Camera yn Weithredol - Hydref 2025
Bydd y camerâu isod yn cael eu rhoi ar waith, a bydd llythyrau cyngor yn cael eu hanfon am y pedair wythnos gyntaf ar ôl y dyddiad a restrir ar gyfer eu rhoi ar waith.
Mae awdurdodau priffyrdd yn gosod camerâu sefydlog lle mae’r risg o wrthdrawiad ar ei uchaf. Maen nhw’n annog pobl i yrru o fewn y terfynau cyflymder ac yn ein cadw ni i gyd yn fwy diogel ar y ffordd.
Bydd GanBwyll yn prosesu’r troseddau a ddalir gan y cynllun camera ac yn anfon llythyrau cynghori am y bedair wythnos gyntaf ar ôl iddo ddod yn weithredol. Mae’r llythyrau hyn yn caniatáu inni ymgysylltu yn gyntaf a chyfleu’r terfyn cyflymder cywir i bobl, yn lle defnyddio cyrsiau addysgol neu erlyniadau. Dim ond at bobl nad ydynt eisoes wedi cael llythyr cynghori yng Nghymru y bydd llythyr yn cael ei anfon.
Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl eisiau gyrru’n ddiogel trwy eu cymunedau. Fodd bynnag, os nad oeddent yn ymwybodol o’r terfyn cyflymder cywir, efallai eu bod yn mynd heibio i gamera sefydlog yn rheolaidd, ac yn torri’r gyfraith heb yn wybod. Gallai hyn roi pobl mewn perygl o golli eu trwydded.
Mae defnyddio’r llythyrau cynghori yn cefnogi ein nod o sicrhau bod ein ffyrdd yn fwy diogel a dim ond defnyddio gorfodi fel y dewis olaf.
Lleoliad y Camera | Math o Gamera | Cyfngiadau Cyflymder | Camera yn Weithredol |
A4042 Kingsway, Casnewydd | Cyflymder | 30mya | 01/11/25 |
A4051 Malpas Road ger y cyffordd i Lon Bettws (Gogledd), Casnewydd | Cyflymder | 40mya | 01/11/25 |
A4051 Malpas Road ger y cyffordd i Llanover Close (De), Casnewydd | Cyflymder | 40mya | 01/11/25 |
A48 Ffordd Cas-gwent, Langstone, Casnewydd | Cyflymder | 40mya | 01/11/25 |