Gwybodaeth Ariannol

Ble Mae Refeniw Dirwyou Yn Mynd

Nid yw Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru’n gwneud unrhyw elw o ddirwyon camerâu cyflymder a goleuadau coch. Mae camerâu diogelwch yno er mwyn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel ac nid i wneud arian.

Mae holl arian y dirwyon yn cael ei drosglwyddo i’r Trysorlys. Caiff y bartneriaeth ei chyllido drwy gyfrwng grant gan Lywodraeth Cymru, a thelir am weddill ein costau gweithredu trwy grant a ddarperir ar ddisgresiwn Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru, yn seiliedig ar dderbynebau a geir gan fodurwyr sy'n cyflawni Cyrsiau Ymwybyddiaeth Cyflymder.

Mae’r bartneriaeth yn buddsoddi amser ac arian mewn addysgu gyrwyr, gwelliannau peirianyddol a thargedu gorfodaeth lle mae’r angen mwyaf. Mae camerâu wedi cael eu defnyddio yng Nghymru ers 1991.

Gallwch chi helpu hefyd.

Drwy ddefnyddio eich synnwyr cyffredin a gyrru yn addas i amodau’r ffordd gallwch chi helpu i leihau anafiadau ar ein ffyrdd a’u gwneud yn fwy diogel i bawb. Byddai lleihad mewn cyflymder o ddim ond 1mya ar gyfartaledd yn arwain at leihad o 5% mewn damweiniau yn ôl y Labordy Ymchwil Cludiant.