Tocynnau a throseddau

Cysylltwch â'r Uned Camerâu Diogelwch canlynol yn achos tramgwyddau o fewn ardaloedd camerâu GanBwyll:

Sicrhewch eich bod yn cbwlhau'r maes "Rhif Cyfeirnod" gan y bydd hyn yn ein galluogi i ymdrin a'ch ymholiad yn brydlon

Er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data, mae’n rhaid cyflwyno pob ymholiad sy’n ymwneud â Hysbysiad o Fwriad i Erlyn yn ysgrifenedig.  Ni chaniateir rhoi gwybodaeth dros y ffôn. BYDDWN YN YMATEB I GEISIADAU YSGRIFENEDIG O FEWN 10 NIWRNOD GWAITH.   

Canolbarth a De Cymru

Yr Uned Camerâu Diogelwch

Blwch Post 95

Trefforest

Pontypridd

CF37 9DH

Ffôn: Ar hyn o bryd dim ond drwy ebost neu lythyr gall Heddlu Gogledd Cymru ddelio gyda'ch ymholiad.

Ffacs: 01443 660416
E-bost: swpctoadmins@south-wales.police.uk

Os byddwch yn e-bostio'r Swyddfa Tocynnau Ganolog, cofiwch gynnwys rhif eich hysbysiad a'ch enw llawn ym mhob gohebiaeth.

Sylwer: os na allwch gysylltu â'r swyddfa docynnau ganolog dros y ffôn, peidiwch â ffonio'r rhif 101 oherwydd bod hyn ar gyfer galwadau brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys yn unig. Ni all y staff sy'n ateb galwadau rhif ffôn 101 helpu â materion camerâu diogelwch.

Gogledd Cymru

Yr Uned Prosesu Camerâu Diogelwch

Blwch Post 53

Prestatyn

LL19 7WW
 
E-bost: scpu@northwales.police.uk

Ni ddylid defnyddio codau post ar gyfer cyfeiriadau Blwch Swyddfa Bost mewn dyfeisiau llywio lloeren, oherwydd cewch eich cyfeirio i swyddfa ddosbarthu’r Post Brenhinol. Dylid cysylltu â’r swyddfa’n ysgrifenedig neu dros y ffôn.

HYSBYSIAD PWYSIG – GWEFANNAU TALU ANSWYDDOGOL

Daeth gwybodaeth i’n sylw bod gwefannau’n cynnig gostyngiadau sylweddol ar ddirwyon neu hysbysiadau o dâl cosb – peidiwch â’u defnyddio hwy. Er y bydd y wefan yn cymryd eich arian, ni fydd eich dirwy neu eich cosb benodol yn cael ei thalu ac mae’n bosib y byddwch yn wynebu camau gorfodi ychwanegol. Nid oes unrhyw ostyngiadau na mentrau gan y llywodraeth yn bodoli ar gyfer unrhyw fath o docyn.

Mae’n RHAID i chi ddefnyddio’r dulliau talu swyddogol a nodir ar eich hysbysiad. Os daw cwsmeriaid o hyd i wefannau o’r fath, fe’u cynghorir i roi gwybod amdanynt i www.actionfraud.police.uk sy’n eu monitro a’u cadw.