Goryrru

Goryrru

Mae Goryrru yn un o'r ffactorau sy'n cyfrannu fwyaf at wrthdrawiadau ar ein ffyrdd. 

Sefwch lan dros arafu lawr, a chwaraewch eich rhan i gadw ein ffyrdd yn ddiogel ar gyfer holl ddefnyddwyr y ffordd.

Y cyfyngiad cyflymder cyntaf a gyflwynwyd yn y DU oedd cyfyngiad o 10mya ar gyfer cerbydau teithwyr wedi'u pweru, neu "locomotifau ysgafn" fel y gelwid hwy bryd hynny, yn ôl yn 1861. Ers hynny, mae cyfyngiadau cyflymder wedi'u newid a'u diwygio yn ôl niferoedd cynyddol y traffig, datblygiadau technolegol wrth ddylunio cerbydau ac mewn ymateb i bryderon cymunedol ac hanes gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd.

Mae cyfyngiadau cyflymder ar waith er diogelwch pob defnyddiwr ffordd. Nid ydynt yn dargedau i'w cyrraedd na'u rhagori. Mae cyfrifoldeb ar bob defnyddiwr ffordd i yrru yn unol ag amodau'r ffordd, o fewn y cyfyngiad cyflymder cyfreithiol ac nid oes byth esgus dros gyflymder gormodol.

Mae ein camerâu gorfodi wedi'u lleoli mewn safleoedd ledled Cymru ac maent yno at y diben o annog modurwyr i gydymffurfio â'r cyfyngiadau cyflymder yn unig. Dewisir ein holl safleoedd yn seiliedig ar ddata gwrthdrawiadau, risg o anafiadau a neu bryderon cymunedol ac rydym yn gorfodi ar draws pob cyfyngiad cyflymder; gan gynnwys cyfyngiadau 20mya a'r ffyrdd cyfyngiad amgylcheddol 50mya ledled Cymru.

Lle bynnag y mae GanBwyll yn gorfodi, rydym yn hyderus ein bod yn y lle cywir, ar yr amser cywir, am y rheswm cywir; sef i annog y lleiafrif o fodurwyr sy'n teithio ar gyflymderau yn uwch na’r cyfyngiadau cyflymder i newid eu hymddygiad a lleihau eu cyflymderau.

Nid yw GanBwyll yn gweithredu ar ddull sy'n seiliedig ar dargedau. Ein safleoedd mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n cofnodi y nifer lleiaf o droseddau, nid y mwyaf. Ein nod strategol yw gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel a lleihau nifer yr anafiadau ar ein ffyrdd. Wrth i droseddau leihau yn ein safleoedd, gwyddom fod ein presenoldeb yn gwneud gwahaniaeth ac yn annog modurwyr i gydymffurfio â'r cyfyngiadau cyflymder.

Mae'r gyfraith yn nodi na ddylech yrru'n gyflymach na'r cyfyngiad cyflymder ar gyfer y math o ffordd a'ch math o gerbyd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyfyngiadau cyflymder amrywiol sy'n berthnasol i'r mathau o gerbydau a ffyrdd yma.

Y gosb isaf am oryrru yw dirwy o £100 a 3 phwynt cosb wedi'u hychwanegu at eich trwydded. Gallech fod yn gymwys i fynychu Cwrs Addysg Gyrwyr, a fydd yn golygu cost, ond ni fydd gennych bwyntiau cosb wedi'u hychwanegu at eich trwydded.

Telerau ac Amodau'r Cynnig Amodol o Gosb Benodedig

Fodd bynnag, pe baech yn goryrru ar gyflymder gormodol difrifol, gallech gael eich galw gerbron Llys lle gall cosbau gynnwys dirwyon, pwyntiau cosb a gwaharddiad rhag gyrru.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am oryrru a'r risgiau i ddiogelwch holl ddefnyddwyr y ffordd o ganlyniad i oryrru ar wefan RoSPA.