Ar ôl ailgyflwyno gorfodi ehangach mewn ardaloedd 20mya, bydd pryderon newydd am oryrru yr adroddir amdanynt wrth GanBwyll yn ystyried Ymgyrch Ugain fel dewis amgen yn lle gorfodi. Mewn ardaloedd sy’n anaddas ar gyfer Ymgyrch Ugain, bydd gweithrediadau GanBwyll amgen yn cael eu hystyried, megis Gwylio Cyflymder Cymunedol neu gyfeiriad at asiantaethau partner, megis yr Awdurdodau Priffyrdd.
GanBwyll - 20mya
Mae GanBwyll a heddluoedd Cymru’n cefnogi’r terfyn cyflymder cenedlaethol newydd o 20mya. Ynghyd â phartneriaid eraill, megis Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, Awdurdodau Lleol a grwpiau Gwylio Cyflymder Cymunedol, yr ydym yn defnyddio ymagwedd sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu tuag at 20mya. Hysbysu’r cyhoedd yw’r flaenoriaeth.
Ddydd Llun 8 Ionawr 2024, lansiwyd ‘Ymgyrch Ugain’ er mwyn cyflwyno ymgysylltu ymyl ffordd ledled Cymru.
Cynhaliwyd sesiynau ymgysylltu gan GanBwyll, Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, Awdurdodau Lleol a Heddluoedd Cymru cyn lansio Ymgyrch Ugain. Bydd y timoedd arbennig hyn yn caniatáu ar gyfer cynnydd o ran gweithgarwch ymgysylltu.
Ceir rhagor o wybodaeth am Ymgyrch Ugain ar: Ymgyrch Ugain
Mae Prif Gwnstabliaid dal yn adolygu’r data ar gyfer ardaloedd 20mya newydd a arferai fod yn 30mya. Gwneir unrhyw benderfyniad i orfodi’r ardaloedd hyn yn ôl disgresiwn Prif Gwnstabl a bydd yn cael ei gyfathrebu ymlaen llaw drwy ffynonellau swyddogol.
Ganbwyll 20Mya Safle Gorfodi 30.08.2024 Llywodraeth Cymru - 20mya Polisi 20mya Ymgyrch Ugain
Data Troseddau 20mya
Dechreuwyd ailgyflwyno gorfodi mewn ardaloedd 20mya ddechrau Tachwedd. Roedd hyn mewn ardaloedd gorfodi 20mya a oedd eisoes yn bodoli na chafodd eu heffeithio gan y newid i’r ddeddfwriaeth ac a oedd â’r arwyddion cywir wedi’u gosod.
Ataliodd GanBwyll orfodi 20mya dros dro ym mis Medi 2023 yn dilyn y newid i’r ddeddfwriaeth. Gwnaed y penderfyniad am sawl rheswm. Roedd hyn yn cynnwys rhoi amser i bobl addasu i’r newid, caniatáu i awdurdodau Priffyrdd addasu arwyddion ffyrdd a Gorchmynion Rheoliadau Traffig, ac oherwydd bod sesiynau ymgysylltu ar ochr y ffordd yn cael eu blaenoriaethu. Gorffennodd y cyfnod monitro data hwn ar y 18fed Mawrth 2024, yn dilyn cymeradwyaeth gan Brif Gwnstabliaid, ac mae unrhyw achosion o oryrru mewn ardal 20 milltir yr awr yn cael eu trin fel mewn unrhyw derfyn cyflymder arall.
Mae GanBwyll, Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru a phartneriaid eraill wedi parhau i gynnal sesiynau ymgysylltu er mwyn helpu gyrwyr i addasu i’r newid. Bydd y sesiynau hyn yn parhau drwy gydol 2024 gyda thimoedd ymroddedig yn gweithio o dan GanBwyll i’w cyflwyno o dan yr enw ‘Ymgyrch Ugain’.
