Ymgyrch Tutelage

Sefydlwyd Ymgyrch Tutelage i fynd i’r afael â’r tua miliwn o gerbydau sy’n defnyddio ffyrdd y DU bob dydd heb yswiriant ac, er bod y ffigur hwn wedi bod yn statig ers nifer o flynyddoedd, mae bellach yn dechrau cynyddu. Tra cychwynnodd y syniad yn Heddlu Dyffryn Tafwys, mae’r weithrediad bellach yn cael ei ddefnyddio gan holl heddluoedd y DU.

Er gwaethaf effaith gyrru heb yswiriant ei hun, mae cysylltiadau profedig rhwng gyrru heb yswiriant a mathau eraill o droseddu, llawer ohonynt yn gysylltiedig â diogelwch eraill, a phob un â chost economaidd-gymdeithasol sylweddol.

Rydym yn gwerthfawrogi bod mwyafrif llethol y bobl sydd yn ymddangos fel rhai heb yswiriant am resymau anfwriadol. Credwyd hefyd y gellid annog niferoedd uchel o'r rhain heb yswiriant anfwriadol i wirio’r sefyllfa trwy ddull “atgoffa” a rhoi cyfle iddynt

I wirio’r diffyg yswiriant yn hytrach na'u trin fel troseddwyr o dan yr amgylchiadau hyn.

Mae'n anghyfreithlon i yrru cerbyd ar y ffordd neu mewn man cyhoeddus heb o leiaf yswiriant trydydd parti. Hyd yn oed os yw'r cerbyd ei hun wedi'i yswirio, os nad oes gennych yr yswiriant cywir i'w yrru fe allech gael eich ystyried yn gyrru heb yswiriant a gallech gael eich cosbi.

Gallwch dderbyn cosb sefydlog o £ 300 a 6 phwynt cosb os cewch eich dal yn gyrru cerbyd nad oes gennych yswiriant i'w yrru. Os bydd yr achos yn mynd i'r llys fe allech chi gael dirwy ddiderfyn a chael eich gwahardd rhag gyrru. Mae gan yr heddlu hefyd y pŵer i gipio, ac mewn rhai achosion dinistrio, y cerbyd sydd wedi'i yrru heb yswiriant.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, ac atebion i rai o'r cwestiynau a allai fod gennych am Ymgyrch Tutelage yma.

Pwrpas Ymgyrch Tutelage yw mynd i'r afael â'r miliwn tybiedig o gerbydau sy'n defnyddio ffyrdd y DU bob dydd heb yswiriant ac, er bod y ffigwr hwn wedi aros yr un peth am nifer o flynyddoedd, mae'n dechrau cynyddu yn awr. Yn ogystal â'r effaith mae gyrru heb yswiriant ei hun yn ei gael, mae cysylltiadau wedi cael eu profi rhwng gyrru heb yswiriant a mathau eraill o droseddau, llawer ohonyn nhw'n gysylltiedig â diogelwch pobl eraill, a phob un ohonyn nhw'n golygu cost economaidd-gymdeithasol sylweddol.

Mae Ymgyrch Tutelage yn gysyniad cymharol ddiweddar, sy’n deillio o syniad bod y mwyafrif o bobl heb yswiriant am resymau anfwriadol. Credwyd hefyd y gellid annog y niferoedd uchel o bobl a oedd heb yswiriant yn anfwriadol i unioni'r sefyllfa trwy ddefnyddio dull 'atgoffa', ac nad oedd er budd neb (y cyhoedd, yr heddlu, y system cyfiawnder troseddol na'r diwydiant yswiriant) i'w trin nhw fel troseddwyr yn yr amgylchiadau hyn.

Rydych chi wedi derbyn llythyr gan yr Heddlu oherwydd bod ein cronfa ddata wedi nodi nad oes gan eich cerbyd yswiriant dilys ar hyn o bryd. Mae ein cronfa ddata'n cael ei diweddaru'n rheolaidd ond yn achlysurol mae'n bosibl bod achosion pan nad yw manylion yswiriant eich cerbyd yn ymddangos ar ein systemau.

Mae gyrru cerbyd ar ffordd, neu mewn man cyhoeddus, heb yswiriant 3ydd parti o leiaf yn drosedd.  Hyd yn oed os yw'r cerbyd ei hun wedi'i yswirio, os nad oes gennych chi'r sicrwydd yswiriant cywir i'w yrru, gallech chi gael eich ystyried i fod yn gyrru heb yswiriant a gallech gael eich cosbi.

Mae gyrru heb yswiriant yn cael ei gysylltu gyda mwy o debygrwydd o fod yn rhan o wrthdrawiad traffig ffyrdd difrifol ac mae'n cynyddu costau yswiriant i bob gyrrwr.

Mae gan yr heddlu fynediad at gronfa ddata o bob cerbyd heb yswiriant. 

Gallech chi dderbyn cosb benodedig o £300 a chwe phwynt cosb os cewch chi eich dal yn gyrru cerbyd nad ydych wedi eich yswirio i'w yrru. Os bydd yr achos yn mynd i'r llys, gallech chi dderbyn dirwy ddiderfyn a chael eich gwahardd rhag gyrru. Mae gan yr heddlu'r grym i atafaelu ac, mewn rhai achosion, i ddifa cerbyd sy'n cael ei yrru heb yswiriant hefyd.

