau mynd drwy olau coch fod yn angheuol.

Mae camerâu diogelwch sefydlog a symudol yn gweithredu 24 awr y dydd. Mae llawer o fodurwyr yn credu ar gam ei fod yn fwy diogel goryrru yn y nos pan fydd y ffyrdd yn dawelach. Ond mae cyfraddau anafiadau mewn gwirionedd yn dyblu ar ôl iddi dywyllu oherwydd cyflymder uwch cerbydau, mwy o yfed alcohol, blinder a llai o welededd.

Mae gan geidwad cofrestredig cerbyd gyfrifoldeb o dan adran 172 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 i roi enw a chyfeiriad y person oedd yn gyrru eu cerbyd ar adeg y drosedd honedig. Er mwyn dilysu'r wybodaeth a ddarparwyd gennych, rhaid i chi lofnodi'r ffurflen. Os na fyddwch yn ei llofnodi, ni ystyrir eich bod wedi darparu'r wybodaeth, a gallech gael eich erlyn am fethu â rhoi'r wybodaeth. Gall hyn arwain at y llys yn rhoi cosb uwch (gan gynnwys pwyntiau) nag y byddai cosb benodedig wedi'i rhoi.

O dan Adran 172 Deddf Traffig Ffyrdd 1988, mae'n ofynnol i geidwad cofrestredig cerbyd enwi'r gyrrwr ar yr adeg y drosedd honedig. Mae'n drosedd peidio â rhoi'r wybodaeth hon oni bai y gall y ceidwad ddangos nad yw'n gwybod ac na ellid, gyda diwydrwydd rhesymol, dod o hyd i'r ateb. Defnyddir y darpariaethau hyn ar gyfer troseddau traffig ffordd, gan gynnwys y rhai a ganfyddir gan gamerâu diogelwch.

Nid yw'r sefyllfa wedi newid ers cyflwyno'r Ddeddf Hawliau Dynol, a ddaeth i rym ar 2 Hydref 2000. O ran hysbysiad o fwriad i erlyn, nid yw'r ddeddf yn effeithio arnoch pan fyddwch yn dychwelyd y gwaith papur hwn. Mae deddfwriaeth sylfaenol yn gorchymyn bod yn rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth y gofynnir amdani os ydych yn gallu. Gall methu ag ymateb i gais am fanylion y gyrrwr arwain at erlyniad.

Mae Llysoedd Prydain wedi dyfarnu nad oes unrhyw dresmasu ar hawliau dynol mewn gofyn pwy oedd gyrrwr cerbyd modur ar adeg trosedd honedig. Nid yw peidio ag ymateb i gais o'r fath yn gyfystyr â chyfaddef i drosedd honedig o yrru ar gyflymder gormodol. Cadarnhawyd y penderfyniad hwn mewn achos a gafodd ei glywed yn y Llys Hawliau Dynol 2007. 

Y dyfarniad swyddogol yw nad yw gwiriadau graddnodi'n amod o Gymeradwyaeth y Swyddfa Gartref.

Ymgyrch Snap

Ymgyrch Snap yw ymateb yr Heddlu i'r dystiolaeth gynyddol ar ffurf fideo neu luniau sy'n cael ei chyflwyno gan aelodau'r cyhoedd mewn perthynas â throseddau gyrru maent yn dyst iddynt.

Bydd Ymgyrch Snap yn ymchwilio i droseddau gyrru'n beryglus, gyrru heb y gofal a'r sylw dyladwy, gyrru diofal, defnyddio ffôn symudol wrth yrru, peidio â gwisgo gwregys diogelwch, gyrru drwy olau coch, croesi llinellau gwyn solet a throseddau eraill lle mae'n amlwg nad yw'r gyrrwr yn rheoli'r cerbyd yn iawn.

Na allwn. Ni all yr Heddlu wneud clipiau fideo yn gliriach felly os nad ydych chi'n gallu darllen plât rhifau'r cerbyd o'r darn gwreiddiol, mae'n annhebygol y bydd yr Heddlu yn gallu ei ddarllen wrth ailchwarae'r fideo.

Gellir adrodd am droseddau naill ai drwy wefan gosafesnap.cymru neu drwy un o wefannau'r pedwar Heddlu yng Nghymru.

Na fydd. Ni chaiff y ddyfais y defnyddioch chi i recordio'r drosedd ei gymryd oddi arnoch.

