Bydd 19 o safleoedd gorfodi symudol

 

Yn dilyn y newid yn y terfyn cyflymder diofyn, rydym wedi parhau i adolygu ymddygiad gyrwyr ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru. Byddwn yn ystyried gorfodi lle mae gwrthdrawiadau wedi digwydd a arweiniodd at rywun yn cael ei anafu, lle mae cymunedau wedi codi pryderon, neu mewn ardaloedd lle mae defnyddwyr ffyrdd bregus a cherbydau yn cymysgu, e.e. ger ysgolion neu gyfleusterau cymunedol.

Bydd 19 o safleoedd gorfodi symudol yn cael eu cyflwyno ar draws Sir Gaerfyrddin ar ôl i bryderon gael eu codi gan gymunedau. Mae’r safleoedd hyn wedi’u hasesu gan ddefnyddio ein meini prawf gorfodi a’u dadansoddi i gael tystiolaeth o risg diogelwch y ffyrdd.

Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i sicrhau nad yw'r lleoliadau hyn yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad o eithriadau 20mya.

Bydd gorfodi yn cael ei gyflwyno yn y lleoliadau canlynol o ddydd Mawrth 7 Mai.

  • Heol Llethri, Felin-foel
  • B4309 Meinciau
  • B4306 Heol y Banc, Bancffosfelen
  • Ffordd Glynhir, Llandybïe
  • A485 Rhydargaeau
  • Cwmgwili, Sir Gaerfyrddin
  • A484 Cwm-ffrwd
  • Heol y Hendre, Tŷ-croes / Capel Hendre
  • B4310 Nantgaredig
  • A483 Heol Llandeilo, Llandybïe
  • B4302 Talyllychau
  • A482 De Cwm-ann
  • Heol y Llew Du, Cross Hands – Gorslas
  • B4302 Talyllychau
  • A476 Heol Llan-non, Y Tymbl Uchaf
  • B4310 Porth-y-rhyd
  • B4309 Pump-hewl
  • A4069 Stryd Lydan
  • Eglwys Saron, Saron