Ymgyrch Snap Gwyddoniaeth Fforensig

Mae Ymgyrch Snap yn parhau i fod yn wasanaeth hanfodol wrth i ni weithio tuag at ein prif amcan o wneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel. 

Roedd canllawiau a ddosbarthwyd yn ddiweddar gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn amlinellu y byddai angen i arbenigwr fforensig hyfforddedig lefel 3 o dan ISO 17025 gynnal dadansoddiad fforensig o gyflymder neu bellter, ac mae'n rhaid iddo fod yn gymwys yn benodol yn y gweithgareddau gwyddoniaeth fforensig sy'n cael eu cynnal.

Nid yw personél GanBwyll yn meddu ar yr achrediad fforensig arbenigol hwn.

Am y rheswm hwn, fe wnaethom atal gweithredu dros dro ar dystiolaeth a gyflwynwyd lle roedd beicwyr, marchogion a cherddwyr yn teimlo bod cerbyd wedi mynd heibio iddynt yn rhy agos, heb unrhyw ffactorau gwaethygol eraill na thystiolaeth ategol yn bresennol.

Er na allwn ddadansoddi cyflymder na phellter gan ddefnyddio gwyddoniaeth fforensig, ni wnaethom annog pobl i beidio â chyflwyno troseddau posibl. Mae hyn yn parhau i fod yn wir ac mae Ymgyrch Snap yn parhau i adolygu'r cyflwyniadau hyn. 

Rydym wedi gweithio'n agos gyda’n timau i sicrhau bod dull cyson yn cael ei ddefnyddio'n genedlaethol wrth adolygu troseddau honedig ac unrhyw ffactorau gwaethygol neu dystiolaeth ategol sy’n bresennol. Rydym yn hyderus y bydd ein timau yn parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel ac yn adolygu pob digwyddiad fesul achos er mwyn cyflawni’r canlyniad priodol.

Bydd y timau’n parhau i roi adborth i sicrhau ei bod yn glir os na chafodd trosedd ei nodi mewn cyflwyniad.

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i amddiffyn defnyddwyr ffyrdd bregus a gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel i bawb.