A4069 - Sir Gaerfyddrin

 

Mae GanBwyll, Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, yn gweithio gydag Awdurdodau Priffyrdd yng Nghymru i orfodi cynlluniau camerâu diogelwch.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Cyngor Sir Gar am ei fod wedi cyflwyno camerâu cyflymder ar y A4069, gyda'r nod o wneud y ffyrdd hyn yn fwy diogel a gwella cydymffurfiaeth â'r terfyn cyflymder. Bydd y camerâu hyn yn weithredol o ddydd Llun 15 Ionawr 2024.

Mae goryrru yn rhan o'r Pump Angheuol ac yn un o'r prif bethau sy'n cyfrannu at wrthdrawiadau traffig ffyrdd yng Nghymru. Bydd gorfodaeth ar y ffyrdd hyn yn ein helpu i leihau gwrthdrawiadau a chadw pobl yn y gymuned yn fwy diogel.

Rydym yn hyderus y bydd y mwyafrif o ddefnyddwyr ffyrdd, sy'n gyrru o fewn y terfyn cyflymder, yn gweld gwelliant yn ymddygiad gyrwyr eraill pan fydd yr orfodaeth wedi dechrau.