Amryfal cynlluniau camerâu diogelwch yn gorfodi eto

 

Amryfal cynlluniau camera diogelwch yn gorfodi eto o ddydd Llun 11 Rhagfyr.

 

Gosodir camerâu sefydlog lle mae’r perygl o wrthdrawiad ar ei uchaf er mwyn annog pobl i yrru o fewn y terfynau cyflymder, gan sicrhau bod pawb yn fwy diogel ar ein ffyrdd. Yr ydym wedi bod yn gweithio gydag Awdurdodau Priffyrdd ledled Cymru gan eu bod nhw wedi gosod arwyddion ffyrdd a rhoi Gorchmynion Rheoliadau Traffig mewn grym ar ffyrdd sydd ddim yn rhan o’r terfyn cyflymder rhagosodedig newydd. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn mewn sawl ardal, bydd y camerâu canlynol yn ailddechrau gorfodi.

 

  • Heol y Gogledd, Caerdydd

  • Heol y Bontfaen Gorllewin, Caerdydd – Dusty Forge

  • Heol y Bontfaen Gorllewin, Caerdydd – The Briary

  • A465 Bryn-mawr i Gilwern, tua’r Dwyrain

  • A465 Gilwern i Fryn-mawr, tua’r Gorllewin

  • Cyffordd Heol Caerfyrddin, Heol Ravenhill, Abertawe