A483 Ffordd Caerfyrddin

Mae GanBwyll, Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, yn gweithio gydag Awdurdodau Priffyrdd yng Nghymru i orfodi cynlluniau camerâu diogelwch.

Gosodir camerâu sefydlog lle mae’r perygl o wrthdrawiad ar ei uchaf er mwyn annog pobl i yrru o fewn y terfynau cyflymder, gan sicrhau bod pawb yn fwy diogel ar ein ffyrdd. Yr ydym wedi bod yn gweithio gydag Awdurdodau Priffyrdd ledled Cymru gan eu bod nhw wedi gosod arwyddion ffyrdd a rhoi Gorchmynion Rheoliadau Traffig mewn grym ar ffyrdd sydd ddim yn rhan o’r terfyn cyflymder rhagosodedig newydd.

Ar 8 Ionawr 2024, bydd dulliau gorfodi yn dechrau ar Ffordd Caerfyrddin, Abertawe.

Rydym yn hyderus y bydd y mwyafrif o ddefnyddwyr ffyrdd, sy'n gyrru o fewn y terfyn cyflymder, yn gweld gwelliant yn ymddygiad gyrwyr eraill pan fydd yr orfodaeth wedi dechrau.