Na fyddant. Nid yw'r Heddlu yn rhoi rhai cardiau cof neu ddyfeisiau newydd yn lle eitemau tebyg mewn unrhyw amgylchiadau.

Tynnwch eich ffilm o'r cyfryngau cymdeithasol os gwelwch yn dda. Cyngor Gwasanaeth Erlyn y Goron yw na ddylai'ch ffilm fod yn eiddo cyhoeddus oherwydd gallai hynny effeithio ar unrhyw achosion cyfreithiol dilynol mewn ffordd anffafriol. Llenwch y ffurflen Ymgyrch SNAP ar-lein a dechreuwch y broses gyda ni.

Dim ond os yw'r delweddau'n dangos y drosedd yn cael ei chyflawni'n glir.  Gan ddibynnu ar y drosedd, efallai bydd yr Heddlu am weld y ffilm fideo o'r holl ddigwyddiad. Mae'n bosib hefyd y bydd angen iddynt weld mwy o'ch taith er mwyn gallu deall cyd-destun yr hyn a ddigwyddodd.

Bydd, fel rhan o'r broses Cyfiawnder Troseddol ac er mwyn galluogi'r Heddlu i ymdrin â'r troseddwr mewn ffordd briodol, bydd angen i chi roi datganiad.  Fodd bynnag, gellir cwblhau hyn ar-lein a bydd y rhan fwyaf o'r datganiad wedi'i gwblhau o ganlyniad i'ch atebion i ambell gwestiwn syml sydd wedi'i fformatio ymlaen llaw.

Ar gyfartaledd dim on 1-2% o'r holl droseddau yr adroddir amdanynt sy'n arwain at ymddangosiad yn y Llys. Mae cosbau eraill ar gael, fel mynd ar gwrs gwella gyrru neu dderbyn hysbysiad o gosb benodol. Mae'n bosibl na fydd yr heddlu'n gallu erlyn y drosedd heb i chi fod yn barod i fynd i'r llys.

Fodd bynnag, ar yr achlysur prin iawn y bydd y drosedd yr ydych yn sôn amdani yn gofyn am ymddangosiad llys, yna cewch eich cefnogi'n llawn drwy'r broses.

Mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol bod gan yr Heddlu ddyletswydd i adolygu'ch gyrru chi a'r modd y tynnwyd y lluniau/recordiwyd y ffilm gennych pan fyddant yn gwylio'r dystiolaeth.  Er enghraifft, os oeddech yn goryrru er mwyn dal i fyny â'r gyrrwr a oedd yn troseddu ac yna'n mynd ati i'w ffilmio gyda'ch ffôn symudol wrth i chi yrru, bydd yr Heddlu yn ystyried dwyn achos yn eich erbyn chi. Bydd eich ymddygiad hefyd yn cael ei gymyrd i ystyriaeth.

Mae nifer o gosbau ar gael, gan ddibynnu ar natur y drosedd.  Gellid cynnig Cwrs Addysg i'r gyrrwr, neu gellid rhoi Hysbysiad o Gosb Benodol iddo, gallai dderbyn gwŷs i fynd i'r Llys neu gallwn benderfynu nad ydym yn gallu cymryd unrhyw gamau gweithredu eraill. Byddai’r delweddau a’r datganiad wedi cael eu harchwilio gan swyddog heddlu gwarantedig a fydd yn ystyried pob ffactor, gan gynnwys safonau cyhuddo presennol y GEG

Derbynnir tystiolaeth ar ffurf ffotograffau neu fideo.  Mae'n rhaid i chi ystyried a fydd y ffilm/lluniau sydd gennych yn ddigonol i'r Heddlu allu ymchwilio i drosedd a'i herlyn.  Er enghraifft, gall ffotograff fod yn dderbyniol i brofi defnyddio ffôn symudol wrth yrru ond byddai angen ffilm fideo er mwyn profi'r drosedd o fethu stopio wrth olau coch.

Yn ddelfrydol, dylai'r dyddiad a'r amser fod yn gywir. Defnyddir y ffilm i gefnogi'ch tystiolaeth ysgrifenedig. Mae'n rhaid i chi allu esbonio unrhyw anghysondebau o ran y dyddiad/amser yn y dystiolaeth a gyflwynir i ni gennych. Mae'r rhaid i'ch datganiad tyst ddatgan yn glir yr amser/y dyddiad y digwyddodd y drosedd.

Mae angen eich datganiad arnom; mae angen i ni ddeall y sefyllfa'n llawn ac mae gan bobl yr hawl i wrandawiad mewn llys barn. Cwblhewch y ffurflen ar-lein.

Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen i chi ddod i’r llys ac yn eich cefnogi drwy’r broses.

Mae'r dystiolaeth rydych yn ei darparu i'r Heddlu drwy gyflwyno ffilm neu lun cyfryngau digidol a datganiad yn cael ei hadolygu gan swyddog profiadol yn gyntaf i benderfynu a oes trosedd wedi'i chyflawni a hefyd i nodi'r drosedd benodol.  Yna, bydd yr wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Swyddfa Docynnau Ganolog lle bydd y drosedd yn cael ei phrosesu a chaiff gwaith papur penodol ei anfon at yrrwr y cerbyd a oedd wedi cyflawni'r drosedd.

Ni roddir eich manylion i'r gyrrwr a droseddodd.  Fodd bynnag, ar achlysur prin y bydd y drosedd rydych wedi adrodd amdani'n arwain at ymddangosiad yn y llys, bydd y gyrrwr sydd wedi troseddu'n gwybod eich enw ond nid eich cyfeiriad nac unrhyw fanylion personol eraill.

Yn gyffredinol, mae terfyn amser o hyd at 6 mis ar gyfer erlyn y math o droseddau y mae Ymgyrch Snap yn ymwneud â nhw.  Mae gan yr Heddlu hefyd ddyletswydd i hysbysu'r gyrrwr a gyflawnodd y drosedd am y drosedd honno o fewn 14 dydd o'r digwyddiad.  Cyflwynwch eich tystiolaeth cyn gynted â phosib.  Os oes 14 dydd wedi mynd heibio, cyflwynwch eich tystiolaeth oherwydd mae'n bosib y bydd yr Heddlu yn gallu cymryd camau gweithredu o hyd.

Os oes gennych ffilm neu luniau o fathau eraill o droseddau nad yw Ymgyrch Snap yn ymdrin â hwy, awgrymwn eich bod yn cysylltu â'r awdurdod perthnasol sef, gan amlaf yr Heddlu neu'r awdurdod lleol, gan roi'r dystiolaeth iddynt.  Gellir cysylltu â'r Heddlu drwy ffonio 101 neu drwy eu gwefan.

Bydd y dystiolaeth rydych yn ei chyflwyno ynghyd â'ch datganiad yn cael eu storio'n ddiogel ar weinydd cwmwl. 

Bydd yr wybodaeth rydych yn ei chyflwyno'n cael ei chadw am gyfnod o ddwy flynedd neu tan ddiwedd unrhyw achosion.

Mae'r Heddlu wedi bod yn derbyn cwynion gan aelodau'r cyhoedd am yrru peryglus a gwrth-gymdeithasol am beth amser.  Mae Ymgyrch SNAP yn ein galluogi i ymdrin â'r dystiolaeth (fideo a lluniau) mewn ffordd ddiogel ac effeithiol, gan symleiddio'r broses ymchwilio i'r Heddlu ac aelodau'r cyhoedd ar yr un pryd. Mae ganddynt ymagwedd benderfynol a chadarn at gadw trefn ar y ffyrdd a byddant yn achub ar bob cyfle i'w gwneud yn fwy diogel i bawb.  Nid yw Ymgyrch SNAP yn gofyn i chi i fynd allan a dod o hyd i droseddau drosom, ond byddwn yn ymdrin ag unrhyw droseddau rydych chi'n dod ar eu traws.  

Mae gan yr holl geir Plismona Ffyrdd, wedi'u marcio neu heb eu marcio, gyfarpar recordio fideo. Mae'r Heddlu'n defnyddio hyn drwy'r amser. Maent yn recordio troseddau ac yn ymdrin â nhw fel bo'n briodol. Mae'r Heddlu'n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Heddluoedd eraill Cymru a GanBwyll. Nid yw'r faniau camera rydych yn eu gweld yno i ddal y sawl sy'n goryrru. Maent yn recordio pob math o droseddau ac yn ymdrin â nhw: pobl yn defnyddio eu ffonau symudol, pobl sy'n brysur yn anfon negeseuon testun, pobl nad ydynt yn gwisgo gwregys diogelwch etc. Fe'u defnyddir er diogelwch yr holl ddefnyddwyr ffyrdd. 

