Sbotolau Ar Safleoedd | A469, Caerffili

Mae’r A469, Ffordd Newydd, Tir Y Berth, Caerffili yn un o Safleoedd Camerau Symudol GanBwyll.

Cynhaliwyd arolwg cyflymder cychwynnol yn 2002 a ddangosodd mai'r cyflymder cyfartalog yn y parth 30mya hwn oedd 36.56mya. Dangosodd fod 15% o gerbydau yn teithio ar gyflymder dros 42mya gydag 8.5% o gerbydau yn teithio ar gyflymder dros 45mya. Datgelodd canlyniadau’r arolwg fod 81% o’r holl gerbydau yn torri’r terfyn cyflymder ar y ffordd hon, gan beryglu bywydau.

Bu nifer o wrthdrawiadau difrifol dros y blynyddoedd blaenorol, gyda llawer o wrthdrawiadau wedi arwain at fân anafiadau, gan gynnwys gwrthdrawiadau yn ymwneud ag anafiadau i gerddwyr a phlant. Bu 3 marwolaeth ar y safle hwn hefyd.

Mae hon yn ffordd brysur yn arwain o Gaerffili i’r Cymoedd gyda chyfaint traffig uchel. Mae poblogaeth uchel yn yr ardal ac mae'n cynnwys strydoedd preswyl, siopau ac ysgol gyfagos.

Pan ddechreuwyd gorfodi yn 2005 bu damwain angheuol arall ar y safle ond ers y dyddiad hwnnw dim ond un gwrthdrawiad difrifol a dau fân wrthdrawiad a fu.

Cynhaliwyd arolwg cyflymder arall ym mis Tachwedd 2019 gyda’r canlyniadau yn dangos bod cyflymderau cyfartalog wedi gostwng i 28mya gyda 32% o gerbydau yn uwch na'r terfyn a llai nag 1% o gerbydau yn teithio ar gyflymder dros 45mya.

Bu gostyngiad amlwg mewn anafiadau a chyflymderau ers sefydlu'r safle; ond bydd angen gorfodaeth barhaus er mwyn gyrru nifer y cerbydau sy'n uwch na'r terfyn cyflymder i lawr ymhellach.

Ein nod yw lleihau anafiadau a marwolaethau ar ffyrdd Cymru. Rydym yn gorfodi er mwyn cadw holl ddefnyddwyr y ffordd yn ddiogel a phryd bynnag y gwelwch un o'n faniau gorfodi symudol mewn lleoliad, rydym yn y lle cywir, ar yr adeg cywir, am y rheswm cywir.