Ymgyrch Atal

Mae ymgysylltu yn chwarae rhan hanfodol mewn diogelwch ar y ffyrdd. Mae GanBwyll wedi gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru, Awdurdodau Lleol a Heddluoedd Cymru i ymgysylltu â'r cyhoedd ers cael ei sefydlu.

Mae sesiynau ymgysylltu wedi’u defnyddio i weithio gyda phob grŵp defnyddwyr ffordd gan gynnwys beicwyr modur, gyrwyr ifanc/hŷn, beicwyr, marchogion ceffylau, a phlant ysgol.

Mae hyn yn aml yn cael ei wneud ar y cyd â gwaith gweithredol ar ochr y ffordd. Mae pobl sy'n cael eu monitro yn gyrru uwchlaw'r terfyn cyflymder neu heb wisgo gwregys diogelwch yn cael eu stopio gan yr heddlu. Maen nhw’n cael yr opsiwn o ddod i sesiwn addysgol gyda'r Gwasanaethau Tân ac Achub ar unwaith neu gael cosb benodedig. Ar hyn o bryd mae hon yn ddirwy o £100 yn y fan a'r lle am drosedd gwregys diogelwch neu £100 a 3 phwynt ar eich trwydded am drosedd goryrru.

Mae’n timau ni wedi gweithio gyda'i gilydd i gynnal gwiriadau diogelwch cerbydau, profion golwg, profion amhariad yfed/cyffuriau, a gwiriadau ar seddi car i blant wrth gyflawni’r ymgyrchoedd.

Cafodd Ymgyrch Atal ei datblygu i sicrhau cysondeb ledled Cymru wrth gyflwyno sesiynau ymgysylltu. Y nod yw caniatáu i bob cymuned gael mynediad i'r un safon uchel o wasanaeth a helpu i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.  Mae Ymgyrch Atal yn canolbwyntio, er enghraifft, ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder 20mya, 30mya a 40mph, gwregysau diogelwch, a sicrhau bod seddi i blant wedi’u ffitio’n gywir.

Hoffem annog unrhyw un sydd â phryder ynghylch diogelwch ar y ffyrdd i gysylltu â ni.