Op Snap | Driver sentenced to 8 months in prison

Mae dyn wedi'i ddedfrydu i wyth mis yn y carchar a chael ei wahardd rhag gyrru am 10 mis ar ôl rhoi manylion ffug yn dilyn cyflwyniad i Ymgyrch Snap.

Darganfu ymchwiliad gan GanBwyll fod Samal Mawlood wedi bod yn gysylltiedig â sgam ehangach a oedd yn defnyddio manylion dioddefwr diarwybod i osgoi cael ei erlyn, ar ôl i'w Audi du gael ei weld yn goddiweddyd yn beryglus ar yr A48 ger Pensarn, Caerfyrddin ar 22 Mai 2019.

Cyflwynwyd fideo o gamera dashfwrdd o'r Audi A5 du i GanBwyll fel rhan o Ymgyrch Snap. Anfonwyd Hysbysiad o Fwriad i Erlyn at geidwad cofrestredig y cerbyd, Samal Mawlood, a honnodd nad ef oedd yn gyrru pan gyflawnwyd y drosedd honedig. Yn hytrach, enwodd ddyn o ardal Birmingham, gan ddweud bod y dyn hwn wedi benthyca ei gerbyd ar ddiwrnod y drosedd honedig.

Anfonwyd llythyrau i'r cyfeiriad yn Birmingham ar ôl hynny a chafodd yr heddlu gadarnhad mai'r dyn hwn oedd yn gyrru ar y pryd. Ar ôl cael y cadarnhad hwn, cafodd yr holl ohebiaeth bellach ei hanwybyddu, a chafodd yr achos ei wrando yn Birmingham yn absenoldeb y dyn.

Fodd bynnag, 10 mis ar ôl i'r achos ddod i ben, cysylltodd y dyn hwn â GanBwyll yn honni bod ei fanylion wedi cael eu darparu ar gam i'r heddlu. Gwnaeth ddarganfod ei fod wedi cael ei ddyfarnu'n euog o'r drosedd pan wrthododd cwmni roi yswiriant car iddo.

Lansiodd GanBwyll ymchwiliad i'r honiadau hyn, gydag ymholiadau lleol, gwiriadau telathrebu, gwiriadau cyflogwr a throsglwyddiadau banc a oedd yn dangos nad oedd yng Nghymru pan gyflawnwyd y drosedd. Yn ystod yr ymchwiliad, cafodd bwyntiau pellach ar ei drwydded am droseddau gyrru nad oedd yn gyfrifol amdanynt. Darganfuwyd bod rhywun wedi bod yn rhannu ei fanylion â gyrwyr ledled y wlad fel rhan o sgam i osgoi erlyniad posibl ar ôl cyflawni troseddau gyrru.

Cynhaliwyd cyfweliad â Samal Mawlood mewn perthynas â'r drosedd wreiddiol a oedd yn ymwneud â'i Audi A5 du. Dangosodd gwaith telathrebu fod ei ffôn yn y lleoliad perthnasol pan gyflawnwyd y drosedd. Ar ôl cyfaddef bod y ffôn ganddo yn y lle cyntaf, honnodd Mr Mawlood yn ddiweddarach ei fod wedi gadael ei ffôn symudol yn y car tra roedd y dyn o Birmingham yn ei ddefnyddio.

Dangosodd y gwaith telathrebu y gwnaed nifer o alwadau o ffôn Mr Mawlood yn agos at amser y drosedd. Hefyd, dangoswyd bod y galwadau hyn wedi dod o gyffiniau Pensarn. Holwyd y rhai a dderbyniodd y galwadau a chadarnhaodd pob un ohonynt eu bod yn adnabod Samal Mawlood ond nad oeddent yn gwybod dim am y gyrrwr a enwyd ganddo.

Ymddangosodd Samal Mawlood yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth, 3 Mai 2022, am Wyrdroi Cwrs Cyfiawnder. Plediodd yn euog a chafodd ei ddedfrydu i wyth mis yn y carchar a'i wahardd rhag gyrru am 10 mis.

Pe bai Mr Mawlood wedi darparu ei fanylion yn gywir a chyfaddef i'r drosedd pan gafodd yr Hysbysiad o Fwriad i Erlyn gyntaf, byddai naill ai wedi cael tri phwynt ar ei drwydded a dirwy, neu byddai wedi gorfod mynychu cwrs gwella gyrwyr.