Halfords Pen-y-bont ar Ogwr

Gwiriad diogelwch sedd car am ddim

Mae Ymgyrch Atal yn cynnal clinig i wirio seddi ceir.

 

Byddwn ni yn Halfords ym Mharc Manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr, Heol y Bont-faen, CF31 3XX ddydd Mawrth, Ionawr 20 o 10am i 2pm.

 

Mae Ymgyrch Atal <https://www.ganbwyll.org/gweithredoedd-ac-ymgyrchoedd/ymgyrch-atal/> eisiau sicrhau bod eich plant yn cael eu gyrru o gwmpas yn ddiogel. Mae ein timau wedi'u hachredu gan Good Egg Car Safety ar gyfer gosod a defnyddio seddi ceir plant. Galwch heibio a gwnewch yn siŵr bod eich anwyliaid mor ddiogel â phosibl.

 

Os na allwch chi fod yno, bydd y cyngor isod o gymorth i chi.

  • Mae gyrrwr yn gyfrifol am unrhyw deithwyr o dan 14 oed a rhaid iddo sicrhau eu bod yn gwisgo gwregys diogelwch.
  • Rhaid i blant o dan 135cm o daldra neu o dan 12 oed fod yn y sedd car gywir ar gyfer eu taldra a'u pwysau.