20mya - Gorfodi 18 Mawrth

  

Mae partneriaeth GanBwyll wedi cadarnhau heddiw y bydd y terfyn 20mya newydd yn dechrau cael ei orfodi ar ffyrdd o 18 Mawrth 2024.

Yn dilyn cyflwyno terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ym mis Medi 2023, fe wnaethom oedi’r broses o ystyried lleoliadau newydd ar gyfer gorfodi 20mya a oedd yn 30mya cyn y newid i’r ddeddfwriaeth.  Penderfynwyd hyn er mwyn caniatáu i’r cyhoedd ddod i arfer â’r newid, i gasglu data i ddeall unrhyw effaith a gafodd y newid ar ddiogelwch ffyrdd ac ar gydymffurfiaeth â’r gyfraith. 

Fe wnaethom barhau i orfodi ein safleoedd 20mya a oedd yn 20mya cyn mis Medi, yn dilyn saib wrth i ni gadarnhau nad oedd y gorchmynion a'r arwyddion priodol wedi'u heffeithio.

Diolch i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, roeddem yn gallu ehangu ein gweithgarwch ymgysylltu drwy dimau Ymgyrch Ugain penodedig ym mis Ionawr 2024. Mae'r timau wedi monitro bron i 25,000 o gerbydau yn ystod eu dau fis cyntaf, ac roedd 97% ohonynt yn gyrru o dan 25mya.  Yn yr achosion hynny lle nad oedd gyrwyr a oedd yn goryrru am ymgysylltu â’r ymgyrch, cawsant eu herlyn.  Ym mis Ionawr a mis Chwefror 2024, cafodd 9 o bobl eu herlyn.

Chwe mis ar ôl y newid i'r ddeddfwriaeth, bydd gorfodi nawr yn cael ei ystyried ym mhob ardal lle mae tystiolaeth o risg diogelwch ffyrdd. Yr ymateb cyntaf i bryderon am oryrru mewn parth 20mya o hyd fydd defnyddio Ymgyrch Ugain, ond byddwn yn asesu unrhyw bryderon sy’n dod i’r amlwg yn yr ardaloedd hyn fel y gwnawn mewn unrhyw derfyn cyflymder arall o 18 Mawrth 2024.

Mae'r cyfuniad o ymgysylltu a gorfodi bob amser wedi cael ei ddefnyddio gan y bartneriaeth. Mae ymgysylltu’n cael ei flaenoriaethu’n barhaus i gefnogi newid ymddygiad er mwyn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb. Defnyddir gorfodi pan fydd cyfiawnhad dros wneud hynny a lle nad yw ymgysylltu’n briodol.

Mae gorfodi bob amser yn cael ei wneud yn y lle iawn, ar yr amser iawn, am y rheswm iawn, i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel.

Gall y cyhoedd nawr fod yn hyderus y bydd yr ardaloedd hyn yn eu cymunedau lle mae ganddynt bryderon am oryrru yn cael eu hadolygu a'u gorfodi, lle bo hynny'n briodol.

Mae GanBwyll wedi gorfodi 20mya ers sawl blwyddyn.  Er i’r bartneriaeth ddechrau fel ymgyrch orfodi y tu allan i ysgolion, wrth i ragor o gyfyngiadau 20mya gael eu mabwysiadu daethant yn rhan o'n dewis safle arferol yn 2021, pan ddechreuon ni orfodi lleoliadau lle'r oedd tystiolaeth o risg diogelwch ar y ffyrdd.

Mae GanBwyll yn ystyried gorfodi lle mae cymunedau wedi codi pryderon, lle mae gwrthdrawiadau wedi digwydd, neu mewn ardaloedd lle mae defnyddwyr ffyrdd agored i niwed a cherbydau yn cymysgu er enghraifft, ger ysgolion.  Bydd unrhyw geisiadau am orfodi yn cael eu hasesu gan ddefnyddio ein meini prawf gorfodi a lle bo'n briodol, bydd safleoedd gorfodi yn cael eu gosod.

Yn ogystal â’n meini prawf safle, byddwn hefyd yn gweithio’n agos gydag awdurdodau priffyrdd i sicrhau bod arwyddion yn briodol, bod unrhyw Orchmynion Rheoleiddio Traffig yn gywir, ac nad yw ffyrdd yn cael eu hystyried fel rhan o’r Adolygiad o eithriadau 20mya.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Trudi Meyrick, Arweinydd Plismona Ffyrdd Cymru:

“Cyflwyno gorfodi mewn ardaloedd 20mya newydd yw cam nesaf ein dull gweithredu â phwyslais ar ymgysylltu. Rydym wedi parhau i adolygu ymddygiad gyrwyr a’r ymateb i’r newid yn y terfyn cyflymder rhagosodedig, wrth ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru gydag Ymgyrch Ugain.

“Bydd gorfodaeth yn cael ei ddefnyddio’n gymesur ac yn deg. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â phobl ledled Cymru ac rydym yn hyderus y gall lefel gymesur o orfodi gael ei defnyddio bellach i’n cadw i symud tuag at gyflawni ffyrdd mwy diogel.”