Sbotolau ar Safleoedd | B4337, Cribyn

Yn 2009 cynhaliwyd arolwg cyflymder ar hyd y B4337, Cribyn, yn dilyn pryderon a godwyd gan drigolion am gerbydau’n goryrru ar hyd y ffordd.

Dangosodd yr arolwg cyflymder fod 76% o gerbydau yn teithio ar gyflymder yn uwch na'r cyfyngiad cyflymder o 30mya, gyda cyflymder cyfartalog wedi'i gofnodi ar 35mya a 40% o gerbydau yn teithio ar gyflymder o 42mya neu fwy.

Dechreuodd GanBwyll orfodi yn y safle yma ar 21ain o Fai, 2010.

Yn 2019, cynhaliwyd arolwg cyflymder arall a ddangosodd bod 65% o gerbydau yn teithio ar gyflymder yn uwch na'r cyfyngiad cyflymder. Cofnodwyd cyflymder cyfartalog o 32mya gyda 38% o gerbydau yn teithio ar gyflymder o 42mya neu fwy.

Bu un gwrthdrawiad ar y ffordd yma yn ystod y 6 blynedd diwethaf, gydag 1 person yn dioddef man anafiadau.

Mae Ffordd B4337 wedi'i lleoli mewn ardal breswyl gydag ystadau tai sefydledig. Mae arosfannau bysiau ar hyd y llwybr hwn, gyda rhain yn arbennig o brysur gyda phlant yn mynd yn ôl ac ymlaen i ysgolion lleol.

Mae'r ffordd hon hefyd yn cael ei defnyddio'n aml gan deuluoedd, sy'n cerdded i'r ysgol gynradd leol ar y rhan yma o'r ffordd.

Mae yna nifer o gyfleusterau cyhoeddus ar y ffordd hon sy'n cael eu defnyddio gan gerbydau a cherddwyr, sef caffis, addoldai a llwybrau troed cyhoeddus.

Mae yna hefyd rai gwrychoedd uchel ar ochr y ffordd a all leihau gwelededd yn ystod misoedd y gwanwyn / haf.

Er gwaethaf gorfodaeth reolaidd dros y 10 mlynedd diwethaf, mae modurwyr yn parhau i oryrru. Er y gwelwyd gostyngiadau mewn cyflymder mewn arolygon cyflymder diweddar, nid yw'r gostyngiad yn ddigonol i leihau neu roi'r gorau i orfodi ar hyn o bryd.