Op Snap | Driver receives 9 points and £386 fine following close pass

Ar fore'r 26ain o Fehefin, 2021 recordiwyd tystiolaeth o fodurwr yn gyrru heb ofal a sylw dyledus ar yr A4054, Ffordd Caerdydd, Pontypridd.

Roedd y modurwr yn teithio y tu ôl i grŵp o feicwyr, ac wrth iddynty agosáu at ynys draffig yng nghanol y ffordd fe symudodd y modurwr yn gyflym i oddiweddyd y beicwyr. Roedd y symudiad hwn yn ddiofal gan gynyddu'r risg i ddiogelwch y beicwyr dan sylw yn ddifrifol.

Pan adolygodd ein swyddogion y fideo a gyflwynwyd i GanBwyll drwy Weithrediad SNAP, roeddent o'r farn bod safon y gyrru mor wael fel na fyddai cynnig y cwrs arferol a / neu gosb sefydlog i'r troseddwr wedi adlewyrchu difrifoldeb y digwyddiad ac anfonwyd yr achos yn syth i'r Llys.

Ar y 18fed o Awst, 2021 plediodd y modurwr yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd i drosedd o yrru heb ofal a sylw dyledus, lle derbyniodd ddirwy o £386 a 9 pwynt cosb ar ei drwydded; 9 pwynt cosb yw'r uchafswm y gallwch ei dderbyn am yrru heb ofal a sylw dyledus.

Mae beicwyr yn cael eu cyfri fel defnyddwyr ffyrdd bregus ac mae ganddyn nhw bob hawl i ddefnyddio'r ffyrdd yn ddiogel ac yn hyderus. Wrth oddiweddyd beiciwr, dylai modurwyr adael pellter diogel o 1.5m o leiaf rhwng eu cerbyd a'r beiciwr.

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth gadw ein ffyrdd yn ddiogel i bawb. Mae pasys agos diofal, fel yr un a gofnodwyd yn y digwyddiad hwn, yn peryglu diogelwch beicwyr. Mae canlyniad y digwyddiad diofal hwn yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd. Rydym i gyd yn rhannu'r ffordd a dylem allu gwneud hynny'n hyderus. Pan yn gyrru tuag at feiciwr, byddwch yn amyneddgar ac arhoswch nes y gallwch oddiweddyd yn ddiogel. ”

Os ydych wedi bod yn dyst i bas agos neu unrhyw ymddygiad peryglus neu ddiofal arall ar ffyrdd Cymru, gallwch gyflwyno'ch lluniau fideo neu ddelweddau i ni trwy Weithrediad SNAP.