Data troseddau Canolbarth a Gorllewin Cymru - 20mya
|
Medi |
Hyd |
Tach |
Rhag |
Ion |
Chwef |
Maw |
Ebr |
Mai |
Meh |
Gorff |
Awst |
Cyfanswm y troseddau |
0 |
0 |
95 |
119 | 134 | 351 | 514 | 491 | 3,650 | 5,711 | 6,002 | 7,326 |
Cyflymder cyfartalog y drosedd |
Amh |
Amh |
28.3 |
27.9 | 28.3 | 28.3 | 28.5 | 30.4 | 28.3 | 28.1 | 28.4 | 28.3 |
Cyflymder uchaf y drosedd |
Amh |
Amh |
37 |
37 | 39 | 41 | 45 | 70 | 88 | 80 | 67 | 59 |
Data troseddau Gogledd Cymru - 20mya
|
Medi |
Hyd |
Tach |
Rhag |
Ion |
Chwef |
Maw |
Ebr |
Mai |
Meh |
Gorff |
Awst |
Cyfanswm y troseddau |
0 |
0 |
0 |
0 | 0 | 0 | 8 | 251 | 636 | 892 | 5,199 | 7,958 |
Cyflymder cyfartalog y drosedd |
Amh |
Amh |
Amh |
Amh | Amh | Amh | 28.8 | 31.2 | 32.7 | 32.4 | 28.8 | 28.7 |
Cyflymder uchaf y drosedd |
Amh |
Amh |
Amh |
Amh | Amh | Amh | 33 | 51 | 88 | 82 | 88 | 56 |
Cwestiynau Cyffredin
Beth sy’n digwydd os yw’n bryder newydd mewn ardal 20mya?
Mae Ymgyrch Ugain yn defnyddio offer monitro cyflymder i adnabod pobl sy’n teithio’n gynt na’r terfyn cyflymder, cyn i swyddogion heddlu stopio’r cerbyd a rhoi dewis i’r gyrrwr o ymgysylltu ymyl ffordd neu bwyntiau a dirwy. Tra bydd gyrwyr yn cael cynnig yr ymgysylltu am ddim fel dewis amgen, gallant wrthod, a fydd yna’n arwain at erlyniad.
Ni fydd y rhai sy’n gyrru llawer cynt na’r terfyn cyflymder yn gymwys ar gyfer sesiwn ymgysylltu, a byddant yn cael eu herlyn.
A yw faint o orfodi yr ydych yn ei wneud wedi newid?
Na. Ni fu unrhyw newid o ran faint o orfodi a ddarparwn. Bydd cynnydd o ran addysg ar ochr y ffordd, wrth inni weithio’n agos â’n partneriaid ledled Cymru i ymgysylltu â chymunedau yn dilyn y newid deddfwriaethol.
Beth yw’r trothwy gorfodi mewn ardal 20mya ar gyfer camerâu cyflymder sefydlog a symudol GanBwyll?
Mae GanBwyll yn gweithredu canllawiau Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, sy’n amlinellu’r trothwyau gorfodi o ddim llai na 10% +2mya. Tra bod y cyhoedd yn dod i arfer â’r newid i’r terfyn diofyn, mae Prif Swyddogion yr Heddlu wedi caniatáu inni gynyddu hyn i 10% +4mya mewn ardal 20mya yn unig, sy’n golygu’n bod ni’n dechrau erlyn ar 26mya mewn ardal sydd â therfyn cyflymder o 20mya.
Ydych chi’n gorfodi mewn ardaloedd lle mae’r arwyddion ffordd yn anghywir?
Na. Mae swyddogion lleihau anafiadau ar y ffyrdd GanBwyll wedi’u hyfforddi i adnabod y gofynion cyfreithiol o ran arwyddion. Cyn cychwyn gorfodi, maen nhw’n cwblhau nifer o wiriadau, gan gynnwys gwirio arwyddion ffyrdd. Os nad yw’r arwyddion ffyrdd yn briodol, ni fyddant yn gorfodi a byddant yn ei adrodd wrth yr Awdurdod Priffyrdd priodol i’w gywiro.
Sut fedraf i gael rhywun i gynnal digwyddiad ymgysylltu yn fy ardal i?
Cewch ddefnyddio’r ffurflenni cyswllt ar ein gwefan i gysylltu â’r tîm GanBwyll yn eich ardal chi.
A gawn ni dwmpathau cyflymder neu fesurau peirianegol eraill?
Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am osod mesurau arafu cyflymder, megis twmpathau cyflymder, arwyddion neu gamerâu sefydlog. Gofynnwn yn garedig ichi gysylltu â’ch awdurdod lleol ar gyfer unrhyw gais sy’n ymwneud â’r mesurau hyn.
Os ydych chi wedi gweld gyrru peryglus neu ddiofal, cewch gyflwyno lluniau a darnau ffilm i Ymgyrch Snap ar ein gwefan.
Pam nad ydych chi ond yn gorfodi y tu allan i ysgolion?
Mae GanBwyll yn gorfodi yn y man iawn, ar yr amser iawn, am y rheswm iawn. Dewisir lleoliadau gorfodi yn seiliedig ar ddata gwrthdrawiadau a phryderon diogelwch ym mhob lleoliad. Mae’r newid deddfwriaethol yn berthnasol ar gyfer y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya yng Nghymru. Ynghyd â phartneriaid eraill, megis Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, Awdurdodau Lleol a grwpiau Gwylio Cyflymder Cymunedol, yr ydym yn ymgysylltu â modurwyr a chymunedau ac yn eu haddysgu er mwyn sicrhau bod y terfyn cyflymder newydd yn cael ei barchu. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i orfodi a chynnal sesiynau ymgysylltu y tu allan i ysgolion.
