Canlyniad Llys | Difrod i Gerbyd Camera Gorfodi
Dirwywyd OWENS a gorchmynnwyd iddo dalu iawndal o £973.76, sef y gost a gymerodd i atgyweirio’r cerbyd.
Ar 7 Mawrth 2024 ar yr A4233 ger Ysgol Gymunedol Glynrhedynog, Glynrhedynog, cafodd cerbyd camera gorfodi ei ddifrodi pan daflodd Nathaniel OWENS gynhwysydd o baent dros flaen y cerbyd.
Roedd y cerbyd camera gorfodi wedi'i anfon i'r ardal yn dilyn cwynion gan drigolion am gyflymder gormodol cerbydau, o fewn ac o gwmpas ardal yr ysgol gymunedol.
Roedd gweithredwr camera GanBwyll y tu mewn i'r cerbyd ar adeg y digwyddiad, a gwelodd grŵp o unigolion yn cerdded heibio ac wrth wneud hynny, gwnaeth un ohonynt guro ar ochr y cerbyd. Ychydig yn ddiweddarach, gwelwyd dau ddyn yn dychwelyd, ac roedd yn ymddangos bod un ohonynt yn chwistrellu hylif ar flaen y fan.
Eiliadau yn ddiweddarach, clywyd sŵn a daeth i’r amlwg fod rhywun wedi taflu paent gwyn dros flaen y cerbyd gan achosi difrod. Roedd recordiadau teledu cylch cyfyng ar y cerbyd yn dangos y diffynnydd OWENS yn edrych dros wal derfyn ac yn taflu cynhwysydd o baent at y cerbyd a darodd y boned a'r ffenestr flaen.
Cafodd OWENS ei adnabod a'i arestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol. Cafodd ei gyfweld ond gwadodd y drosedd, ond ar 7 Mehefin 2024 ymddangosodd OWENS yn Llys Ynadon Merthyr lle plediodd yn euog i achosi'r difrod.
Dirwywyd OWENS a gorchmynnwyd iddo dalu iawndal o £973.76, sef y gost a gymerodd i atgyweirio’r cerbyd.
Dywed y Rhingyll Lloyd, Cydlynydd GanBwyll, “Rydym yn ymateb i gwynion gan y cyhoedd ac awdurdodau lleol ac yn mynd i leoliadau lle mae diogelwch ar y ffyrdd yn bryder. Yn y digwyddiad penodol hwn, mynegwyd pryderon am gyflymder gormodol cerbydau a oedd yn teithio heibio i ysgol brysur. Nid ydw i’n fodlon i’n cerbydau na’n staff ddioddef yr ymddygiad a ddangoswyd gan OWENS ac rwy’n croesawu canfyddiadau’r llysoedd. Rydym wedi ymrwymo i wneud ffyrdd yn lle mwy diogel drwy leihau anafiadau ac achub bywydau.”