Camerâ cyflymder newydd ar hyd yr A4059 yn cael eu troi ymlaen

Dyma roi gwybod i yrwyr yng Nghwm Cynon y bydd cyfnod gorfodi'r cynllun diogelwch ar y ffyrdd newydd ar yr A4059 rhwng Cylchfan Abercynon a Chwm-bach yn dechrau. Mae hyn yn golygu y bydd GanBwyll yn cysylltu â gyrwyr sy'n gyrru'n gyflymach na'r terfynau cyflymder sydd wedi'u rhoi ar waith yn ddiweddar, a hynny'n unol ag arferion safonol.

Mae'r Cyngor a GanBwyll wedi bod yn gweithio ar y cyd i fynd i'r afael â chynnydd yn nifer y gwrthdrawiadau difrifol iawn ar hyd yr A4059 dros y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer o wrthdrawiadau difrifol ac angheuol wedi digwydd ar y llwybr prysur yma dros y pum mlynedd diwethaf.

Yn rhan o adolygiad diogelwch ar y ffyrdd, cofnododd offer cyfrif traffig gyflymder modurwyr ar hyd yr A4059 dros gyfnod o 7 diwrnod. Y cyflymder ar gyfartaledd oedd 48mya, a oedd yn is na'r terfyn cyflymder ar y pryd (y terfyn cyflymder cenedlaethol). Serch hynny, roedd nifer sylweddol yn goryrru ac, mewn gwirionedd, roedd 15 o achosion lle roedd modurwyr wedi goryrru'n beryglus, gyda chyflymderau o dros 100mya. Cafodd cyflymder o dros 127mya ei gofnodi. 

Mewn ymateb i'r holl ddata a'r adolygiad diogelwch ehangach, cafodd newidiadau allweddol i derfynau cyflymder eu hysbysebu a'u rhoi ar waith ar hyd sawl rhan o'r A4059 yn gynharach eleni (2025) – a hynny'n dilyn proses ymgynghori statudol drylwyr a gafodd ei chynnal gan y Cyngor. Yn gyffredinol, cafwyd gostyngiad o 10mya yn y terfyn cyflymder ar hyd y llwybr.

Mae terfyn cyflymder o 50mya bellach ar waith ar y rhan rhwng cylchfan yr A470 yn Abercynon ac Aberpennar (50mya a'r terfyn cyflymder cenedlaethol yn flaenorol), gyda rhan 40mya fyrrach wrth gyffordd Quarter Mile (50mya yn flaenorol). Mae'r llwybr rhwng Ysgol Gyfun Aberpennar a Chwm-bach bellach yn llwybr 50mya (y terfyn cyflymder cenedlaethol yn flaenorol), a doedd dim newidiadau i derfyn cyflymder y rhannau 30mya a 40mya yn Aberpennar. Mae arwyddion eglur yn dangos yr holl derfynau cyflymder yma.

Mae system camerâu cyflymder cyfartalog wedi cael ei gosod ar y rhannau 50mya a 40mya newydd o'r A4059, ac mae dau gamera golau coch/cyflymder trwy'r golau gwyrdd wedi cael eu cyflwyno ger Ffordd Gyswllt Ddeheuol ar draws y Cwm yn Aberpennar. 

Er bod y systemau wedi bod yn weithredol ac yn monitro cyflymder traffig ers peth amser, mae cyfnod rhoi'r cynllun ar brawf wedi dod i ben.  Mae'r Cyngor a GanBwyll bellach wedi cadarnhau y bydd y camerâu'n dod yn weithredol i orfodi'r terfynau cyflymder dan sylw o ddydd Mercher 1 Hydref. Bydd cyfnod cychwynnol lle bydd llythyrau rhybudd yn cael eu hanfon at yrwyr sy'n goryrru, cyn yr opsiwn o gwrs addysgol a dirwyon. Nid bwriad y camerâu yw rhoi hysbysiadau cosb benodedig – maen nhw yno i sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â therfynau cyflymder diogel ac i wella diogelwch ar y ffyrdd yn gyffredinol.