Onid ymarfer gwneud arian yw hwn?
Na. Defnyddir camerâu diogelwch i wella diogelwch ar y ffyrdd, nid er elw. Cyflwynir yr holl arian a geir drwy ddirwyon i Drysorlys Ei Fawrhydi, ac nid yw’n cael ei ddefnyddio gan GanBwyll nac awdurdodau lleol. Does dim cymhelliant i orfodi mewn mannau lle y byddwn yn canfod nifer fawr o droseddau. Ein safleoedd mwyaf llwyddiannus yw’r rhai hynny lle nad ydym yn canfod unrhyw droseddau oherwydd mae’n golygu mai dyna ble mae’r gydymffurfiaeth fwyaf. Gan hynny, dyna lle mae’r ffyrdd yn fwy diogel.
Pam fod beiciau yn cael fy ngoddiweddyd pan dwi'n gyrru ar 20mya?
Mae terfynau cyflymder yn Rheoliadau Traffig Ffyrdd a Rheolau'r Ffordd Fawr yn berthnasol i gerbydau modur yn unig ac nid i feiciau. Fodd bynnag, mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn nodi y dylai beicwyr fod yn ystyriol o ddefnyddwyr ffyrdd eraill.
Ydych chi wedi derbyn unrhyw arian ychwanegol?
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £570,000 ar gyfer ymgysylltu 20mya ar ymyl ffordd ychwanegol drwy Ymgyrch Ugain yn 2023/24. Mae hyn yn ychwanegol i’r grant rheolaidd gan Lywodraeth Cymru, sef £2,800,000 yn 2023/24 a 2024/25 ac sy’n cynnwys holl weithgarwch arall GanBwyll. Nid oes swm grant i gefnogi’r timoedd Ugain yn 2024/25 wedi’i gadarnhau eto.
Ble ydych chi’n gorfodi 20mya?
Byddwn yn ystyried gorfodi lle mae gwrthdrawiadau wedi digwydd sydd wedi arwain at rywun yn cael ei anafu, lle mae cymunedau wedi mynegi pryderon, neu mewn ardaloedd lle mae defnyddwyr ffyrdd agored i niwed a cherbydau’n cymysgu e.e. ger ysgolion neu gyfleusterau cymunedol.
Ailgyflwynwyd gorfodi mewn ardaloedd 20mya a oedd eisoes yn bodoli ddechrau Tachwedd. Roedd hyn ond mewn lleoliadau gorfodi 20mya na chafodd eu heffeithio gan y newid i’r ddeddfwriaeth a lle’r oedd yr arwyddion cywir wedi’u gosod.
Mae map sy’n dangos yr holl safleoedd gorfodi ar gael fan hyn.
Pam ydych chi’n gorfodi 20mya a oedd yn 30mya cyn Medi 2023 nawr?
Rydyn ni wedi parhau i adolygu ymddygiad gyrwyr a’r ymateb i’r newid yn y terfyn cyflymder diofyn, ac ar yr un pryd, ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru gydag Ymgyrch Ugain.
Mae ceisiadau gan y cyhoedd ar gyfer gorfodi yn eu cymunedau’n cael eu hasesu gan ddefnyddio’n meini prawf gorfodi, a lle bo’n briodol, bydd safleoedd gorfodi’n cael eu sefydlu lle mae tystiolaeth o berygl i ddiogelwch ar y ffyrdd.
Fel sy’n wir am bob safle, maent yn cael eu cyflwyno’n gyson drwy gydol y flwyddyn pan mae data’n cael ei asesu, ac wedi ymgysylltu gyda’r awdurdodau lleol.
Sut ydw i’n gwybod ble fydd y faniau cyflymder?
Rydyn ni’n cyhoeddi map sy’n cynnwys ein holl leoliadau gorfodi posibl fan hyn <dolen>. Gallai’n swyddogion lleihau anafiadau ar y ffyrdd fod yn gweithio yn unrhyw un o’r lleoliadau hyn, fodd bynnag, ni ddylech byth yrru’n gynt na’r terfyn cyflymder a nodir ar yr arwyddion. Does dim cyfyngiad o ran ble y gall swyddogion heddlu orfodi goryrru.