Os yw'r cerbyd yn cael ei gadw ar dir cyhoeddus mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith ei fod yn cael ei yswirio'n barhaus. Os nad ydych chi'n defnyddio eich car, ac mae'n cael ei gadw ar ffordd breifat, gallwch ddweud wrth y DVLA ei fod oddi ar y ffordd trwy Hysbysiad Oddi ar y Ffordd (SORN).  Mae'n ofynnol yn ôl y DVLA eich bod chi'n llenwi ffurflen V890. Gallwch wneud hyn ar-lein trwy https://www.gov.uk/make-a-sorn neu lawr lwythwch y ffurflen a'i chyflwyno trwy'r post.

Nid o anghenraid. Mae llawer o bolisïau yswiriant sy'n eich galluogi chi i yrru cerbydau eraill yn gofyn bod y cerbyd arall wedi'i yswirio trwyddo'i hun hefyd. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dylech chi sicrhau bod y cerbyd rydych yn ei yrru wedi'i yswirio hefyd.

Gall yr heddlu stopio unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio ar ffordd am unrhyw reswm.  Yn ystod unrhyw ddigwyddiad o'r fath, byddai gwiriadau arferol yn cynnwys cadarnhau'r statws yswiriant ar gyfer defnyddio'r cerbyd ar yr adeg honno. Os nad oes unrhyw yswiriant dilys ar waith ar gyfer ei ddefnyddio, mae'r cerbyd yn debygol o gael ai atafaelu ac mae'r gyrrwr yn debygol o gael ei erlyn. Y gosb am yrru cerbyd heb yswiriant yw cosb benodedig o £300 a chwe phwynt cosb neu, os bydd yr achos yn mynd i'r llys, gallech chi dderbyn dirwy ddiderfyn a chael eich gwahardd rhag gyrru.

Nid oes angen prawf o yswiriant arnom ni, byddwn yn gwirio ein systemau ein hunain a systemau sy'n gysylltiedig â'r Gronfa Ddata Yswiriant Modur, i gadarnhau bod sicrwydd yswiriant wedi cael ei ddarparu/diweddaru ers i'r llythyr gael ei anfon. Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau o'r math hwn at yr heddlu.

Os ydych chi'n credu bod eich cerbyd wedi'i yswirio ac na ddylech chi fod wedi derbyn llythyr gennym ni, cysylltwch â'ch yswiriwr yn gyntaf a gwirio bod polisi ar waith. Gall camgymeriadau gael eu gwneud wrth fewngofnodi manylion eich cerbyd, a bydd hyn yn achosi i'ch cerbyd chi ymddangos fel un sydd heb yswiriant. Dylech wirio manylion eich cerbyd ar-lein hefyd, am ddim, trwy ddefnyddio'r gwasanaeth Cronfa Ddata Yswiriant Modur - https://ownvehicle.askmid.com

Byddwch yn ymwybodol, os yw eich yswirwyr wedi gofyn am ddogfennau ychwanegol ac nad ydych wedi eu darparu nhw, mae'n bosibl eu bod nhw wedi canslo'r polisi heb roi unrhyw rybudd pellach.

Cofiwch nad yw pob polisi yswiriant yn adnewyddu'n awtomatig. Gwiriwch gyda'ch yswiriwr faint rydych chi'n talu am y polisi, yn arbennig os ydych chi'n talu eich premiwm yn flynyddol ac nid trwy Ddebyd Uniongyrchol.

Yn gyntaf, gwiriwch nad yw rhywun arall wedi bod yn gyrru eich cerbyd, gan y byddai hyn yn esbonio sut mae ein camerâu wedi ei weld. Os nad yw hyn yn wir, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â'ch heddlu lleol i ddechrau ymchwiliad i'ch helpu i ddeall beth allai fod wedi digwydd.

Dylech wirio eich bod chi wedi rhoi'r wybodaeth gywir i unrhyw brynwr ac i'r DVLA pan wnaethoch chi werthu / trosglwyddo perchnogaeth y cerbyd.

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar y wefan GOV.UK ganlynol, y gellir ei gweld ar y ddolen hon: https://www.gov.uk/responsibilities-selling-vehicle

Os ydych chi wedi newid i rif plât personol yn ddiweddar, sicrhewch eich bod chi wedi cysylltu â'ch yswiriwr ynghylch hyn. Mae manylion llawn sut i newid i blât rhif personol a'r rheolau y mae'n rhaid i chi lynu wrthyn nhw, ar gael ar-lein -

https://www.gov.uk/personalised-vehicle-registration-numbers

Am fwy o wybodaeth ar yswiriant cerbyd ewch i: https://www.gov.uk/vehicle-insurance

Os hoffech fwy o wybodaeth neu am gysylltu gyda ni ynghylch Gweithrediad Tutelage neu am y llythyr rydych wedi ei dderbyn, yna gallwch gysylltu gyda ni drwy ddilyn y linc yma.