Sbotolau Ar Safleoedd | Ffordd Llangefni, Llangefni, Ynys Mon

Ym mis Awst 2020, sefydlwyd safle camera symudol newydd ar hyd Ffordd Llangefni, Parc Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn.

Sefydlwyd y safle ar hyd y ffordd 30mya hon oherwydd pryderon gan drigolion a pherchnogion busnes am gyflymder gormodol yn yr ardal.

Cynhaliwyd arolwg cyflymder a chanfuwyd bod y cyflymder cyfartalog yn 37mya. Canfuwyd bod 86% o gerbydau yn teithio ar gyflymderau yn uwch na'r cyfyngiad cyfreithiol, gyda 44.4% o gerbydau yn teithio ar gyflymder dros 36mya a 13.3% ar gyflymder o 45mya neu fwy.

Yr hyn a oedd yn arbennig o bryderus oedd bod y cyflymderau gormodol hyn yn cael eu cofnodi o amgylch Meithrinfa leol.

Er na chofnodwyd unrhyw wrthdrawiadau yn yr ardal yn ystod y tair blynedd diwethaf, penderfynwyd bod digon o risgiau a pheryglon ar y safle i gyfiawnhau gorfodi.

Mae'r safle mewn ardal drefol gydag adeiladau busnes ar ddwy ochr y ffordd. Mae llwybrau troed a llwybrau beicio ar hyd y ffordd hon hefyd. Pryder mawr yw bod y ffordd yn cael ei defnyddio gan rieni i ollwng / codi eu plant o'r Feithrinfa. Tra bod adeilad y Feithrinfa ar lan uchaf gyda'i faes parcio ei hun, nid oes rhwystrau rhwng maes parcio'r Feithrinfa a’r briffordd.

Mae'r ffordd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan gerbydau nwyddau sy'n symud yn araf yn ôl ac ymlaen i fusnesau yn yr ardal. Mae'r cerbydau hyn yn aml yn symud i ffyrdd ochr a all weithiau effeithio ar eu gwelededd o gerbydau eraill sy'n teithio'n rhy agos neu'n rhy gyflym. Mae'r ffordd yn hir ac yn syth sy'n annog cyflymder gormodol trwy'r ardal.

Bydd gorfodaeth yn parhau ar y safle nes bydd nifer y nifer o gerbydau sy'n goryrru yn cael ei leihau'n sylweddol.