Polisi Cwcis

Sut Rydym Yn Defnyddio Cwcis

Mae’r polisi hwn yn cwmpasu’r defnydd o wybodaeth sy'n datgelu'r unigolyn y mae’r Bartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd yn ei chasglu pan fyddwch yn mynd i'r wefan www.ganbwyll.org

Mae'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon wedi'u categoreiddio'n seiliedig ar y categorïau a welir yn ICC UK Cookie Guide (www.international-chamber.co.uk)). Ceir rhestr o'r holl gwcis a ddefnyddir ar y wefan hon fesul categori isod.

Categori 1: cwcis sy'n gwbl angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn angenrheidiol er mwyn eich galluogi i gyrchu'r wefan a defnyddio'i nodweddion, megis cyrraedd mannau diogel ar y wefan. Heb y cwcis hyn, ni ellir darparu'r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt megis e-fasnach.

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno ein bod yn gallu rhoi'r mathau hyn o gwcis ar eich dyfais.

Categori 2: cwcis perfformiad

Mae'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio gwefan, er enghraifft pa dudalennau y mae ymwelwyr yn mynd atynt amlaf ac os ydynt yn cael negeseuon gwall o'r gwe-dudalennau. Nid yw'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy'n adnabod ymwelydd. Caiff yr holl wybodaeth y mae'r cwcis hyn yn ei chasglu ei chyfuno ac felly mae'n ddienw. Fe'i defnyddir i wella sut mae gwefan yn gweithio'n unig.

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno ein bod yn gallu rhoi'r mathau hyn o gwcis ar eich dyfais.

Categori 3: cwcis ymarferol

Mae'r cwcis hyn yn galluogi'r wefan i gofio dewisiadau rydych yn eu gwneud (megis eich enw defnyddiwr, iaith neu'r rhanbarth rydych chi ynddo) a darparu nodweddion gwell a mwy personol. Er enghraifft, gall gwefan roi adroddiadau tywydd lleol neu newyddion traffig i chi drwy storio'r rhanbarth rydych ynddo ar y pryd mewn cwci. Gellir defnyddio'r cwcis hyn hefyd i gofio newidiadau rydych wedi'u gwneud i faint testun, ffontiau a rhannau eraill o we-dudalennau rydych yn gallu'u haddasu. Gallent hefyd gael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt megis gwylio fideo neu gyflwyno sylwadau ar flog. Gall yr wybodaeth y mae'r cwcis hyn yn ei chasglu fod yn ddienw ac ni allant olrhain eich gweithgareddau pori ar wefannau eraill.

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno ein bod yn gallu rhoi'r mathau hyn o gwcis ar eich dyfais.

Rydym yn defnyddio'r cwcis canlynol ar ein gwefan:

Enw'r Cwci

Diben y Cwci

_ga

_gat_gtag

 

Wedi'u gosod gan Google Analytics, defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio'n gwefan. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i lunio adroddiadau a'n helpu i wella'r wefan. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth ddi-enw, gan gynnwys nifer y rhai sy'n mynd i'r wefan, o ble y daeth pobl i'r wefan, a'r tudalennau maent wedi edrych arnynt.

 

Cwcis a anfonir gan wefannau Trydydd Parti

I ategu'n gwefan, weithiau rydym yn gosod ffotograffau a fideos o wefannau megis Facebook, Twitter, YouTube a Flickr. O ganlyniad, os ydych yn agor tudalen â chynnwys o wefan arall, er enghraifft Facebook neu Twitter, mae'n bosibl y byddwch yn derbyn cwcis o'r gwefannau hyn. Nid yw Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru'n rheoli lledaenu'r cwcis hyn. Dylech fynd i wefannau'r trydydd partïon hyn i gael mwy o wybodaeth.

Sylwer: Os nad ydych yn dewis analluogi cwcis yn eich gwe-borwr, rydych yn cytuno i ni eu defnyddio ar ein gwefan.