Dirwy i ddyn am rwystro fan GanBwyll ar bwrpas gydag ambarél

 

Dydd Llun, 26 Chwefror 2024, aeth dyn i fyny at fan GanBwyll a oedd yn monitro cyflymder ar yr A472 yn Hafodyrynys. I ddechrau, safodd o flaen y camera a cheisio gwneud i’r fan symud trwy chwarae cerddoriaeth yn uchel. Pan fethodd hynny, aeth i nôl ambarél o’i gar a’i defnyddio i guddio’r camera ar y fan.

Aeth Heddlu Gwent i’r safle i siarad â’r dyn a gofyn iddo symud. Gwrthododd sawl cais i symud a pharhaodd i achosi rhwystr. O ganlyniad bu’n rhaid iddo roi ei fanylion i’r swyddog. Enw’r dyn 42 oed oedd Steve Williams, a chafodd ei gyfweld yn ddiweddarach gan swyddogion GanBwyll. Cyfaddefodd i’r drosedd ac ymddiheurodd am ei weithredoedd.

Cafodd ei gyhuddo o rwystro person dynodedig yn fwriadol rhag cyflawni ei ddyletswydd, Adran 46(2) o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002.

Ymddangosodd Williams gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun 20 Mai. Cafodd y ffaith ei fod wedi pledio’n euog ei ystyried a derbyniodd ryddhad amodol. Bu’n rhaid iddo dalu costau’r llys o £85 a thâl dioddefwr o £26.