Byddwn, os yw'n briodol ac ar yr amod bod Trosedd Traffig Ffyrdd wedi'i chyflawni oherwydd bod beicwyr ar y ffyrdd yn agored iawn i niwed. Os oes gennych fideo o rywun yn mynd heibio'n rhy agos, llenwch ffurflen ar-lein ar gyfer Ymgyrch SNAP.

Bydd yr Heddlu'n ymdrin ag unrhyw faterion o feicio/reidio diofal orau y gallant. Mae'n hanfodol cofio bod defnyddwyr diamddiffyn y ffyrdd, fel cerddwyr, beicwyr, gyrwyr beiciau modur a'r rhai sy'n marchogaeth ceffylau, mewn llawer mwy o berygl o anaf difrifol a marwolaeth na phobl mewn ceir. Ein blaenoriaeth yw amddiffyn y rheiny sydd fwyaf diamddiffyn ar bob adeg.

Byddwn. Mae'n hawdd i bobl gymryd rhan yn Ymgyrch SNAP a'r mae'r gweithdrefnau wedi'u llunio i fod yn hwylus. Un canlyniad a ddymunir gan Ymgyrch SNAP, sef gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel.

Cydweithiwch â ni. Yr unig beth rydym yn ceisio ei wneud yw dylanwadu ar eich ymddygiad chi yn y dyfodol er mwyn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel.

Cewch eich diweddarau am ganlyniad eich cyflwyniad o fewn 14 diwrnod. Yn unol â Deddf Diogelu Data 1988 a'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), dim ond gwybodaeth sylfaenol am ganlyniad eich cyflwyniad y byddwn yn gallu rhyddhau. Gallwn ond eich diweddaru os y gellir parhau gyda’r achos a gyflwynwyd gennych.

Er mwyn i ni adolygu eich cais, cysylltwch â ni drwy https://gosafe.org/contact-us/general-enquiries/  gyda manylion o pryd y gwnaethoch y cyflwyniad ac unrhyw rif cyfeirnod a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Gallwch. Gallwch gyflwyno tystiolaeth i Ymgyrch Snap drwy gyfrwng yr iaith Saesneg drwy ddilyn y linc yma

Mae fideo o gamera dashfwrdd yn dod o dan gategori CCTV os byddwch yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith.

Os oes gennych gamera dashfwrdd rydych yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith ar gerbyd rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer gwaith, yna mae'n debyg y bydd angen i chi gofrestru a thalu ffi diogelu data i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth oni bai eich bod wedi'ch eithrio. Mae hyn am na chaiff y defnydd o'r camera dashfwrdd yn eich cerbyd, neu arno, at ddibenion gwaith, ei ystyried fel defnydd ‘domestig’ ac felly nid yw wedi'i eithrio o gyfreithiau diogelu data.

Os byddwch yn recordio delweddau o unigolion fel gweithgarwch personol neu aelwyd yn unig, heb gysylltiad â gweithgarwch proffesiynol neu fasnachol, mae y tu hwnt i gwmpas Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR).

Os byddwch yn defnyddio'r cerbyd ar gyfer gwaith, bydd angen i chi wneud y canlynol:

Rhoi gwybod i bobl eich bod yn defnyddio camera dashfwrdd drwy osod arwyddion sy'n dweud eich bod yn recordio

Sicrhau nad ydych yn recordio mwy o ddeunydd na'r hyn sydd ei angen arnoch i gyflawni eich diben dros ddefnyddio'r camera dashfwrdd

Sicrhau bod y deunydd rydych yn ei recordio yn ddiogel, drwy ei gadw'n ddiogel a gwneud yn siŵr na all neb ei wylio heb reswm da

Cadw'r deunydd gyhyd ag y bydd ei angen arnoch yn unig, ei ddileu'n rheolaidd a phan na fydd ei angen mwyach

Sicrhau mai dim ond yn ôl y bwriad y caiff y camera dashfwrdd ei ddefnyddio ac na ellir ei gamddefnyddio am resymau eraill.

Mae angen i unrhyw un rydych yn rhannu eich eiddo ag ef, megis aelodau o'r teulu a allai ddefnyddio'r cyfarpar, wybod pa mor bwysig yw peidio â'i gamddefnyddio.

I gael rhagor o gyngor ynghylch eich cyfrifoldebau diogelu data wrth ddefnyddio camera dashfwrdd, gallwch gysylltu ag adran Diogelu Data'r Heddlu, neu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Ar hyn o bryd, does dim proses apelio ar gyfer tystion o fewn Ymgyrch Snap.

