Canlyndiad Llys | Ymgyrch Snap

Mae gyrrwr peryglus a aeth heibio rhes o geir llonydd ar gyflymder tra bod ei ferch ifanc yn y car wedi derbyn dedfryd o 8 mis wedi’i gohirio, ac mae wedi’i wahardd rhag gyrru am 18 mis.

Dedfrydwyd David Evans o West Williamston, Cilgeti, ddydd Gwener 22 Chwefror 2022 ar ôl cael ei ddyfarnu’n euog o yrru’n beryglus yn Llys y Goron Abertawe’n gynharach. Derbyniodd ddedfryd o 8 mis o garchar, wedi’i gohirio am 15 mis, a chafodd ei wahardd rhag gyrru am 18 mis. Ar ôl hynny, bydd yn rhaid iddo sefyll ail brawf estynedig. Bydd yn rhaid iddo gwblhau 100 awr o waith yn ddi-dâl hefyd, a thalu £1500 mewn ffioedd erlyn.

Am 12:52 o’r gloch brynhawn ddydd Sadwrn 6 Mawrth 2020, gwelwyd Mr Evans yn cyflawni symudiad peryglus ar ffordd osgoi’r A477 rhwng Llanddowror a Rhos-goch. Tra bod traffig yn aros wrth set o oleuadau traffig ger gwaith ffordd, aeth car Tesla llwyd heibio rhes o gerbydau tua dwywaith yn gynt na’r terfyn cyflymder dros dro o 40mya, a bu bron iddo daro’r cerbyd ar flaen y rhes wrth iddo symud i ffwrdd pan drodd y golau’n wyrdd.

Roedd camera dangosfwrdd yn y cerbyd blaen hwn, ac anfonwyd darn ffilm o’r camera hwnnw at Heddlu Dyfed-Powys drwy Ymgyrch Snap, sef y gwasanaeth ar gyfer cyflwyno troseddau gyrru. GanBwyll sy’n gyfrifol am y gwasanaeth hwn. Arweiniodd y cyflwyniad at ymchwiliad yn cael ei gynnal gan y tîm GanBwyll, a oedd yn cynnwys Steve Callaghan o’r adran Cymorth Diogelwch y Ffyrdd, yn cyfrif cyflymder teithio’r car Tesla.

Wrth wylio’r recordiad, roedd hi’n glir o’r cychwyn y byddai gwrthdrawiad difrifol neu angheuol wedi digwydd pe na bai gyrrwr y cerbyd blaen wedi edrych dros ei ysgwydd ac ymateb i’r car Tesla.  

Cafodd Mr Evans ei adnabod a’i gyfweld. Gwadodd yr honiadau yn ystod y cyfweliad, anghytunodd â’r cyfrifiad cyflymder, ac ychwanegodd na fyddai byth yn gyrru’n beryglus â’i ferch yn y car.

Mynnodd Mr Evans ei fod yn ddiniwed tan yn hwyr yn y broses gyfiawnder ac awgrymodd adroddiadau arbenigol a gynhyrchwyd gan yr amddiffyniad nad oedd yr arwyddion ffordd yn ddigonol. Cyflwynwyd nifer o ddadleuon, amddiffyniadau a phle lliniaru cyn yr achos llys, gan arwain at gyfarwyddyd gan y llys bod pob tyst arbenigol yn dod at ei gilydd ac yn cynhyrchu adroddiad ar y cyd ar gyfer dibenion gwrandawiad llys.

Cyflwynwyd newid hwyr i ble euog gan yr amddiffyniad cyn yr achos llys.

Mae hon yn enghraifft wych o’r nifer o wrthdrawiadau a fu bron â digwydd ar ein ffyrdd oherwydd diffyg amynedd a diystyrwch llwyr o reolau’r ffordd fawr, sy’n rhoi pobl mewn perygl o niwed difrifol neu anaf angheuol. Mae Ymgyrch Snap yn profi i fod yn arf effeithiol ar gyfer helpu Heddlu Dyfed-Powys a GanBwyll i gymryd y camau gofynnol yn erbyn pobl sy’n cyflwyno’r fath berygl.

Os ydych chi wedi gweld gyrru peryglus yn digwydd, neu droseddau gyrru eraill ar y ffordd, cewch gyflwyno tystiolaeth ffotograffig a fideo i Gan Bwyll drwy gosafesnap.cymru.