Mewn ardaloedd adeiledig, os ydych yn gweld goleuadau stryd, cofiwch fod hynny’n golygu 20mya, oni bai bod arwyddion yn nodi fel arall. Ceir rhagor o wybodaeth ar Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: Cwestiynau Cyffredin | LLYW.CYMRU.
Beth am gamerâu sefydlog mewn ardaloedd 20mya?
Gosodir camerâu sefydlog lle mae’r perygl o wrthdrawiad angheuol neu ddifrifol ar ei uchaf. Mae’r perygl mewn ardaloedd 20mya â chamerâu sefydlog wedi’i ailasesu, neu fe fydd yn cael ei ailasesu, ac mae’r camerâu hyn wedi’u haddasu er mwyn gorfodi’r terfyn 20mya.
Mae llythyrau cyngor yn cael eu cyhoeddi am y 4 wythnos gyntaf yn dilyn gweithredu camera sefydlog. Bydd manylion camerâu sy’n cael eu gweithredu’n cael eu cyfathrebu ymlaen llaw drwy wefan GanBwyll a sianeli cyfryngau cymdeithasol partneriaid.
Cewch weld rhestr o gamerâu sefydlog ar y map.
Pam fydda i’n cael cynnig llythyr ar gyfer camera sefydlog, ond nid camera symudol?
Yr ydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl eisiau cydymffurfio â’r terfyn cyflymder yn eu cymunedau. Fodd bynnag, pe na baent yn ymwybodol o’r terfyn cyflymder, mae’n bosibl eu bod yn mynd heibio camera sefydlog yn rheolaidd gan dorri’r gyfraith yn ddiarwybod ac mewn perygl o golli eu trwydded drwy wneud hynny.
Drwy gynnig llythyrau cyngor ar gyfer camera sefydlog, mae hyn yn ein galluogi i ymgysylltu yn gyntaf a rhoi gwybod i’r cyhoedd am y terfyn cyflymder cywir. Bydd hyn ond yn cael ei gynnig unwaith ac ni fydd yn cael ei ailadrodd.
Drwy wneud hyn, yr ydym yn cefnogi’n nod o sicrhau cydymffurfiaeth â’r terfyn cyflymder am resymau diogelwch, ac ond yn defnyddio gorfodi fel dewis olaf.
Pam fod rhai pobl yn cael cynnig ymgysylltu am ddim ac eraill yn cael eu herlyn?
Yn draddodiadol, mae ymarferwyr diogelwch ar y ffyrdd wedi defnyddio Peiriannu, Addysg, Ymgysylltu a Gorfodi i wella diogelwch ar y ffyrdd. Gorfodi yw’r dewis olaf bob amser.
Mae’r bartneriaeth wedi defnyddio’r cyfuniad hwn erioed. Blaenoriaethir ymgysylltu bob amser er mwyn cefnogi newid ymddygiad. Defnyddir gorfodi pan mae modd ei gyfiawnhau a lle nad yw ymgysylltu’n briodol.
Gan fod GanBwyll yn cydlynu Ymgyrch Ugain ar ran heddluoedd a’r gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru, gallwn sicrhau bod ymgysylltu’n digwydd fel blaenoriaeth ac ar y cyd â faniau GanBwyll.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu panel annibynnol i adolygu’r meini prawf eithriadau ar gyfer awdurdodau priffyrdd wrth benderfynu a ddylai terfyn cyflymder ar ffordd fod yn 20 milltir yr awr neu beidio. Gallai’r broses adolygu hon arwain at yr Awdurdodau Priffyrdd Lleol yn adolygu’r terfynau cyflymder ar rai ffyrdd.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid mewn Awdurdodau Lleol ar draws Cymru i sicrhau ein bod yn osgoi sefydlu safleoedd gorfodi ar ffyrdd sy’n debygol o gael eu hadolygu.
Ceir rhagor o wybodaeth am yr adolygiad fan hyn.
Dydw i ddim yn cytuno â’r terfyn cyflymder ar fy heol i. Pam ydych chi’n cyhoeddi tocynnau?
Dydyn ni ddim yn gosod terfynau cyflymder ac rydyn ni ond yn gorfodi mewn ardaloedd lle mae goryrru’n bryder, lle mae hanes o anafiadau ar y ffyrdd, neu mewn ardaloedd o gwmpas ysgolion neu waith ffordd. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer pob terfyn cyflymder.
Os hoffech drafod newid y terfyn cyflymder ar ffordd, gofynnwn yn garedig ichi gysylltu â’ch Awdurdod Priffyrdd Lleol, sy’n gyfrifol am osod y terfynau.
Cewch ragor o wybodaeth ynghylch gosod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru fan hyn.