Peidiwch Byth â Gyrru gydag Anifail Anwes yn Rhydd yn y Cerbyd

Mae gyrru'n ddiogel yn gofyn am eich sylw llawn a golwg dros y ffordd sydd heb ei rhwystro; mae unrhyw beth llai yn cynyddu'r risg o wrthdrawiad ac anaf posibl.

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod defnyddio ffôn symudol wrth y llyw a phethau eraill yn y cerbyd sy’n tynnu’ch sylw yn ffactorau risg arwyddocaol, ond ydych chi wedi meddwl am bwysigrwydd cario'ch anifail anwes yn ddiogel yn eich cerbyd?

Dyma fater sy'n cael ei anwybyddu'n aml, ond gall hyd yn oed yr anifail mwyaf ufudd gael ei ddychryn gan rywbeth anghyffredin ac ymateb mewn ffordd sy'n peryglu diogelwch y gyrrwr, cyd-deithwyr a defnyddwyr eraill y ffordd.

Rhoddodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll a Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, y cyngor canlynol i berchnogion anifeiliaid anwes:

"Mae'n hanfodol sicrhau bod eich anifail anwes yn cael ei ddiogelu'n saff, gan ddefnyddio harnais a gwregys diogelwch, cludwr anifeiliaid anwes, cawell cŵn, neu gard cŵn wrth deithio mewn cerbyd. Os bydd gwrthdrawiad, gall anifail anwes heb ei glymu droi’n daflegryn peryglus, gan ddal i symud ymlaen yn rymus o fewn y cerbyd a tharo teithwyr eraill.

Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn atgoffa gyrwyr i sicrhau bod anifeiliaid anwes yn cael eu diogelu'n saff ar bob taith."

Mae'r grymoedd mewn gwrthdrawiad yn gwneud y canlyniadau'n arwyddocaol - ar 30mya, byddai ci heb ei ffrwyno sy'n pwyso 50 pwys (22½kg) yn cael ei daflu ymlaen gyda grym sy'n cyfateb i bron i naw o bobl 12 stôn (80kg). Gall y potensial ar gyfer niwed difrifol i'ch ci ac i bobl yn y cerbyd gael ei leihau drwy glymu’ch anifail anwes yn ddiogel gan ddefnyddio'r ataliad cywir.

Ychwanegodd Teresa Ciano:

"Os bydd gwrthdrawiad yn digwydd pan fydd anifail anwes yn rhydd yn y cerbyd, fe allai ddianc, cael ei daro gan gerbyd arall neu achosi gwrthdrawiad arall.

Er mwyn diogelu’ch anifail anwes, dewiswch safle yn y cerbyd lle na fydd yn cael ei anafu os bydd bag awyr yn gweithio a pheidiwch â chaniatáu iddo deithio gyda'i ben allan o'r ffenestr – nid yn unig y bydd yn agored i raean a malurion, ond mae perygl iddo neidio neu ddisgyn o'r cerbyd neu gael ei daro gan gerbyd neu rywbeth arall sy’n dod tuag atoch.”

Dywedodd Wayne Tucker, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Heddlu De Cymru:

"Yn ystod ein gwaith diweddar fel rhan o Ymgyrch Options, lle rydyn ni’n addysgu ac yn hysbysu defnyddwyr y ffordd am bwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch, gwelson ni nifer o yrwyr ag anifeiliaid anwes yn rhydd yn y cerbyd.

Fe welson ni hefyd gŵn bach yn teithio ar lin y gyrrwr, sef rhywbeth sy'n beryglus iawn ac yn peri pryder yn arbennig.  Mae gyrwyr yn rhoi eu hunain mewn perygl o gael eu herlyn am fod heb reolaeth briodol dros eu cerbyd, sy'n arwain at ddirwy ac arnodiad ar eu trwydded.

Mae'n hanfodol bod gyrwyr yn clymu eu hanifeiliaid anwes yn gywir – rydych chi'n eu diogelu nhw, chi’ch hunan a defnyddwyr eraill y ffordd."