Camera yn Weithredol - Awst 2025

Bydd y camerâu isod yn cael eu rhoi ar waith, a bydd llythyrau cyngor yn cael eu hanfon am y pedair wythnos gyntaf ar ôl y dyddiad a restrir ar gyfer eu rhoi ar waith.

Mae awdurdodau priffyrdd yn gosod camerâu sefydlog lle mae’r risg o wrthdrawiad ar ei uchaf. Maen nhw’n annog pobl i yrru o fewn y terfynau cyflymder ac yn ein cadw ni i gyd yn fwy diogel ar y ffordd.

Bydd GanBwyll yn prosesu’r troseddau a ddalir gan y cynllun camera ac yn anfon llythyrau cynghori am y bedair wythnos gyntaf ar ôl iddo ddod yn weithredol. Mae’r llythyrau hyn yn caniatáu inni ymgysylltu yn gyntaf a chyfleu’r terfyn cyflymder cywir i bobl, yn lle defnyddio cyrsiau addysgol neu erlyniadau. Dim ond at bobl nad ydynt eisoes wedi cael llythyr cynghori yng Nghymru y bydd llythyr yn cael ei anfon.

Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl eisiau gyrru’n ddiogel trwy eu cymunedau. Fodd bynnag, os nad oeddent yn ymwybodol o’r terfyn cyflymder cywir, efallai eu bod yn mynd heibio i gamera sefydlog yn rheolaidd, ac yn torri’r gyfraith heb yn wybod. Gallai hyn roi pobl mewn perygl o golli eu trwydded.

Mae defnyddio’r llythyrau cynghori yn cefnogi ein nod o sicrhau bod ein ffyrdd yn fwy diogel a dim ond defnyddio gorfodi fel y dewis olaf.

 

Lleoliad y Camera Math o Gamera Cyfngiadau Cyflymder Camera yn Weithredol
Pentwyn Road, Caerdydd Cyflymder 20mya 01/09/25
Heol Casnewydd - Rhodfa Colchester, Caerdydd Cyflymder 30mya 01/09/25
Heol y Gogledd, Caerdydd Cyflymder 30mya 01/09/25