Bydd cyflwyniadau’n cael eu hadolygu gan wneuthurwr penderfyniadau GanBwyll, a bydd ei benderfyniad yn derfynol. Os na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd, bydd bob amser yn ceisio gadael adborth neu sylwadau pellach i’ch helpu i ddeall pam y gwnaed y penderfyniad.

Mae’n annhebygol y bydd y cyflwynydd yn ddioddefydd trosedd, ond nid yn amhosibl. Dioddefydd (o dan y cod dioddefwyr) yw – “unigolyn sydd wedi dioddef niwed, gan gynnwys niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol, neu golled economaidd, a achoswyd yn uniongyrchol gan dramgwydd troseddol.”

Os yw unigolyn yn cael ei adnabod fel dioddefydd, bydd yn cael ei drin felly ac yn unol â pholisi’r heddlu a’r cod dioddefwyr. Mae hawl gan ddioddefwyr i apelio yn erbyn canlyniad ymchwiliad troseddol.

Ymgyrch Tutelage

Pwrpas Ymgyrch Tutelage yw mynd i'r afael â'r miliwn tybiedig o gerbydau sy'n defnyddio ffyrdd y DU bob dydd heb yswiriant ac, er bod y ffigwr hwn wedi aros yr un peth am nifer o flynyddoedd, mae'n dechrau cynyddu yn awr. Yn ogystal â'r effaith mae gyrru heb yswiriant ei hun yn ei gael, mae cysylltiadau wedi cael eu profi rhwng gyrru heb yswiriant a mathau eraill o droseddau, llawer ohonyn nhw'n gysylltiedig â diogelwch pobl eraill, a phob un ohonyn nhw'n golygu cost economaidd-gymdeithasol sylweddol.

Mae Ymgyrch Tutelage yn gysyniad cymharol ddiweddar, sy’n deillio o syniad bod y mwyafrif o bobl heb yswiriant am resymau anfwriadol. Credwyd hefyd y gellid annog y niferoedd uchel o bobl a oedd heb yswiriant yn anfwriadol i unioni'r sefyllfa trwy ddefnyddio dull 'atgoffa', ac nad oedd er budd neb (y cyhoedd, yr heddlu, y system cyfiawnder troseddol na'r diwydiant yswiriant) i'w trin nhw fel troseddwyr yn yr amgylchiadau hyn.

Rydych chi wedi derbyn llythyr gan yr Heddlu oherwydd bod ein cronfa ddata wedi nodi nad oes gan eich cerbyd yswiriant dilys ar hyn o bryd. Mae ein cronfa ddata'n cael ei diweddaru'n rheolaidd ond yn achlysurol mae'n bosibl bod achosion pan nad yw manylion yswiriant eich cerbyd yn ymddangos ar ein systemau.

Mae gyrru cerbyd ar ffordd, neu mewn man cyhoeddus, heb yswiriant 3ydd parti o leiaf yn drosedd.  Hyd yn oed os yw'r cerbyd ei hun wedi'i yswirio, os nad oes gennych chi'r sicrwydd yswiriant cywir i'w yrru, gallech chi gael eich ystyried i fod yn gyrru heb yswiriant a gallech gael eich cosbi.

Mae gyrru heb yswiriant yn cael ei gysylltu gyda mwy o debygrwydd o fod yn rhan o wrthdrawiad traffig ffyrdd difrifol ac mae'n cynyddu costau yswiriant i bob gyrrwr.

Mae gan yr heddlu fynediad at gronfa ddata o bob cerbyd heb yswiriant. 

Gallech chi dderbyn cosb benodedig o £300 a chwe phwynt cosb os cewch chi eich dal yn gyrru cerbyd nad ydych wedi eich yswirio i'w yrru. Os bydd yr achos yn mynd i'r llys, gallech chi dderbyn dirwy ddiderfyn a chael eich gwahardd rhag gyrru. Mae gan yr heddlu'r grym i atafaelu ac, mewn rhai achosion, i ddifa cerbyd sy'n cael ei yrru heb yswiriant hefyd.

Os yw'r cerbyd yn cael ei gadw ar dir cyhoeddus mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith ei fod yn cael ei yswirio'n barhaus. Os nad ydych chi'n defnyddio eich car, ac mae'n cael ei gadw ar ffordd breifat, gallwch ddweud wrth y DVLA ei fod oddi ar y ffordd trwy Hysbysiad Oddi ar y Ffordd (SORN).  Mae'n ofynnol yn ôl y DVLA eich bod chi'n llenwi ffurflen V890. Gallwch wneud hyn ar-lein trwy https://www.gov.uk/make-a-sorn neu lawr lwythwch y ffurflen a'i chyflwyno trwy'r post.

