Ffonau Symudol

A yw’r alwad neu’r neges destun honno mor bwysig â hynny?

Y gosb am ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru ydy 6 phwynt cosb a dirwy o £200.

Mae faniau camerâu diogelwch bellach yn gorfodi tramgwyddau ffonau symudol, yn ogystal â gyrwyr nad ydynt yn gwisgo gwregys a modurwyr sy'n goryrru. Mae siarad, anfon negeseuon testun neu lawrlwytho data ar eich ffôn yn golygu eich bod yn canolbwyntio ar y gweithgaredd hwnnw. Mae ymchwil wedi profi os ydych yn defnyddio'ch ffôn symudol (llawrydd neu â dwylo) wrth yrru, bod eich amser ymateb yn waeth na phetaech dan ddylanwad alcohol.

Caiff pob trosedd ei recordio ar gardiau storio digidol a'u hanfon i'n  Swyddfa Docynnau Canolog i'w prosesu.

Os bydd yr achos yn mynd gerbron y llys, yn ogystal â phwyntiau, gellir eich gwahardd rhag gyrru ar ben y ddirwy uchaf o £1,000. Gall hyn godi i £2,500 yn achos gyrrwr bws, coets neu gerbyd nwyddau.

Cyn i chi ddechrau eich injan, diffoddwch eich ffôn symudol. Rhowch eich ffôn ar laisbost neu dargyfeiriwch eich galwadau, fel na fyddwch yn colli galwad. Os ydych ar daith hir, cymerwch seibiannau rheolaidd, ewch allan am dro a gwnewch eich galwadau bryd hynny.

Cafwyd nifer o adroddiadau ymchwil yn nodi peryglon defnyddio ffôn symudol wrth yrru. Cliciwch ar y ddolen i agor dogfen ROSPA - 'Peryglon Defnyddio Ffôn Symudol wrth Yrru' 

Beth yw'r gyfraith ynghylch defnyddio'ch ffôn symudol wrth yrru?

Mae'n anghyfreithlon gyrru cerbyd a defnyddio ffôn symudol â llaw neu ddyfais debyg. Mae hefyd yn anghyfreithlon goruchwylio dysgwyr wrth ddefnyddio ffôn â llaw. Diffiniad 'gyrru' yw pan fo'r injan ymlaen, felly mae mynd i gilfach barcio a pheidio â diffodd yr injan neu aros wrth oleuadau traffig yn cyfrif fel gyrru.

Oes unrhyw beth yn bod ar ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru?

Mae'n beryglus oherwydd bod sgwrs dros y ffôn (neu anfon negeseuon testun) yn tynnu sylw o'r canolbwyntio meddyliol y mae ei angen i yrru'n ofalus. Dengys ymchwil fod ymateb gyrwyr hyd at 50% yn arafach na'r arfer wrth yrru a defnyddio ffôn, a 30% yn waeth na gyrru dan ddylanwad alcohol.

A yw gyrrwr yn gallu defnyddio cyfarpar eraill megis cit llawrydd?

Er nad yw'n anghyfreithlon defnyddio cit llawrydd fel ffôn symudol, maent hefyd yn tynnu sylw a gallech gael eich erlyn am beidio â chael rheolaeth dros gerbyd os yw'r heddlu'n eich gweld yn gyrru'n esgeulus wrth ddefnyddio un ohonynt.

Beth am gyflogwyr?

Ni ddylai cyflogwyr ofyn i'w staff ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru a gall hefyd gael ei erlyn o dan y Ddeddf Dynladdiad Corfforaeth petai damwain.