Op Snap | Two drivers receive prison sentences after filming themselves racing on Snapchat

Ar yr 2il o Fehefin, 2020 cyflwynodd aelod o'r cyhoedd dystiolaeth o yrru peryglus drwy Ymgyrch Snap i Heddlu Gwent.

Sefydlwyd Ymgyrch SNAP gan GanBwyll yn 2017 i ymdrin â chyflwyniadau o dystiolaeth fideo a ffotograffig gan aelodau o'r cyhoedd mewn perthynas â throseddau gyrru a welwyd. Mae'n caniatáu i'r cyhoedd wneud adroddiadau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos gan uwchlwytho eu lluniau'n ddiogel a gwneud datganiad ar y pwynt cyswllt cyntaf.

Daeth y dystiolaeth fideo oddi ar cyfrif Snapchat un o'r troseddwyr. Dangosodd y fideo y gyrrwr yn rasio ar gyflymder o fwy na 150mya yn erbyn beicwyr modur, a oedd yn gyrru ar un olwyn yn ystod rhan gyntaf y fideo wrth iddo basio Golff VW. Bu'n rhaid i'r ddau gerbyd osgoi defnyddwyr eraill y ffordd yn ogystal â chyfres o gonau traffig gan fod dwy lôn o'r draffordd wedi'u cau.

Yn ogystal a’r modd peryglus o yrru, roedd gyrrwr y car wedi recordio’r ras ar ei ffôn symudol, gan uwchlwytho a phostio’r fideo ar Snapchat tra’n gyrru ar 150mya, gan roi eu hunain a defnyddwyr eraill y ffordd mewn perygl difrifol o wrthdrawiadau ac anafiadau.

Dangosodd ymholiadau cychwynnol fod gan yrrwr Golff VW 8 pwynt eisoes ar ei trwydded gyrru am droseddau goryrru. Cafodd y gyrrwr ei harestio am yrru'n beryglus ychydig ddyddiau'n ddiweddarach gan beldio yn euog i'r ddwy drosedd yn ystod y cyfweliad, ond gwrthododd ddarparu manylion y beiciwr modur ar ôl dweud mai ffrind ydoedd.

Cafodd ffôn symudol y troseddwr ei atafaelu a darganfuwyd sgwrs Instagram rhwng y modurwr a dyn anhysbys wedi'i amseru ar ddiwrnod y drosedd. Mae'r sgwrs yn sôn am y beiciwr modur ddim yn gallu cadw i fyny â chyflymder y car, yn ystod y ras. 

Darganfyddwyd pwy oedd y beiciwr modur yn y pen draw drwy waith ymchwilio dwys a thrylwyr gan DC Love o Heddlu Gwent.

Er nad oeddent yn gwneud unrhyw sylw i'r drosedd o yrru'n beryglus, nodwyd nifer o sgyrsiau dros gyfryngau cymdeithasol rhwng y modurwr  a'i hun, gan gynnwys:

“ Were in trouble... someone we know reported us to the police off my snapchat when I posted a video of us messing about…….But basically I’m banned from driving they’ve taken my car and my phone I refused to give your name but they’re gonna find out from your number plate……”  

Cafodd y ddau droseddwr eu cyhuddo o Yrru'n Beryglus - Adran 2, Deddf Traffig Ffyrdd 1988 gan ymddangosodd ger bron Llys Ynadon Casnewydd ar 12fed Tachwedd, 2020, lle cawsant eu hymrwymo i Lys y Goron gan Ynadon Casnewydd.

Ymddangosodd y troseddwyr gerbron y Barnwr Daniel Williams ar yr 21ain o Ionawr, 2021 lle cafodd gyrrwr car gwyn ddedfryd o 8 mis o garchar (a ataliwyd am 18 mis), gwaharddiad rhag gyrru am 12 mis a phrawf estynedig i'w basio ynghyd â 140 awr o waith di-dâl yn y gymuned. Cafodd y beiciwr modur ei ddedfrydu i 6 mis yn y carchar (wedi'i atal am 18 mis), gwaharddiad rhag gyrru am 12 mis gyda prawf estynedig i'w basio ynghyd â 100 awr o waith di-dâl yn y gymuned.

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll sy'n rhedeg Ymgyrch SNAP yng Nghymru:

"Mae'r ddedfryd hon yn dangos yr ymchwiliad ardderchog gan DC Love ac yn amlygu pa mor bwysig yw Ymgyrch SNAP o ran dod â gyrwyr peryglus ar ffyrdd Cymru i gyfiawnder."

Os ydych wedi gweld gyrru peryglus neu ddiofal ar y ffyrdd yng Nghymru ac os hoffech roi gwybod amdano, gallwch wneud hynny drwy anfon eich lluniau neu'ch lluniau atom drwy www.gosafe.org