Y Prosiect Etifeddol

Ysbrydolwyd Y Prosiect Etifeddol gan leisiau pobl sy’n byw gyda’u colled a’u galar, ond sydd eisiau defnyddio eu profiadau a’u storïau i ddylanwadu ac i newid agweddau ac ymddygiad pobl ar ein ffyrdd.

Pan yn darllen yn y papur neu’n clywed ar y newyddion am ddamwain ar ein ffyrdd rydym yn ymateb mewn arswyd; gyda chydymdeimlad am ychydig cyn parhau gyda’n diwrnod. I’r rhai hynny sydd wedi colli rhywun annwyl neu sy’n wynebu amgylchiadau sydd yn newid bywyd, dechrau yn unig yw’r ddamwain.

Gallai nifer o achosion ar ein ffyrdd fod wedi eu hosgoi pe bai agweddau ac ymddygiad wedi bod yn wahanol. Peidio defnyddio’r ffon symudol, gyrru o fewn y cyfyngder cyflymder, talu mwy o sylw i’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas neu drwy yrru cerbyd diogel, sydd wedi’i gynnal a’i yswirio. Pethau bach yn yr achosion yma gafodd effaith llawer mwy.

Mae’r teuluoedd sydd wedi rhannu eu straeon fel rhan o’r prosiect yn gobeithio bydd eu lleisiau yn gallu helpu newid agweddau ac ymddygiad ar ein ffyrdd fel na bydd rhaid i deuluoedd eraill fynd drwy’r profiadau y gorfodir iddyn nhw brofi.

Miriam Briddon

Roedd Miriam yn teithio o’i chartref i weld ei chariad pan bu gwrthdrawiad rhwng ei char hi a char gyrrwr oedd yn gyrru o dan ddylanwad alcohol. Bu farw Miriam yn y gwrthdrawiad.

Doedd dim angen bod Miriam wedi marw y noson honno. Roedd modd osgoi ei marwolaeth. Ond, wrth yrru dan ddylanwad alcohol rhoddodd y gyrrwr ei hun mewn sefyllfa lle gallai ladd neu anafu rhywun yn ddifrifol. Mae ei weithredoedd wedi newid bywydau teulu Miriam yn ogystal a bywydau ei phartner a’i deulu, ei ffrindiau a’r gymuned leol.

“Dim ond 21 mlwydd oed oedd Miriam, gyda’i holl fywyd o’i  blaen. Roedd hi’n un o bedair chwaer yn ogystal â bod yn un o efeilliaid. Roedd hi’n berson hyfryd, yn dalentog, hael, addfwyn a gofalgar, wastad a gwên ar ei hwyneb.” – Ceinwen Briddon, Man Miriam

Jason Hitchen

Roedd Jason Hitchen yn hyfforddi ar gyfer ei ail ddigwyddiad Ironman ym mis Gorffennaf 2017, pan gafodd ei daro oddi ar ei feic gan gar. Fe ddioddefodd anafiadau difrifol a bu rhaid iddo gael sawl llawdriniaeth.

Er gwaethaf yr anafiadau a’r profiadau erchyll, mae Jason wedi parhau gyda’i feicio ac yn dal i gystadlu. Mae Jason am annog pob defnyddiwr y ffordd i newid eu hymddygiad pan ar y ffyrdd.

“Roeddwn i’n beicio ar hyd y ffordd ar tua 30mya pan gefais fy nharo. Dwi’n cofio gorwedd ar y ffordd  yn trio anadlu, ond roedd fy ysgyfaint wedi cwympo. Ro’n i yn brwydro am aer. Ro’n i’n meddwl fy mod i yn mynd i farw!” Jason Hitchen

Lona Wyn Jones

Ym mis Mai, 2012 roedd Lona Jones yn teithio mewn car oedd yn gyrru ar gyflymder uchel pan gollodd y gyrrwr reolaeth ar y car gan achosi i’r car droi ben ei waered.

By farw Lona yn 22 mlwydd oed ac fe garcharwyd yr unigolyn oedd yn gyfrifol am y ddamwain am 3 blynedd a naw mis.

“Colli plentyn yw’r peth anoddaf mewn bywyd” – Martin Jones, Tad Lona Wyn

Kelly Kennedy

Ar yr 2ail o Orffennaf, 2012 doedd Kelly ddim wedi cyrraedd adref o’r gwaith. Gwireddwyd hunllef pob rhiant pan ddaeth swyddog heddlu i’r cartref gan ddweud bod Kelly wedi ei lladd mewn damwain yn dilyn gwrthdrawiad gyda char oedd yn goryrru ar ochr anghywir i’r ffordd.

Cafwyd y ddau droseddwr yn euog o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus gan ddedfrydu y naill i 6 mlynedd a 4 mis a’r llall i 7 mlynedd yn y carchar.

“Ni fyddwn fyth yn cael gweld ein merch yn cyflawni ei breuddwyd o fod yn weithiwr cymdeithasol, na ffarwelio â hi wrth iddi adael am drip bythgofiadwy o amgylch y  byd, na’i gweld yn priodi a chael plant, na’i gwylio yn byw bywyd i’r eithaf oherwydd gweithredoedd diofal dau o bobl sy’n cael parhau a’u bywydau nhw.” – Tracy Kennedy, Mam Kelly

Mandy Draper

Roedd Mandy Draper yn beicio adref o’r gwaith pan cafodd ei tharo mewn gwrthdrawiad gyda char. Dioddefodd Mandy ddwy rwyg ansefydlog i’w hasgwrn cefn, torri sawl asen a’i garddwn, anafiadau i’w phen, niwed i’w hysgyfaint ac fe aeth bar llywio ei beic drwy ei clun chwith. Derbyniodd Mandy driniaeth brys yn yr ysbyty wedi iddi gael ei chludo gan Ambiwlans Awyr Cymru.

Roedd Mandy yn gwisgo helmed. Roedd gwisgo helmed yn ail natur i Mandy ac roedd yn rhan o’i threfn dyddiol wrth fynd allan ar ei beic. Gweithred fach a achubodd ei bywyd!

“Y cyfan dwi’n ei gofio o’r diwrnod hwnnw yw car gwyn yn teithio tuag atai, deffro mewn ambiwlans mewn poen erchyll, sŵn yr hofrennydd a chael gwybod na fydda i byth yn cerdded eto.” Mandy Draper