Mae GanBwyll wedi gorfodi mewn ardaloedd 20mya ers dros ddegawd. Byddwn yn gweithio’n agos ag awdurdodau priffyrdd lleol er mwyn sicrhau ein bod ni’n medru parhau i wasanaethu cymunedau yn ein lleoliadau gorfodi 20mya presennol, lle mae’r terfyn cyflymder yn aros yr un fath ac mae arwyddion priodol wedi’u gosod.
GanBwyll - 20mya
Mae GanBwyll a heddluoedd Cymru’n cefnogi’r terfyn cyflymder 20mya cenedlaethol newydd. Ynghyd â phartneriaid eraill, megis Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, Awdurdodau Lleol a grwpiau Gwylio Cyflymder Cymunedol, yr ydym yn ymgysylltu â modurwyr a chymunedau ac yn eu haddysgu er mwyn sicrhau bod y terfyn cyflymder newydd yn cael ei barchu. Bydd gorfodi’n digwydd lle mae ei angen er mwyn cadw ffyrdd a chymunedau’n ddiogel, a bydd yn cael ei gynnal drwy gyfuniad o gerbydau gorfodi symudol a chamerâu sefydlog, fel sy’n digwydd nawr.
Bydd cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr ledled Cymru yn:
- gwneud ein strydoedd yn fwy diogel, gan leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu (yn ogystal â lleihau'r effaith ar y gwasanaethau brys a'r GIG)
- annog mwy ohonom – o bob oedran – i deimlo'n fwy diogel yn teithio ar droed, ar olwyn ac ar feic
- helpu i wella ein hiechyd a'n llesiant nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ei chyfraniad cyllid blynyddol o £2,555,500 i GanBwyll eleni, ynghyd â £600,000 ychwanegol ar gyfer ymgysylltu 20mya ar ymyl ffordd.
Arweiniad Safle - 20mya Llywodraeth Cymru - 20mya Safle Gorfodi - 20mya
Cwestiynau Cyffredin
Beth sy’n digwydd mewn safleoedd gorfodi 20mya sy’n bodoli eisoes?
Beth sy’n digwydd lle mae safle gorfodi symudol 30 yn newid i 20mya?
Bydd newid yn y terfyn cyflymder yn dylanwadu ar ymddygiad gyrwyr, a byddant yn cael cyfle i addasu i’r newid. Os oes dal pryder bod pobl yn goryrru yn yr ardal, byddwn ni’n gweithio gyda thimoedd plismona lleol, grwpiau gwylio cyflymder cymunedol ac awdurdodau lleol er mwyn penderfynu ar yr ymagwedd orau.
Gallai hyn gynnwys ymgyrchoedd addysg ar ochr y ffordd, mesurau tawelu traffig, gorfodi symudol parhaus, neu gyfuniad o’r rhain.
Beth sy’n digwydd pan mae safle gorfodi sefydlog 30 yn newid i 20mya?
Gellir addasu cynlluniau camera sefydlog os oes newid yn y terfyn cyflymder. Byddwn yn gweithio’n agos gydag awdurdod lleol er mwyn monitro ac asesu’r ardaloedd hyn ledled Cymru ac yn sicrhau bod unrhyw addasiadau’n cael eu gwneud lle mae angen er mwyn gorfodi’r terfyn cyflymder newydd. Gosodir camerâu sefydlog lle mae’r perygl o wrthdrawiad ar ei uchaf, a bydd gorfodi’n digwydd lle mae tystiolaeth o gydymffurfiaeth isel â’r terfyn newydd.
Beth sy’n digwydd os yw’n bryder newydd mewn ardal 20mya?
Sefydlir lleoliadau gorfodi yn seiliedig ar bryderon diogelwch a data gwrthdrawiadau.
Gan y bydd newid i’r terfyn cyflymder yn dylanwadu ar ymddygiad gyrwyr, ni fyddwn yn sefydlu lleoliadau gorfodi newydd mewn ardaloedd 20mya yn ystod y misoedd yn union ar ôl y newid i’r ddeddfwriaeth er mwyn caniatáu i ymddygiad gyrwyr addasu. Byddwn ni’n gweithio’n agos â’n partneriaid er mwyn rhoi addysg ar ochr y ffordd a hyrwyddo’r newid yn ymddygiad gyrwyr, a sicrhau bod y terfynau cyflymder newydd yn cael eu parchu yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn yn erlyn y gyrwyr mwyaf peryglus.
