Sbotolau ar Safleoedd | Heol Ffagl, Hope, Sir Y Fflint

Yn dilyn sawl adroddiad o bryder gan breswylwyr ynghylch cyflymderau gormodol yn yr ardal, sefydlwyd safle gorfodi newydd ar Heol Ffagl, Hope, Sir y Fflint. Mae gan y safle gyfyngder cyflymder o 30mya a dechreuwyd gorfodi ym mis Ebrill 2021.

Cynhaliwyd arolwg cyflymder ac er y canfuwyd bod y cyflymder cyfartalog yn 30mya canfuwyd bod 43% o’r cerbydau yn teithio ar gyflymder yn uwch na’r cyfyngiad. Roedd 15% o’r cerbydau yn teithio ar gyflymder dros 36mya a 0.4% ar gyflymder o 45mya neu fwy. Yr hyn a oedd yn arbennig o bryderus oedd bod y cyflymderau gormodol hyn yn cael eu cofnodi wrth agosau at barth 20mya a oedd wedi'i sefydlu o amgylch Ysgol Uwchradd Castell Alun.

Er na chofnodwyd unrhyw wrthdrawiadau yn yr ardal yn ystod y tair blynedd diwethaf, penderfynwyd bod digon o risgiau a pheryglon ar y safle i gyfiawnhau gorfodi.

Mae'r safle mewn ardal wledig gydag ardaloedd preswyl ar ddwy ochr y ffordd, ardaloedd hamdden a chartref preswyl. Defnyddir y ffordd gan gerbydau amaethyddol a nwyddau sy'n symud yn araf sy'n gwasanaethu'r ffermydd yn yr ardal.

Mae'r ffordd yn hir ac yn syth sy'n annog cyflymder gormodol trwy'r ardal breswyl ond pryder mawr oedd bod y darn syth hwn yn arwain i'r parth 20mya y bwriedir iddo warchod plant ysgol sy'n defnyddio Ysgol Uwchradd Castell Alun.

Bydd gorfodaeth yn parhau ar y safle nes bydd nifer y cerbydau sy'n teithio ar gyflymder yn uwch na'r cyfyngder yn lleihau'n sylweddol.