Newidiadau Pwysig i Gyflwyno Manylion Gyrwyr
Mae GanBwyll wedi cyflwyno StarPortal, sef system gyflwyno ar-lein newydd wedi'i chynllunio i wneud y broses o ymateb i Hysbysiadau o Fwriad i Erlyn yn haws ac yn gyflymach. Bydd y system ar gael ar y Cyntaf of Fehefin 2026 yn y Swyddfa Tocynnau Ganolog, Heddlu De Cymru. Mae'r system hon eisoes yn cael ei defnyddio yn Swyddfa Tocynnau Ganolog Heddlu Gogledd Cymru.
Mae StarPortal yn eich galluogi i ymateb i'ch hysbysiad ar-lein, sy’n golygu nad oes angen i chi ddychwelyd eich ffurflen drwy'r post. Er hynny, bydd y ddwy swyddfa docynnau yn dal i dderbyn ffurflenni a anfonir drwy'r post. Mae'r system ar gael 24 awr y dydd ar ddyfeisiau symudol, cyfrifiaduron llechen a dyfeisiau bwrdd gwaith.
I ddefnyddio’r system, dilynwch yr URL sydd wedi'i argraffu ar yr Hysbysiad o Fwriad i Erlyn. Drwy ddefnyddio'r cod mynediad unigryw a'r Rhif Hysbysiad ar eich Hysbysiad o Fwriad i Erlyn, bydd modd i chi weld eich trosedd a chyflwyno'ch manylion drwy ddilyn y cyfarwyddiadau.