Byddwn yn parhau i ystyried lleoliadau gorfodi newydd yn dilyn gwrthdrawiadau, neu bryderon perygl uwch, mewn ardal 20mya.
A fyddwch chi’n newid faint o orfodi yr ydych yn ei wneud?
Na. Ni fydd unrhyw newid o ran y gorfodi a ddarparwn. Bydd cynnydd o ran addysg ar ochr y ffordd, wrth inni weithio’n agos â’n partneriaid ledled Cymru i ymgysylltu â chymunedau yn dilyn y newid deddfwriaethol.
Beth yw’r trothwy gorfodi mewn ardal 20mya ar gyfer camerâu cyflymder sefydlog a symudol GanBwyll?
Mae GanBwyll yn gweithredu canllawiau Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, sy’n amlinellu’r trothwyau gorfodi o ddim llai na 10% +2mya. Tra bod y cyhoedd yn dod i arfer â’r newid i’r terfyn diofyn, mae Prif Swyddogion yr Heddlu wedi caniatáu inni gynyddu hyn i 10% +4mya mewn ardal 20mya yn unig, sy’n golygu’n bod ni’n dechrau erlyn ar 26mya mewn ardal sydd â therfyn cyflymder o 20mya.
Sut fedraf i gael rhywun i gynnal digwyddiad ymgysylltu yn fy ardal i?
Cewch ddefnyddio’r ffurflenni cyswllt ar ein gwefan i gysylltu â’r tîm GanBwyll yn eich ardal chi.
A gawn ni dwmpathau cyflymder neu fesurau peirianegol eraill?
Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am osod mesurau arafu cyflymder, megis twmpathau cyflymder, arwyddion neu gamerâu sefydlog. Gofynnwn yn garedig ichi gysylltu â’ch awdurdod lleol ar gyfer unrhyw gais sy’n ymwneud â’r mesurau hyn.
Os ydych chi wedi gweld gyrru peryglus neu ddiofal, cewch gyflwyno lluniau a darnau ffilm i Ymgyrch Snap ar ein gwefan.
Pam nad ydych chi ond yn gorfodi y tu allan i ysgolion?
Mae GanBwyll yn gorfodi yn y man iawn, ar yr amser iawn, am y rheswm iawn. Dewisir lleoliadau gorfodi yn seiliedig ar ddata gwrthdrawiadau a phryderon diogelwch ym mhob lleoliad. Mae’r newid deddfwriaethol yn berthnasol ar gyfer y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya yng Nghymru. Ynghyd â phartneriaid eraill, megis Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, Awdurdodau Lleol a grwpiau Gwylio Cyflymder Cymunedol, yr ydym yn ymgysylltu â modurwyr a chymunedau ac yn eu haddysgu er mwyn sicrhau bod y terfyn cyflymder newydd yn cael ei barchu. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i orfodi a chynnal sesiynau ymgysylltu y tu allan i ysgolion.
Onid ymarfer gwneud arian yw hwn?
Na. Defnyddir camerâu diogelwch i wella diogelwch ar y ffyrdd, nid er elw. Cyflwynir yr holl arian a geir drwy ddirwyon i Drysorlys Ei Fawrhydi, ac nid yw’n cael ei ddefnyddio gan GanBwyll nac awdurdodau lleol. Does dim cymhelliant i orfodi mewn mannau lle y byddwn yn canfod nifer fawr o droseddau. Ein safleoedd mwyaf llwyddiannus yw’r rhai hynny lle nad ydym yn canfod unrhyw droseddau oherwydd mae’n golygu mai dyna ble mae’r gydymffurfiaeth fwyaf. Gan hynny, dyna lle mae’r ffyrdd yn fwy diogel.
Pam fod beiciau yn cael fy ngoddiweddyd pan dwi'n gyrru ar 20mya?
Mae terfynau cyflymder yn Rheoliadau Traffig Ffyrdd a Rheolau'r Ffordd Fawr yn berthnasol i gerbydau modur yn unig ac nid i feiciau. Fodd bynnag, mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn nodi y dylai beicwyr fod yn ystyriol o ddefnyddwyr ffyrdd eraill.