Gorfodi’r Cyfynigad Cyflymder ar yr M4

Yn 2015, sefydlwyd system camerâu cyflymder cyfartalog ar hyd yr M4 ym Mhort Talbot, gan ddisodli'r camerâu sefydlog a oedd wedi bod yn weithredol er 2002. Mae'n hawdd adnabod y camerâu hyn oddi wrth eu lliw melyn traddodiadol, gyda'r cyfyngiad cyflymder 50mya ar hyd y system gyflymder gyfartalog hon yna am resymau diogelwch y ffordd ac mae wedi cael ei orfodi am nifer o flynyddoedd. Ers 2015 mae dros 44,000 o Hysbysebion Erlyn Bwriedig wedi'u danfon i fodurwyr oedd yn goryrru ar hyd y ffordd.

Yn 2018, gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniad i gyflwyno cyfyngiadau cyflymder amgylcheddol i wella lefelau ansawdd aer mewn pum lleoliad ledled Cymru; y cyntaf o'i fath yn y DU.

Mae'r camerâu 50mya amgylcheddol wedi bod yn eu lle ers peth amser bellach, gan roi'r cyfle i'r cyhoedd ymgyfarwyddo â'u presenoldeb ac addasu eu cyflymder ar hyd y ffyrdd hyn. Gellir adnabod y camerâu hyn, sy'n cofnodi troseddau goryrru am resymau amgylcheddol, oddi wrth lliw gwyrdd nodedig y camerâu.

Ers y 4ydd o Hydref, gallai modurwyr sy'n teithio ar gyflymderau yn uwch na'r cyfyngiad cyflymder 50mya ar rai o'r ffyrdd mwyaf llygredig yng Nghymru dderbyn llythyr neu ddirwy trwy eu drysau, gan gynnwys ar hyd rhai rhannau o'r M4 yn Ne Cymru, megis ym Mhort Talbot.

Mae'r camerâu cyflymder amgylcheddol hyn yn ffinio â'r system camerâu cyflymder cyfartalog sydd eisoes wedi'i sefydlu ar hyd yr M4 ym Mhort Talbot.

Dywedodd Rheolwr Partneriaeth GanBwyll, Teresa Ciano:

"Mae gyrru ar y cyfyngiad cyflymder sydd wedi’i nodi yn fanteisiol o ran diogelwch, ond gall hefyd wella ein bywydau mewn ffyrdd eraill.  Drwy gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer i Gymru, gwyddom y bydd ein ffyrdd yn fwy diogel hefyd.  Drwy weithredu rhaglen llythyrau cynghori a fydd y cyntaf o'i math, byddwn yn gallu rhoi gwybod i bobl am bwysigrwydd cydymffurfio â'r terfyn cyflymder yn y lleoliadau hyn, tra'n parhau i erlyn y gyrwyr mwyaf peryglus."

Felly, o’r 4ydd o Hydref, 2021, byddwch yn ymwybodol o'ch cyflymder ar hyd yr M4 gan y gallwch bellach dderbyn dirwy neu lythyr am bob trosedd goryrru, boed hynny am resymau diogelwch ar y ffyrdd neu'r amgylchedd. Mae GanBwyll yn gofyn i bob modurwr sefyll lan dro arafu lawr a chydymffurfio â'r cyfyngiad cyflymder cyfreithiol I sicrhau dyfodol mwy diogel ac iachach i Gymru.

Gallwch ddarllen mwy am y Cyfyngiadau Cyflymder Amgylcheddol yma