Driver using a laser jammer given 8- month prison sentence

Ddydd Sadwrn 19 Mai 2018, gwnaeth un o'r Swyddogion Lleihau Anafiadau Ffyrdd a oedd yn gorfodi terfynau cyflymder yn Nyfed-Powys ymgais i fesur cyflymder Mercedes-Benz S350 arian a oedd wedi'i gofrestru i Mr Keith John (65 oed). Fodd bynnag, nid oedd modd i'r swyddog fesur y cyflymder gan ddefnyddio camera laser. 

Roedd y swyddog wedi cael hyfforddiant ar sut i nodi bod dyfeisiau gwrthfesur yn cael eu defnyddio er mwyn amharu ar waith camera cyflymder. Am ei fod yn ymwybodol nad oedd y neges gwall a oedd yn ymddangos ar y ddyfais yn normal, rhoddodd y swyddog wybod am y digwyddiad i'w oruchwylwyr yn Heddlu Dyfed-Powys er mwyn iddynt ymchwilio ymhellach.

Anfonwyd fideo o'r digwyddiad at Steve Callaghan yn yr adran Cymorth Diogelwch Ffyrdd er mwyn iddo ymchwilio iddo.

Ar ôl edrych ar y fideo, gwelwyd bod dau wrthrych du hirsgwar wedi'u gosod ar flaen y cerbyd, un ar bob ochr i'r rhif cofrestru.  Mae siâp a lleoliad y gwrthrychau hyn yn nodweddiadol o siâp a lleoliad modiwlau trosglwyddo/derbyn ar ddyfeisiau drysu laserau. Nod y ddyfais yw derbyn y golau is-goch a ddaw o'r camera a chanfod pa mor gyflym y mae'r camera yn fflachio'r laser at y cerbyd wrth fesur ei gyflymder. Ar ôl i'r ddyfais ganfod cyflymder y fflachiadau, fel arfer o fewn tair neu bedair fflach, mae'n anfon fflachiadau llachar iawn o olau is-goch yn ôl at y camera gyda'r bwriad o'i ddrysu.

Edrychodd Steve Callaghan ar y fideo a rhoddodd sicrwydd i ni fod y ddyfais a welwyd ar y cerbyd, ynghyd ag ymateb y camera, yn cadarnhau bod dyfais drysu laserau wedi'i gosod ar y cerbyd a'i bod wedi atal y camera rhag mesur cyflymder y cerbyd. Gellid gweld y camera yn mesur cyflymder ceir yn syth cyn ac ar ôl yr ymgais i fesur cyflymder y Mercedes, felly roedd yn amlwg bod y camera yn gweithio'n iawn ar y pryd.

Aeth PC Whiles a PC Jones i gartref Mr John i geisio darganfod beth oedd y ddyfais ar flaen ei gerbyd. Pan oeddent yno, gwelodd y swyddogion bod yr un dyfeisiau wedi'u gosod ar fan fach a VW Polo. Cynhaliwyd ymchwiliadau ymhellach i gerbydau a oedd wedi'u cofrestru yn y cyfeiriad, a ddaethpwyd o hyd i ddau gar VW Polo eraill a oedd yn cael eu defnyddio gan wraig a merched Mr John fel arfer.

Atafaelwyd y pum cerbyd a chawsant eu harchwilio gan Steve Callaghan o'r adran Cymorth Diogelwch Ffyrdd ar 1 Ebrill 2019.

Atafaelwyd chwe system drysu laserau o'r pum cerbyd. Roedd dwy system drysu laserau ar wahân yn ogystal â dyfais rhybudd radar a laser wedi'u gosod ar y fan Vauxhall.

Roedd y ddyfais ar y Mercedes i'w gweld yn glir ar flaen y cerbyd, lle y'i gwelwyd yn y fideo gorfodi. Daethpwyd o hyd i gydrannau eraill y ddyfais wedi'u cuddio yn y car. Defnyddiwyd camera cyflymder laser i brofi a oedd y dyfeisiau yn amharu ar y laser. Ar yr un pryd, cafodd y rhybuddion y byddai gyrrwr y cerbyd yn eu gweld ac yn eu clywed pan fyddai laser yn ceisio mesur cyflymder y cerbyd eu recordio gan gamera fideo.

Dywedodd Steve Callaghan, Peiriannydd Fforensig yn yr adran Cymorth Diogelwch Ffyrdd: 

“Roedd gweithredwyr gorfodi cyflymder heddlu Dyfed-Powys wedi'u hyfforddi i safon uchel iawn. O ganlyniad i hyn, roedd y gweithredwr yn yr achos hwn yn gwybod yn syth bod dyfais drysu laserau ar gar Mr John yn amharu ar y laser yr oedd yn ei ddefnyddio. 

Er bod Mr John, fel sawl un o'i flaen, wedi honni bod modd defnyddio'r ddyfais drysu Blinder fel synhwyrydd parcio, sgâm fwriadol yw hyn er mwyn ceisio drysu'r heddlu a'r llysoedd. Nid oedd angen unrhyw ddyfais arall i ategu'r cymhorthion parcio rhagorol sydd eisoes ar gael ar gar Mercedes dosbarth-S Mr John, sef un o'r ceir mwyaf moethus, ac sydd â'r cyfarpar gorau sydd ar gael o ran enw ac ansawdd. 

