Carchar i yrrwr peryglus
Gyrrwr peryglus wedi’i garcharu ar ôl ffilmio’i hun yn gyrru ar gyflymder o 150mya a’i bostio ar Facebook.
Derbyniodd GanBwyll y lluniau gan nifer o bobl bryderus. Roedd y fideo a bostiwyd gan Harman Bassainty, gŵr 26 oed o Dreforys, Abertawe, yn ei ddangos yn glir yn gyrru ei Rolls Royce du ar gyflymder o 150mya ar yr A449 yn Sir Fynwy. Roedd y fideo yn dangos y cloc cyflymder ac wyneb y gyrrwr.
Ymchwiliodd GanBwyll i'r drosedd ac anfonwyd hysbysiad o fwriad i erlyn at Bassainty. Fe wnaeth e ateb ac enwi gyrrwr arall, er gwaethaf y lluniau yn dangos ei wyneb. Oherwydd hyn cafodd y mater ei drin fel un mwy difrifol sef gwyrdroi cwrs cyfiawnder, a chynhaliwyd ymholiadau pellach.
Defnyddiwyd system Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig i gadarnhau bod y Rolls Royce yn yr ardal adeg y ffilmio a chadarnhawyd bod ffôn symudol Bassainty hefyd yn yr ardal. Cafodd ei holi ac roedd yn dal i wadu’r drosedd.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, 12 Tachwedd 2025 a phlediodd yn euog i yrru'n beryglus a chyflawni gweithred gyda'r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Cafodd ei garcharu am 12 mis, ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd a'i orchymyn i sefyll prawf gyrru estynedig. Roedd rhaid iddo hefyd dalu £1,000 o gostau’r erlyniad.