Nid o anghenraid. Mae llawer o bolisïau yswiriant sy'n eich galluogi chi i yrru cerbydau eraill yn gofyn bod y cerbyd arall wedi'i yswirio trwyddo'i hun hefyd. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dylech chi sicrhau bod y cerbyd rydych yn ei yrru wedi'i yswirio hefyd.

Gall yr heddlu stopio unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio ar ffordd am unrhyw reswm.  Yn ystod unrhyw ddigwyddiad o'r fath, byddai gwiriadau arferol yn cynnwys cadarnhau'r statws yswiriant ar gyfer defnyddio'r cerbyd ar yr adeg honno. Os nad oes unrhyw yswiriant dilys ar waith ar gyfer ei ddefnyddio, mae'r cerbyd yn debygol o gael ai atafaelu ac mae'r gyrrwr yn debygol o gael ei erlyn. Y gosb am yrru cerbyd heb yswiriant yw cosb benodedig o £300 a chwe phwynt cosb neu, os bydd yr achos yn mynd i'r llys, gallech chi dderbyn dirwy ddiderfyn a chael eich gwahardd rhag gyrru.

Nid oes angen prawf o yswiriant arnom ni, byddwn yn gwirio ein systemau ein hunain a systemau sy'n gysylltiedig â'r Gronfa Ddata Yswiriant Modur, i gadarnhau bod sicrwydd yswiriant wedi cael ei ddarparu/diweddaru ers i'r llythyr gael ei anfon. Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau o'r math hwn at yr heddlu.

Os ydych chi'n credu bod eich cerbyd wedi'i yswirio ac na ddylech chi fod wedi derbyn llythyr gennym ni, cysylltwch â'ch yswiriwr yn gyntaf a gwirio bod polisi ar waith. Gall camgymeriadau gael eu gwneud wrth fewngofnodi manylion eich cerbyd, a bydd hyn yn achosi i'ch cerbyd chi ymddangos fel un sydd heb yswiriant. Dylech wirio manylion eich cerbyd ar-lein hefyd, am ddim, trwy ddefnyddio'r gwasanaeth Cronfa Ddata Yswiriant Modur - https://ownvehicle.askmid.com

Byddwch yn ymwybodol, os yw eich yswirwyr wedi gofyn am ddogfennau ychwanegol ac nad ydych wedi eu darparu nhw, mae'n bosibl eu bod nhw wedi canslo'r polisi heb roi unrhyw rybudd pellach.

Cofiwch nad yw pob polisi yswiriant yn adnewyddu'n awtomatig. Gwiriwch gyda'ch yswiriwr faint rydych chi'n talu am y polisi, yn arbennig os ydych chi'n talu eich premiwm yn flynyddol ac nid trwy Ddebyd Uniongyrchol.

Yn gyntaf, gwiriwch nad yw rhywun arall wedi bod yn gyrru eich cerbyd, gan y byddai hyn yn esbonio sut mae ein camerâu wedi ei weld. Os nad yw hyn yn wir, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â'ch heddlu lleol i ddechrau ymchwiliad i'ch helpu i ddeall beth allai fod wedi digwydd.

Dylech wirio eich bod chi wedi rhoi'r wybodaeth gywir i unrhyw brynwr ac i'r DVLA pan wnaethoch chi werthu / trosglwyddo perchnogaeth y cerbyd.

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar y wefan GOV.UK ganlynol, y gellir ei gweld ar y ddolen hon: https://www.gov.uk/responsibilities-selling-vehicle

Os ydych chi wedi newid i rif plât personol yn ddiweddar, sicrhewch eich bod chi wedi cysylltu â'ch yswiriwr ynghylch hyn. Mae manylion llawn sut i newid i blât rhif personol a'r rheolau y mae'n rhaid i chi lynu wrthyn nhw, ar gael ar-lein -

https://www.gov.uk/personalised-vehicle-registration-numbers

Am fwy o wybodaeth ar yswiriant cerbyd ewch i: https://www.gov.uk/vehicle-insurance

Os hoffech fwy o wybodaeth neu am gysylltu gyda ni ynghylch Gweithrediad Tutelage neu am y llythyr rydych wedi ei dderbyn, yna gallwch gysylltu gyda ni drwy ddilyn y linc yma.