Defnyddir y ddyfais drysu Blinder yn bennaf er mwyn twyllo'r heddlu i feddwl bod y cyfarpar a ddefnyddir ganddynt yn ddiffygiol, gan roi cyfle i'r gyrrwr sy'n ei defnyddio oryrru'n ddi-gosb. Sut bynnag, dylid cydnabod bod dyfeisiau drysu laserau yn dda i ddim bron fel synwyryddion parcioDiolch byth na chafodd y rheithgor ei dwyllo gan y twyll hwnnw.” 

Cafodd Mr John ei gyhuddo o Wyrdroi Cwrs Cyfiawnder. Plediodd yn ddieuog, a chynhaliwyd ei dreial yn Llys y Goron Merthyr Tudful rhwng 18 a 21 Mai 2021.

Yn ystod y treial, roedd pedwar prif drywydd i amddiffyniad Mr John:

Mai synhwyrydd parcio oedd y ddyfais drysu laserau, ac nad oedd yn bwriadu ei defnyddio fel system drysu laserau

Nad oedd yn gyrru ei gerbyd yn gyflymach na 60myh

Am nad oedd yn gyrru'n rhy gyflym, nad oedd angen i'r ddyfais gael ei gosod i ddrysu laserau. Roedd wedi'i gosod ar y gosodiad cyntaf, sef synhwyrydd parcio, nid gosodiad tri, sef y modd drysu laserau

Ni dderbyniwyd barn Steve Callaghan

 

Ar ddiwedd y treial, mae'n amlwg nad oedd amddiffyniad Mr John wedi darbwyllo'r rheithgor, a dim ond cyfnod o 11 munud a dreuliwyd cyn dod i reithfarn euog.

Dywedodd yr Arolygydd Andrew Williams:

“Gwnaed gwaith aruthrol ar gyfer yr ymchwiliad hwn - yn gyntaf i ddangos mai dyfeisiau drysu laserau camerâu cyflymder oedd y dyfeisiau ar geir Mr John mewn gwirionedd, ac yn ail i brofi ei fod wedi bod yn gyrru dros y terfyn cyflymder er gwaethaf ei ymdrechion i sicrhau na fyddai camerâu yn ei ddal. 

Hoffwn ddiolch i bawb dan sylw am eu gwaith yn casglu ffeil tystiolaeth gref, a goresgyn nifer o anawsterau yn ystod yr ymchwiliad - yn enwedig amharodrwydd y diffynnydd i ddarparu unrhyw wybodaeth yn ystod cyfweliadau. 

Nod camerâu cyflymder - boed yn sefydlog neu'n symudol - yw sicrhau diogelwch pawb sy'n defnyddio'r ffyrdd, nid pryfocio gyrwyr. Drwy osod dyfeisiau o'r fath er mwyn gyrru'n rhy gyflym heb gael ei ddal, dangosodd John ei fod yn diystyru'r gyfraith, gan beryglu ei hun a phobl eraill.”

Ar 23 Gorffennaf 2021, rhoddodd y Barnwr ddedfryd o wyth mis yn y carchar i Mr John am wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Dywedodd y Rhingyll Ian Pryce, Cydlynydd GanBwyll Heddlu Dyfed-Powys: 

“Fel arfer, byddai gyrrwr yn cael pwyntiau cosb ar ei drwydded a dirwy o £100 neu'n gorfod mynd ar gwrs addysgol ymwybyddiaeth cyflymder am oryrru dan yr amgylchiadau hyn.

Fodd bynnag, pan aiff bobl i drafferth eithriadol i osgoi cael eu herlyn drwy osod dyfeisiau ar eu ceir sy'n eu galluogi i yrru'n gyflymych na'r terfyn cyflymder heb ofni cael eu herlyn, maent yn dangos agwedd afiach tuag at system farnwrol y wlad hon a'r hyn y mae'n ei gynrychioli, yn ogystal â dirmyg llwyr tuag at y risg o niwed i bobl eraill, o ystyried mai cyflymder gormodol neu amhriodol yw un o'r prif resymau dros wrthdrawiadau lle mae pobl yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn y DU. Mae'r ddedfryd a roddwyd yn wers i'r bobl hynny yn ein cymdeithas sy'n meddwl y gallant dwyllo'r gyfraith ac sy'n achosi risg wirioneddol a sylweddol o niwed ar ein ffyrdd”.  

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll: 

“Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n defnyddio'r ffyrdd yn cydymffurfio â'r terfynau cyflymder cyfreithiol ac yn chwarae eu rhan i gadw ffyrdd Cymru yn ddiogel. Mae'r nifer bach o fodurwyr sy'n prynu'r dyfeisiau drysu laserau hyn ac yn eu defnyddio yn gwneud hynny er mwyn gallu teithio'n gyflym iawn yn fwriadol gan feddwl y bydd modd iddynt osgoi cael eu herlyn. 

Rydym yn gobeithio y bydd lefel y dystiolaeth a gyflwynwyd yn y treial hwn a'r ddedfryd a roddwyd yn atal modurwyr eraill rhag ceisio osgoi cyfiawnder yn y modd hwn. 

Dewis yw goryrru; dewis yw gosod dyfais drysu laserau; dewis a wnaed gan Mr John ar draul diogelwch pawb arall sy'n defnyddio'r ffyrdd. Dewis a arweiniodd at y ddedfryd a roddwyd heddiw. 

Rydym yn annog pob modurwr i sefyll lan dros arafu lawr; drwy wneud hynny, byddwch yn osgoi dirwy am oryrru, ac yn gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch ein ffyrdd.”