Pwy Yw Ganbwyll

Ni yw’r bartneriaeth fwyaf o’i math yn y Deyrnas Unedig. Treuliwch beth amser i ddarllen yr wybodaeth amdanom isod.

Beth yw GanBwyll / Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru?

Nod strategol GanBwyll yw gwneud pobl yn fwy diogel ar ffyrdd Cymru drwy leihau’r nifer sy’n cael eu hanafu ac achub bywydau. Mae’r bartneriaeth yn gyfrifol am orfodaeth camerâu golau coch a goryrru ond nid mater o orfodi’r gyfraith yn unig yw lleihau anafiadau. Mae Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru yn annog gyrwyr i yrru’n gyfreithlon ac yn ddiogel drwy addysgu a thrwy gynnig atebion peirianyddol parhaol i ffyrdd.

Pwy sy’n rhan o’r Bartneriaeth?

Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys 27 partner cyfartal yn cynnwys y 22 Awdurdod Unedol yng Nghymru, y pedwar Llu Heddlu yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r GICC a’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.

Sut ydych chi’n penderfynu lle i osod faniau camera?

Bwriad y camerâu yw annog gyrwyr i yrru o fewn y cyfyngiadau cyflymder, felly y camerâu mwyaf llwyddiannus yw’r rhai sy’n cofnodi’r nifer LLEIAF o droseddau, nid y mwyaf.

Mae pob camera yn ardal Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru yn cydymffurfio â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar ble y gall camerâu gael eu gosod . Mae sut a phryd y bydd camerâu’n cael eu lleoli’n dibynnu ar yr hanes a phroblemau diogelwch y ffordd ym mhob lleoliad. Gall camerâu weithredu mewn ardaloedd lle mae hanes o anafiadau a/neu lle mae lefel y goryrru wedi’i phrofi. Os bydd angen, gallwn weithredu ledled Cymru mewn lleoliadau lle mae gwaith ar y ffordd, ger ysgolion ac mewn ardaloedd sy’n achos pryder i’r gymuned.

Rwy’n bryderus am oryrru yn fy ardal i, sut fedrwch chi fy helpu i a’m cymuned?

Os oes gennych bryderon am oryrru yn eich cymuned, gwiriwch ein ardal chwilio am gamera ar y wefan hon i weld a ydyn ni eisoes wedi bod yn eich cymuned chi. Os nad yw’ch cymuned yn derbyn gorfodaeth ar hyn o bryd, anfonwch eich pryderon ynghyd ag unrhyw fanylion perthnasol megis cyfyngiad cyflymder, enw’r ffordd a nodweddion (ysgol, ffordd gul, croesfannau pelican) at eich Cydlynydd Heddlu perthnasol (yng Nghanolbarth a De Cymru) neu at eich Swyddog Ffyrdd mwy Diogel (yng Ngogledd Cymru). Bydd rhywun yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth. Ewch i’r adran cysylltu â nii weld pwy i gysylltu â nhw yn eich ardal chi.

Pwy sy’n gosod y cyfyngiadau cyflymder?

Yr Awdurdod Priffyrdd sy’n gyfrifol am yr adran o’r ffordd dan sylw sy’n gosod y cyfyngiadau cyflymder, h.y. yr Awdurdod Unedol (Cyngor) neu Lywodraeth Cymru. Bydd yr Awdurdod Priffyrdd yn cymryd sylw o natur y ffordd a nifer o ffactorau eraill fel sy’n cael eu nodi yng Nghanllawiau’r Adran Drafnidiaeth ar osod cyfyngiadau cyflymder lleol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar

Speed Limit Guidelines

Cynllun Busnes 2021/2022