Gwregysau Diogelwch

Gwregysau Diogelwch

Mae faniau camerâu diogelwch bellach yn gorfodi gyrwyr nad ydynt yn gwisgo gwregys, yn ogystal â gyrwyr sy'n defnyddio ffonau symudol a gyrwyr sy'n goryrru.  Gallwch gael dirwy hyd at £500 os nad ydych yn gwisgo gwregys.

Caiff pob trosedd ei recordio ar gardiau storio digidol a'u hanfon i'n  Swyddfa Docynnau Canolog i'w prosesu. Bydd y Swyddfa Docynnau Ganolog berthnasol a fydd yn anfon yr wybodaeth briodol at geidwad cofrestredig y cerbyd.

Bydd unrhyw un nad yw'n gorfod gwisgo gwregys diogelwch yn gallu nodi hyn ar y cais gwybodaeth am yrwyr ac, os yw'n berthnasol, anfon copi o'i dystysgrif eithrio.

 Nid oes rhaid gwisgo gwregys diogelwch os ydych chi'n:

  • yrrwr sy'n bacio'n ôl neu sy'n goruchwylio gyrrwr newydd sy'n bacio'n ôl
  • mewn cerbyd a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau'r heddlu, tân neu achub
  • teithiwr mewn cerbyd masnachu ac rydych yn archwilio i nam
  • gyrru cerbyd nwyddau ar daith dosbarthu nwyddau sy'n teithio 50 metr neu lai rhwng mannau dosbarthu
  • gyrrwr tacsis trwyddedig sy'n 'chwilio am fasnach' neu'n cludo teithwyr
  • Rhai cyflyrau meddygol.

 

 

Sedd flaen

Sedd gefn

Pwy sy’n gyfrifol

Gyrrwr

Rhaid gwisgo gwregys diogelwch os oes un ar gael

 

Gyrrwr

Teithiwr sy’n oedolyn

Rhaid gwisgo gwregys diogelwch os oes un ar gael

Rhaid gwisgo gwregys diogelwch os oes un ar gael

Teithiwr

Plentyn dan 3 oed

Rhaid defnyddio’r sedd car/ataliad cywir i blentyn. Dylid datgysylltu’r bag aer os yw’r plentyn mewn sedd car sy’n wynebu’r cefn

Rhaid defnyddio’r sedd car/ataliad cywir i blentyn. Os nad oes un ar gael mewn tacsi, gall deithio heb sedd car/wregys diogelwch. 

Gyrrwr

Plentyn o’i ben-blwydd yn 3 oed hyd at 135 cm (tua 4’ 5”) (neu ei 12fed pen-blwydd p’un bynnag sydd gyntaf)

Rhaid defnyddio’r sedd car/ataliad cywir i blentyn.

Rhaid defnyddio’r sedd car/ataliad cywir i blentyn. Os nad yw’r sedd car gywir ar gael, rhaid iddo ddefnyddio gwregys, ond dim ond os yw’r daith yn annisgwyl, yn           angenrheidiol a thros bellter byr.

Gyrrwr

Plentyn 12 neu 13 oed neu dros 135cm (tua 4’ 5”)

Rhaid gwisgo gwregys i oedolyn

Rhaid gwisgo gwregys i oedolyn

Gyrrwr

Plentyn dros 14 oed

Rhaid gwisgo gwregys i oedolyn

Rhaid gwisgo gwregys i oedolyn

Teithiwr