Amcangyfrifir bod y terfynau cyflymder newydd yn ychwanegu dim ond 25 eiliad ar gyfartaledd at amser taith tua'r ddau gyfeiriad o Gwm-bach i Abercynon – gan ddibynnu ar adeg y dydd. Dyma newid bach i'r rhan fwyaf o fodurwyr, a'r gobaith yw y bydd y camerâu cyflymder newydd yn atal gyrwyr rhag gyrru mor gyflym â'r cyflymderau a gofnodwyd yn ystod yr ymarfer adolygu blaenorol.

Er mwyn cyd-fynd â'r newidiadau, mae'r Cyngor wedi gosod wyneb newydd ar y ffordd ac wedi adnewyddu'r rhannau lliw o'r wyneb wrth Gyffordd Quarter Mile yn Abercynon. Mae rhannau lliw o'r wyneb a llinellau gwyn ychwanegol hefyd wedi cael eu gosod wrth ragor o gyffyrdd ar hyd yr A4059 i wella diogelwch, yn ogystal ag adnewyddu stydiau ffordd o Gylchfan Abercynon i Gylchfan Ysbyty Cwm Cynon.  

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r Cyngor a GanBwyll wedi cyhoeddi y bydd y system camerâu cyflymder newydd ar yr A4059, rhwng Abercynon a Chwm-bach, yn gwbl weithredol o ddydd Mercher 1 Hydref. Mae'r terfynau cyflymder newydd bellach wedi'u cyflwyno ers sawl mis, gan alluogi modurwyr i ymgyfarwyddo â'r trefniadau newydd.

“Dylai'r systemau camerâu cyflymder newydd annog modurwyr i beidio â goryrru'n beryglus ar hyd y llwybr yma, er mwyn gwella diogelwch pob modurwr. Roedd gweld bod 15 o fodurwyr wedi gyrru'n gyflymach na 100mya ar y llwybr yma yn ystod ein hymarfer adolygu saith diwrnod wedi peri pryder mawr. Mae hyn yn annerbyniol ac yn beryglus dros ben, dyma'r union achosion rydyn ni'n bwriadu eu hatal. Dydyn ni ddim yn bwriadu targedu'r rhan fwyaf o fodurwyr sy'n defnyddio'r A4059 yn ddiogel bob dydd.

“Nid ymarfer gwneud arian yw hyn – bydden ni wrth ein boddau'n peidio â rhoi dirwyon goryrru gan y byddai hynny'n golygu ein bod ni wedi gwneud y prif lwybr yma trwy Gwm Cynon yn amgylchedd mwy diogel. I'r perwyl yma, rydyn ni'n rhoi rhybudd ymlaen llaw i yrwyr y bydd y camerâu'n dod yn weithredol. 

“Hoffen ni ddiolch i Heddlu De Cymru a GanBwyll am eu cefnogaeth gyda'r ymarfer yma ar y cyd, sydd â'r bwriad o leihau nifer y gwrthdrawiadau traffig ffyrdd difrifol iawn ac sy'n peryglu bywydau – dyma nod rydyn ni'n siŵr bod pawb yn ei rannu.”

Ychwanegodd Gareth Morgan, Pennaeth GanBwyll,: “Unig amcan GanBwyll yw gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel i bawb. Rydyn ni'n falch o weithio ochr yn ochr â Chyngor Rhondda Cynon Taf i'n helpu ni i gyflawni hyn a gwella diogelwch ar y ffyrdd ledled Cwm Cynon. Mae gwrthdrawiadau yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd ac mae cyflymder amhriodol yn chwarae rhan fawr. Mae ymddygiad nifer fach o bobl yn peryglu pawb a bydd y camerâu yma yn helpu i atal hynny.

“Byddwn ni'n cyflwyno llythyrau rhybudd yn ystod y pedair wythnos gyntaf ar ôl i'r camerâu ddod yn weithredol. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni ymgysylltu â phobl yn gyntaf ac osgoi defnyddio mesurau cosbol. Fyddwn ni ddim yn goddef cyflymderau peryglus a byddwn ni'n erlyn pobl sy'n peryglu bywydau.”