Canlyniad Llys | Ymgyrch Snap

 

Mae gyrrwr 77 mlwydd oed wedi cael dirwy o £1887 a 4 pwynt cosb yn dilyn cyflwyniad i Ymgyrch Snap.

Derbyniodd GoSafe fideo o Audi gwyn yn goddiweddyd beiciwr ar Bant Hirwaun, Pen-y-bont ar Ogwr, ddydd Mercher, 15 Medi 2021, heb adael digon o le i gyflawni'r symudiad. Cysylltiwyd â'r gyrrwr, Wayne Humphreys o Bont-y-clun, a chynigiwyd iddo gwblhau cwrs. Caiff y cwrs ‘Beth sy'n ein Gyrru’ ei gynnig i yrwyr/beicwyr fel dewis amgen i gael eu herlyn am y drosedd o yrru heb ofal na sylw priodol.

Methodd Mr Humphreys â derbyn y cynnig hwn, a methodd yn ddiweddarach â chydymffurfio â hysbysiad cosb benodedig. O ganlyniad, ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Caerdydd ar 8 Mehefin 2022. Fe'i cafwyd yn euog o yrru heb ofal na sylw priodol. Cafodd 4 bwynt cosb ar ei drwydded, a rhoddwyd dirwy o £1152 iddo, a bydd yn rhaid iddo dalu £620 o gostau a gordal dioddefwyr o £115.

Mae GanBwyll yn derbyn cyflwyniadau tebyg drwy Ymgyrch Snap, ac wedi gweithio'n agos gyda grwpiau gyrrwr a beicwyr i ddatblygu Ymgyrch Pasio'n Agos, sy'n ceisio addysgu gyrwyr a beicwyr am sut i gadw'n ddiogel ar y ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo un o'r pethau sylfaenol sydd angen ei gofio wrth oddiweddyd beiciwr, sef i leihau eich cyflymder a chadw 1.5 metr o bellter rhwng eich cerbyd chi a'r beiciwr bob amser, pryd bynnag mae'n ddiogel gwneud hynny.

Er gwaethaf hyn, yn anffodus, mae GanBwyll yn parhau i dderbyn cyflwyniadau'n rheolaidd i Ymgyrch Snap yn ymwneud â digwyddiadau pasio'n agos. Mae'r canlyniad hwn yn dangos y caiff y cyflwyniadau hyn eu cymryd o ddifrif a'u bod yn derbyn sylw priodol wrth i ni barhau i weithio tuag at sicrhau bod ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.

Os oes gennych wybodaeth am ddigwyddiad pasio'n agos neu drosedd traffig bosibl arall, gallwch gyflwyno'r manylion gyda fideo ategol, i GanBwyll gan ddefnyddio Ymgyrch SNAP (gosafesnap.cymru)