A465 Dowlais Top i Hirwaun - Lansio Cynllun Camerâu

Mae GanBwyll, Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, yn gweithio gydag Awdurdodau Priffyrdd yng Nghymru i orfodi cynlluniau camerâu diogelwch.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith sylweddol ar yr A465 o Dowlais Top i Hirwaun i ehangu'r ffordd i ddwy lôn i bob cyfeiriad.  Bydd y gwaith hwn, pan fydd wedi ei gwblhau, yn anelu i wella llif traffig, yn ei gwneud hi'n haws i oddiweddyd, ac hefyd yn gwella diogelwch ar y ffordd yn gyffredinol, yn arbennig o amgylch cyffyrdd.

Fel rhan o'r gwelliannau hyn, mae terfyn cyflymder o 40mya wedi ei gyflwyno yn ystod y gwaith uwchraddio er mwyn diogelu defnyddwyr y ffordd a'r gweithwyr ar y ffordd.

Er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth â'r terfyn cyflymder, bydd gorfodaeth yn dechrau ar 22 Mawrth 2022.  Rydym yn hyderus y bydd mwyafrif o ddefnyddwyr y ffordd, sy'n gyrru o fewn y terfyn cyflymder, yn gweld gwelliant yn ymddygiad gyrrwyr eraill o ganlyniad i'r orfodaeth.  Prif nod yr orfodaeth fydd sicrhau cydymffurfiaeth â'r terfyn cyflymder, a gwella diogelwch i bawb.  

 

Am ragor o wybodaeth am gynllun gwella:

yr A465: rhan 5 a 6 Dowlais Top i Hirwaun | LLYW.CYMRU

Ymholiadau pellach:-

Teresa Ciano

Rheolwr Partneriaethau

gosafepress@dyfed-powys.police.uk