Amdanom Ni

Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru

 

Pwy ydym ni

GanBwyll yw Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru Ni yw'r bartneriaeth fwyaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn cynnwys 27 o bartneriaid cyfartal, gan gynnwys y 22 awdurdod unedol yng Nghymru, pedwar Heddlu Cymru, a Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag GICC a'r Gwasanaethau Tân yng Nghymru.

 

Yr Hyn Rydym Yn Ei Wneud

Ein nod cyffredinol yw sicrhau diogelwch ar ffyrdd Cymru drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu hanafu ac achub bywydau. Gwnawn hyn drwy ddarparu addysg, camau gorfodi a datrysiadau peirianegol ar draws y ffyrdd yng Nghymru. Mae ein haddysg a'n datrysiadau peirianneg yn annog pobl i yrru'n gyfreithiol ac yn ddiogel, tra bod ein camau gorfodi yn targedu pobl sy'n rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl.

 

Y Camau Gorfodi a Ddarparwn

Ni sy'n gyfrifol am gamerâu cyflymder sefydlog, camerâu golau coch, camerâu cyflymder cyfartalog a chamerâu gorfodi symudol.

Mae'r camerâu yma yn ein helpu i annog pobl i yrru o fewn y terfynau cyflymder a chadw pawb sy'n defnyddio ein ffyrdd yn ddiogel. Ein camerâu mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n gweld y nifer lleiaf o droseddau, nid y nifer mwyaf.

Gall ein camerâu gorfodi symudol ganfod troseddau cyflymder, troseddau ffôn symudol a throseddau gwregys diogelwch. Gallant chwilio am yr holl droseddau hyn ar yr un pryd, er ein bod yn cynnal gweithrediadau i ganolbwyntio ar droseddau penodol trwy gydol y flwyddyn.

 

Ble Mae'r Camerâu

Rydym yn defnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru i'n helpu i leoli'r camerâu ar draws y wlad. Mae sut a phryd y byddwn yn defnyddio'r camerâu yn dibynnu ar hanes a phroblem diogelwch ffyrdd ym mhob lleoliad. Gellir eu gosod mewn ardaloedd lle mae goryrru yn bryder, lle mae hanes o anafiadau ar y ffyrdd, neu mewn ardaloedd o amgylch ysgolion neu waith ffordd.

Gallwch weld ble mae'n camerâu ar ein Hafan.

 

Sut y Gallwn Weithio Gyda Chi

Os oes gennych bryderon am oryrru yn eich cymuned, gallwch roi’r manylion i ni gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol: Pryderon Cymunedol | Safle Gosod Gan Bwyll (nexmedia.co.uk)

Bydd un o'n timau yn dechrau asesiad o'r lleoliad ac yn sefydlu a oes unrhyw gamau gorfodi yn mynd ymlaen yn yr ardal. Os felly, byddant yn defnyddio'r wybodaeth hon i ystyried a fydd angen gwneud newidiadau i'n safle gorfodi presennol.

Os nad oes unrhyw gamau gorfodi yn yr ardal, byddant yn cynnal ymholiadau pellach. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi data gwrthdrawiadau ac unrhyw ddata gorfodi hanesyddol, cwblhau arolygon cyflymder a gwerthuso addasrwydd y lleoliadau ar gyfer gwahanol fathau o gamau gorfodi.

Os oes gennych chi ddigwyddiad yr hoffech ddweud wrthym amdano neu os hoffech wneud cais am ymweliad addysgol â’ch ysgol, rhowch wybod i ni am y manylion trwy ein ffurflen Ymholiadau Cyffredinol. Byddwn yn trosglwyddo eich cais i un o’n timau lleol yn eich ardal ac yn gofyn iddynt gysylltu. Addysg yw un o’r prif ffyrdd rydym yn gweithio tuag at wneud pobl yn fwy diogel ar ein ffyrdd, felly byddwn bob amser yn gwneud yr hyn a allwn er mwyn helpu i ddarparu negeseuon diogelwch ffyrdd.

 

Yr Hyn Nad Ydym yn ei Wneud

Ni ni sy'n gosod y terfynau cyflymder. Er ein bod yn gorfodi ar draws pob terfyn cyflymder yng Nghymru, gan gynnwys parthau 20mya a 50mya, nid ni sy'n gosod y terfynau cyflymder ar y ffyrdd. Pennir y terfynau hyn gan yr Awdurdod Priffyrdd sy'n gyfrifol am yr ardal. Gallai hyn naill ai fod yn Awdurdod Unedol (Cyngor) neu'n Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Awdurdodau Priffyrdd yn ystyried natur y ffordd a llawer o ffactorau eraill, fel y manylir yng Nghanllawiau'r Adran Drafnidiaeth  ar osod terfynau cyflymder lleol. Gellir dod o hyd i fwy o fanylion yma: Gosod terfynau cyflymder lleol | GOV.WALES